SYLFEINI CRED JEAN CALVIN: Institutio Christianae Religionis 1536 Dr. J. Gwynfor Jones Alltud oedd y Ffrancwr Jean Calvin un o arweinwyr mwyaf dylanwadol y Diwygiad Protestannaidd yn Ewrop pan gyhoeddwyd argraffiad cyntaf o'i waith mawr Institutes of the Christian Religion (Institutio Christianae Religionis) yn ninas Basel yn y Swistir ym Mawrth 1536 bedwar can mlynedd a hanner yn ôl. O gofio mai dim ond chwech-ar- hugain oed ydoedd ar y pryd a'i fod prin bum mlynedd cyn hynny wedi penderfynu astudio'r gyfraith yn hytrach na diwinyddiaeth y mae ei gamp yn anghyffredin. Tua'r flwyddyn 1533 cawsai Calvin droedigaeth sydyn a'i gwnaeth yn ymlynwr di-ildio wrth ddiwygwyr crefyddol ei ddydd. Tawelodd a dofodd Duw fy enaid caled' meddai yn ei ragarweiniad i'w esboniad ar y Salmau, a bu hynny'n ddylanwad pwerus ar y cyfreithiwr brwd a gawsai ei hyf- forddiant addysgol yn Bourges a Paris. Teimlai o hynny ymlaen fod ei yrfa yn alwad ddwyfol i ymwrthod â Phabydd- iaeth a gosod sylfeini eglwys burach ei dogma a'i threfniadaeth. Wedi i Galvin gyrraedd Basel yn Chwefror 1535 trefnodd i'w Institutes gael eu cyhoeddi. Adolygwyd y cyfanwaith ym 1539, 1543 a 1550 ac ymddangosodd yr argraffiad Lladin llawnaf a therfynol ym 1559. Roedd hwnnw bedair gwaith fwy ei faint na'r argraffiad cyntaf. Cyfrifir y fersiwn Ffrengig ohono, a gyhoeddwyd y tro cyntaf ganddo yn Basel ym 1541, yn gyfraniad hynod i hanes twf y traddodiad rhyddiaith yn Ffrainc, ac ymddangosodd y fersiwn olaf yn yr iaith honno ym 1560. Fe'i cyfieithiwyd i'r Saesneg gan Thomas Norton ym 1561. Hanfod ei syniadau Cyflwynwyd yr Institutes i'r brenin Ffransis 1 o Ffrainc, erlidiwr Protestaniaid a geisiai roi terfyn ar rwygiadau crefyddol yn ei deyrnas ac a fu'n gyfrifol am ymadawiad Calvin o'i wlad enedigol. Bwriad y cyflwyniad oedd galw am ymchwiliad manwl i'r sefyllfa grefyddol yn Ffrainc a cheisio darbwyllo'r brenin i wrthod Pabyddiaeth a ffafrio syniadau diwinyddol newydd. Methiant llwyr fu hynny ond bu'r Institutes eu hunain yn gyfrwng i roi i Galvin y lle blaenaf ymhlith arweinwyr Protestannaidd blynyddoedd canol yr unfed ganrif ar bymtheg yn Ewrop. Gelwid yr Institutes yn summa theologica y grefydd Brotes- tannaidd. Eto, nid gwaith sustematig tebyg i gampwaith y brawd o Urdd St. Dominic, St. Thomas Aquinas, ydoedd. Dylid ei ddisgrifio'n hytrach yn rhagarweiniad a hyf- forddiant i'r ffydd Gristnogol yn ôl dehongliad Calvin ohoni. Nid ystyrid yr Institutes o bell ffordd fel y gair olaf ar fater diwinyddiaeth eithr yn hytrach cyflwyniad eglur a chytbwys ydoedd o feddylfryd a syniadaeth Calvin ar drothwy ei gyfnod mawr yng Ngenefa (1536-64). Ystyrir yr Institutes yn waith beirniadol manwl ar ystyr crefydd ym mywyd y credadun. Fe'i cyhoeddwyd gan wr o feddwl treiddgar disgybledig a gynigiai egwyddorion ei ffydd ber- sonol ef yn sail gyfreithiol i'r eglwys newydd theocrataidd y bu iddo'i sefydlu yn y ddinas honno. Amlygid yn y gwaith ei drefnusrwydd a'i ddull rhesymegol o fynegi ei argyhoedd- iadau. Credai mewn rhoi'r líe blaenaf i hanfodion y ffydd: parhau gogoniant Duw a chynnal y safle anrhydeddus a roed i'r gwirionedd dwyfol. Crynhoir yn yr Institutes ddiwin- yddiaeth Brotestannaidd a thrwyddynt darperid rheol grefyddol unffurf a gynigiai arweiniad i bob Cristion a wrthryfelai'n erbyn Rhufain. Awdurdod Duw a'r Eglwys Ym marn Calvin ni ddylid goddef dim yn yr eglwys na awdurdodid gan yr ysgrythurau. Cyfystyrid ei ddiwinydd- iaeth ef â dysgeidiaeth y Beibl. Ohono y cawsai ei ysbrydoliaeth a'i syniadaeth. Gwrthwynebai athrawiaethau Rhufain, paganiaeth clasuriaeth newydd y Dadeni, a daliadau sect radicalaidd yr Ailfedyddwyr a gredai ym medydd credinwyr ac y dylid gwahanu'r eglwys a'r wlad- wriaeth. Ei fwriad oedd cyflwyno athrawiaeth ganolog y Beibl yn drefnus ac egluro'r datguddiad achubol o Dduw yng Nghrist. Rhoddodd i'r Hen Destament safle gydradd â'r Testament Newydd a dehonglai Crist yn ffigur allweddol yn