Ymdrechai i ddeall eu harwyddocâd, ac yna cynnig ei gyfieithiad ei hun. Nid anwybyddai esbonwyr cyfredol fel Melanchthon, Bucer, a Bullinger nac ychwaith y Tadau Eglwysig. Brithir ei esboniadau gan gyfeiriadau at Awstin, Jerôm a Chrysostom, ac at Tertulian, Cyprian, Irenaeus, Origen, Cyril o Alecsandria, Hilary, Lactanius ac eraill. Ym gynghorai â gweithiau'r gwyr uchod er mwyn y cymorth a allent roi iddo i ddeall yr Ysgrythur. Prif gwyn Calfin yn erbyn y tri cyntaf a enwyd oedd eu tuedd i alegoreiddio'r Ysgrythur, a thrwy hynny wneud cam â hi. Nid nad oedd eu sylwadau ar destun gosodedig o'r Ysgrythur yn dda, meddai, ond eu bod yn amherthnasol i fwriad yr ysgrifennwr. Pan brotestiai Calfin yn erbyn alegoreiddio, nid protestio yr oedd yn erbyn darganfod ystyr nad oedd yno. Yr unig ddehong- liad dilys o destun yw'r un sy'n gwneud cyfiawnder â bwriad yr awdwr. Adlewyrchir yn ei brotest ei hyfforddiant hiw- manistaidd. Yr oedd alegori yn gwbl groes i'r canon hiw- manistig o ddehongli; a 'llythrenoliaeth', h.y., y dymuniad i ddeall meddwl yr awdur ei hun, yn perthyn i hanfod y dull hwnnw. Yn drydydd, felly, mae'n rhaid i'r dehonglwr adael i'r testun ddweud ei neges ei hun, ac nid darllen ynddo'r neges y dymunai iddo'i ddweud. Nid oes gan yr Ysgrythur 'drwyn o gẁyr' y gellir ei drin a'i droi yn ôl ein mympwy personol ni. Y mae ffyddlondeb y dehonglwr i'w destun yn gwbl anhepgor. Un o oblygiadau'r ffyddlondeb hwnnw yw diogelu nad ysgerir y testun a'r cyd-destun. Yn 2 Thesaloniaid 3:10, er enghraifft, dywedir, 'Ós byddai neb ni fynnai weithio, ni châi fwyta chwaith'. Oni sylwn ar y cyd-destun fe ellid ar sail y geiriau hynny gondemnio plant bach i farwolaeth trwy newyn. Datguddio Duw I gloi'r drafodaeth hon ar Calfin a'r Beibl nodwn un egwydd- or arall, a'r bwysicaf, yn ei hermeniwteg, sef scopus yr Ysgrythur. Â diben yr Ysgrythur y mae a wnelo'r gair scopus yn y cyswllt hwn ac nid â'i chwmpas a'r diben hwnnw yn ôl Calfin, yw datguddio i ni pwy yw Duw mewn gwirionedd. Drugarog Dduw, gerbron dy Orsedd Di Mewn edifeirwch, cyd-ddyrchafwn gri, Gan addef inni'n fynych roddi bri Ar arfau cad. Dywysog Hedd, mae'n hofnau yn dwysáu A tharo rhwng cenhedloedd yn parhau, A ninnau mewn gorffwylledd yn pellhau O'th Iwybrau Di. Erglyw ein llef, yn enw'r Hwn a roes Ei einioes drosom ar bren garw'r Groes, A dychwel ni, i feithrin drwy ein hoes Dy heddwch Di. T. Elfyn Jones Ond prysura i ychwanegu mai rhinweddau Duw a ddat- guddir yn yr Ysgrythur, nid ei hanfod. Yn narlun Calfin o Dduw un o'r geiriau allweddol yw 'addasu', gair sydd ag iddo Ie amlwg yng ngwaith Origen. Ymhlyg yn y gair y mae'r ddelwedd o oedolyn yn plygu i gyfarfod â gofynion plentyn, neu dad yn gofalu am ei blant ac yn mabwysiadu eu ffyrdd. Addasa Duw ei hun, medd Calfin, i'n sefyllfa feidrol ni ac i'n cyflwr pechâdurus. Datguddia ei hun i ni, trwy'r Ysgrythur, fel ein Tad, fel ein Hathro, ac fel ein Meddyg sy'n deall ein hafiechyd ac sy'n cynnig i ni feddyginiaeth. Y mae adnabod Duw, felly, yn golygu ei adnabod yn y rhinweddau hynny ac nid yn ei hanfod. Y mae hanfod Duw ymhell y tu hwnt i'n deall a'n hamgyffrediad ni. Ar ddechrau ei Institutio y mae Calfin yn codi'r cwestiwn, Beth yw Duw? Ond gwna hynny er mwyn pwysleisio mai chwarae â dyfaliadau ofer y mae'r rhai sy'n ceisio ateb y cwestiwn. Fe'n rhybuddia'n gyson rhag bod yn chwilfrydig; rhag gofyn cwestiynau nad oes fodd inni gael ateb iddynt. Ond, os felly, sut y mae'r wybodaeth am Dduw yn dod i ni? Ateb Calfin yw mai yng Nghrist y mae ffynhonnell gwir grefydd wedi'i rhoi i ni. Heb Grist nid oes i ni ddyfodfa at Dduw na gwybodaeth amdano. Nid yw'n gwadu fod y drefn naturiol yn datguddio Duw (fel Creawdwr yn unig, nid fel Gwaredwr), ond mynn na all dyn, oherwydd ei ddallineb, weld y datguddiad hwnnw. Gall gael rhyw syniad fod rhyw- beth neu rywun yno, ond ni all weld Duw yn y cread heb wisgo sbectol yr Ysgrythur, a dysgu am Dduw o'r gair ysgrifenedig. Y rheswm am hyn yw mai yng Nghrist y mae Duw wedi datguddio'i gyfiawnder, ei ddoethineb a'i ddaioni, ie, y cyfan ohono'i hun. Ar wahân i Grist nid yw'r hyn, neu'r hwn, a elwir gennym yn Dduw namyn eilun. Crist, felly, yw scopus yr Ysgrythur, a scopus esboniadaeth Feiblaidd yw tywys pobl i adnabod Crist, bugail ein heneidiau a thywysog ein hiachawdwriaeth. I Calfin tasg ymarferol oedd diwinydda, nid tasg ddamcaniaethol. Ei hamcan yw dwyn ein holl fywyd i gydymffurfio ag ewyllys Duw yng Nghrist. E. Stanley John Emyn Heddwch Rhag cynnau fflam i ddifa popeth byw, Rhag troi dy ddaear Di yn anial gwyw, Rhag llygru gwaith dy ddwylo, Arglwydd Dduw Darbwylla ni. Dy nodded rho i'r gweddill ymhob gwlad Sy'n goddef dig a chlwy a phob sarhad Wrth dreulio'u bywyd brau i daenu had Dy gymod Di.