"Dyma oen Duw". Os am ddechrau deall peth o arwyddocâd y tri gair syml yma, mae gofyn darllen yr epistol at yr Hebreaid er mwyn amgyffred pa mor gymhleth yw'r broblem. Ond perthyn i fyd esboniadaeth mae hynny, ac nid dyna faes y cyfieithydd; rhaid i hwnnw ymfodloni ar drosi geiriau'n gywir a chyfoes. Ac eto, tybed ai cyfieithiad moel sy'n gywir bob amser? "Gwaed" dyna i chwi air â chymylau o ystyr yn codi oddi wrtho! Wyneb yn wyneb â'i gymhlethdod fe benderfynodd cyfieithwyr y Testament Newydd yn ei argraffiad cyntaf, roi "marw arberthol" yn ei Ie yn Rhuf. 3:25. Canmol a wnaeth y mwyafrif gan ei fod yn gwneud yr ystyr lawer mwy eglur. Ond esboniad yw "marw aberthol" ac nid cyfieithiad. Nid esbonio yw priod waith y cyfieithydd ond trosi, er bod y ffin rhwng y ddau yn un anelwig ac y mae'n demtasiwn i wneud trosiad yn fwy ystyrlon drwy ychwanegu mymryn ato. Un ffordd i ddiogelu dilysrwydd y cyfieithiad, pan fo'r cyfieithwyr yn teimlo bod angen 'cyfieithu llac' er mwyn bod yn ystyrlon yw cynnwys y trosiad llythrennol mewn nodyn gwaelod y ddalen. Mae llawer i'w ddweud o blaid rhoi "marw aberthol" yn Rhuf. 3:25, ond dylid fod wedi rhoi "gwaed" ar droed y ddalen, fel y gwnaed yn yr un adnod yn achos y cyfieithiad SYMUD EGLWYS Mae emyn mawr Dafydd William Llandeilo Fach, Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau, yn un o emynau enwocaf Cymru. Ychydig a wyr mai tra'n mochel glaw (neu gyn- ddaredd ei wraig yn ôl y fersiwn llai parchus o'r stori!) yng nghyntedd eglwys Llandeilo Tal-y-bont yr ysgrifennwyd hi. Ymhen ychydig flynyddoedd bydd yr eglwys mor enwog â'r emyn. Oherwydd dair blynedd yn ôl cychwynnodd Adran Adeiladau a Bywyd Cartref Amgueddfa Werin Cymru ar ei chynllun mwyaf uchelgeisiol eto, sef dymchwel yr eglwys hynafol hon o Orllewin Morgannwg a'i hail-adeiladu yn Sain Ffagan. Hawdd deall dewis Dafydd William o ddelweddau gan fod yr afon Llwchwr yn dal i godi i amgylchynu'r eglwys bob tro y bydd llanw uchel neu storm. Dyma'r fan isaf IIe gellid croesi'r afon yn yr Oesoedd Canol, ac yr oedd y groesfan mor bwysig i'r brodorion ac i'r pererinion ar eu ffordd i Dyddewi fel yr amddiffynid hi gan ddau gastell mwnt a beili. Yr afon oedd y ffin rhwng hen dywysogaethau Dyfed a Morgannwg ac mae'n debyg i bentref dyfu yma oddi amgylch yr eglwys. Bu eglwys wedi ei chysegru i Deilo yn y fan hon ers y 6ed ganrif er nad oedd dim olion hyn na'r "yn foddion puredigaeth". Yma rhoesant "Neu, yn dru- gareddfa. Neu yn ddihuddiant. Neu, yn iawn" ar droed y ddalen yn yr ail argraffiad, mewn ymateb i'r gŵyn fod y gair 'iawn' wedi ei golli. Ni wyr neb sut i drosi'r gair Groeg a geir yma yn foddhaol, ond ei drosi â'r gair "iawn" fyddai'r olaf y byddwn i am ei gefnogi yn ôl y wybodaeth sydd ar gael hyd yn hyn. Y feirniadaeth ar y BCN a glywir fynychaf oll yw, "Y mae'n well gennyf fi'r hen gyfieithiad" Gadewch inni ddweud yn gwbl glir, "Nid oes dim cyfiawnhad i feirniadaeth ar sail hiraeth." Nid dweud yr hyn sy'n mynd i blesio a suo gwran- dawyr i gysgu yn swn geiriau cyfarwydd yw pwrpas y cyfieithiad newydd, ond dweud wrth Gymro'r 20fed ganrif mewn geiriau mor gywir ac eglur ag sy'n bosib, beth yr oedd Eseia neu Hagai neu Paul neu Iesu Grist ei hun yn ei ddweud wrth Israeliaid eu dydd. Nid gofyn a ddylem, "A wyffi'n hoffi hwn 'na?" ond yn hytrach, "Ai dyna oedd hwn a hwn yn ei ddweud, o ddifrif?" Wrth reswm, y mae mwy nag un ffordd o ddweud yr un peth, ac y mae angen dawn llenor yn ogystal â gwybodaeth ieithydd er mwyn cynhyrchu cyfieithiad boddhaol, a gorau oll os gellir cyfuno'r ddau mewn un dyn; ond oes y pwyllgorau a'r paneli yw hon. 14eg ganrif yn yr eglwys bresennol. Ond erbyn 1852 yr oedd Pontarddulais wedi datblygu'n ddigon o ganolfan i hawlio statws plwyf ei hunan a chodwyd eglwys newydd yn y dref gan uno hen blwyf Llandeilo Tal-y-bont â'r un newydd. Ond o hynny ymlaen ni chynhaliwyd gwasanaethau yn yr hen eglwys ond dair gwaith y flwyddyn hyd at 1972. Dirywiodd cyflwr yr eglwys er ymdrech- ion glew y rheithoriaid a'r plwyfolion. Dechreuodd ei muriau hollti oherwydd effeithiau hen weithfeydd glo yn ddwfn o dan ei seiliau a milwriodd ei lleoliad anghysbell yng nghanol y gors yn erbyn ei hamddiffyn rhag problemau mwy meidrol eu natur hefyd. Maluriwyd yr allor a'r seddau gan fandaliaid, ac ym mis Tachwedd 1984 dwynwyd yr holl lechi oddi ar y to. Nid oedd gobaith mwyach o adfer yr adeilad ar ei safle gwreiddiol, a phenderfynodd Amgueddfa Werin Cymru dderbyn yr awgrymiadau lleol mai ail-godi'r eglwys yn Sain Ffagan fyddai ei hunig obaith. Yr oedd yr Amgueddfa wedi ymddiddori yn yr eglwys er 1982 gan ei bod yn fwriad ganddi erioed ychwanegu eglwys blwyf at y casgliad cenedlaethol o adeiladau a ail-godwyd ganddi: wedi'r cwbl, ail-adeiladwyd capel Undodaidd Pen-rhiw o Drefach-Felindre mor bell yn ôl â 1956. Archwiliwyd sawl eglwys dros y blynyddoedd, ond yr oedd rhai yn rhy fawr, eraill yn rhy anghysbell, ac eraill eto wedi eu newid gan benseiri oes Fictoria. Roedd Llandeilo Tal-y-bont fel pe bai'n ateb y gofynion yn berffaith. Adeilad o tua 1400 oedd heb lawer o newid, gyda chorff a changell wedi eu rhannu gan bileri trwchus a chyntefig eu golwg, a heb dwr iddi. Yr oedd hefyd mewn perygl mawr. Yr oedd yn fwy diddorol fyth gan y gwyddid fod ynddi olion murluniau o fwy nag un cyfnod. Nid oedd darganfod olion murluniau yn syndod mewn gwirionedd. Mae ein darlun arferol o eglwys blwyf hynafol heddiw yn sicr o gynnwys muriau gwyngalchog yn rhoi teimlad hyfryd o lonyddwch a hedd oesol. Ond nodwedd ddiweddar yw hyn mewn gwirionedd: hyd at y ganrif ddiwethaf yr oedd eglwysi yn fôr o liw oddi mewn gyda phob mur yn dwyn darluniau o ddigwyddiadau Beibl- aidd, arfbeisiau brenhinol neu adnodau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bwriad esboniadol oedd i'r murluniau hyn yn wreiddiol, oherwydd Lladin oedd iaith y gwasanaeth yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol ac ni fyddai'r gynulleidfa yn deall gair; ond drwy gyfrwng darluniau lliwgar gallai'r plwyfolion ddeall neges yr Ysgrythur yn well. Ystyrid lluniau fel hyn yn rhan annatod o Babyddiaeth adeg y Diwygiad Protestannaidd a gorchuddiwyd hwy, ac o hynny ymlaen ceir adnodau a thestunau o'r Beibl yn ymddangos, ac o'r 17eg ganrif adnodau yn Gymraeg. Parhaodd yr arfer i'r 18fed ganrif yn sicr,