M»l» MLYlOTSOTIn Dathlu Bu'r flwyddyn 1986 yn gyfoethog mewn dathliadau. Bu dathlu naw canmlwyddiant ymddangosiad Llyfr Dydd y Farn (Domes- day Book), gyda'i archwiliad manwl o ddeiliaid teyrnas Gwilym Orchfygwr a'u heiddo ym 1086. droi i'r maes Cristnogol, neu o faes eiddo tymhorol at gyfoeth yr Ysbryd, roedd hi'n ganmlwyddiant geni Karl Barth, yn Berne yn y Swisdir, ac yn dri chanmlwyddiant geni William Law, awdur 'A Serious Call to a Devout and Holy Life', yn Kings Cliffe yn Swydd Northampton. Gwelodd 1986 hefyd ddathlu pedwar can mlwyddiant a hanner ymddangosiad un o glasuron mawr y byd Cristnogol sef 'Bann- au'r Grefydd Gristnogol', John Calfin. Cyf- rannodd y Dr. John Gwynfor Jones erthygl werthfawr ar yr 'lnstitutes' i'r rhifyn hwn o CRISTION a chyflwynodd yr Athro E. Stanley John lith eglur ar nodweddion John Calfin fel esboniwr Beiblaidd i ddathlu'r achlysur. Mae un dathliad arall y dylid cyfeirio ato a hynny ydyw dathlu 1,600 mlwyddiant troedigaeth Awstin Sant ar ddiwrnod o fis Awst yn ninas Milan yn yr Eidal. Cyfeiriwyd at y droedigaeth honno mewn gardd ym Milan fel un o ddigwyddiadau mawr creadigol hanes, ac yn wir yn Awstin fe gafodd yr Eglwys Gristnogol feddyliwr eithriadol o braff a ddylanwadodd, nid yn unig ar ddiwinyddiaeth yr Eglwys, ond a fu'n ddylanwad creiddiol ar feddylfryd Ewrob yn ystod canrifoedd yr Oesoedd Canol a'r tu hwnt i hynny. Ochr yn ochr â'i bwyslais Beiblaidd ar Ragarfaeth a'i ysgrifennu grymus ar bwnc y Drindod mae'n rhaid sôn am y dylanwad Platonaidd ar ei feddwl effro. Dylanwad a'i arweiniodd ef dynnu'r gwahaniaeth rhwng datguddiad cyffredinol a datguddiad arbennig, pwyslais a gafodd ddylanwad trwm ar athroniaeth Ewropeaidd hyd at fynegiant grymus Tomos o Acwino o'r pwyslais Aris- totelaidd yn y drydedd ganrif ar ddeg, a phwyslais, yn wir, a ddylanwadodd ar ddiwinyddion mor agos at ein dyddiau ni â John Baillie a Richard Niebuhr. Ond efallai mai prif ddylanwad Awstin ar feddwl Ewrob oedd y modd y bu iddo, yn ei ddwy gyfrol ar hugain sy'n dwyn y teitl Dinas Duw, osod seiliau diogel hanesydd- iaeth y Gorllewin. Gyda'i bwyslais cadarn ar farn Duw fel barn sy'n gweithredu mewn hanes, ac yn cywain o fethiant y gwareidd- iad dynol sy'n nodweddu Dinas y Byd y gymdeithas ddwyfol sy'n hanfod Dinas Duw, rhoddodd Awstin daw ar y tuedd- iadau hynny mewn hanesyddiaeth Roegaidd (a fenthyciwyd o'r India a'r dwyrain pell) a bwysleisiai natur gylchynol hanes, a pharodd i bobl feddwl am hanes fel llinell syth yn berchen ar ddiben a phwrpas. Mewn gair Awstin Sant yw tad hanesydd- iaeth y Gorllewin. Dyna paham y mae ystyr hanesyddol arbennig mewn dathlu hanes ei droedigaeth wedi'r holl ganrifoedd. Yr Ymgnawdoliad Mae'n rhaid i mi gyfaddef mod i'n eithriadol о hoff о garolau'r Nadoliq Am wn nad yr emyn Adfent: 'O! tyred Di Emaniw A datod rwymau Isr, 7 ) 1987 gyda'i ddisgwylgai pwrpasó\" mesuredig yw fy hoff emyn. Ac wrth i'r Nadolig nesáu mae apêl dawel ddinas Bethlehem' ac 'O! deuwch, ffyddloniaid, Oll dan orfoleddu' yn gyfareddol. 'Y digwyddiad a dorrodd asgwrn cefn hanes', meddai'r hanesydd H. A. L. Fisher am yr Ymgnawdoliad. Ond mae pen- dantrwydd hanesyddol dyfodiad Duw yn gnawd yn fwy nag y gall y rhan fwyaf o grefyddwyr ei stumogi. Mawr yw dirgelwch duwioldeb a busnes dyrys yw ymwneud y Dwyfol â'r dynol. Mae'r rhan fwyaf o athroniaeth ein dydd yn mynnu fod y fath gysylltiad yn amhosibl ac nad ydyw sôn amdano'n gwneud synnwyr o gwbl. Mae athroniaeth crefydd a diwinyddiaethau crefyddau'r byd, ar wahân Islam, am adael dull yr ymwneud dwyfol yn fwy penagored ac amrywiol gan awgrymu fod y dwyfol yn medru ymweld â'r dynol mewn llawer dull a llawer modd, a bod y dulliau amrywiol hyn mor ddilys â'i gilydd bob un. Yn y modd hwn gobeithir osgoi tramgwydd y culni hanes- yddol penodol sy'n nodweddu athrawiaeth yr Ymgnawdoliad. Cafodd y pwyslais penagored hwn gryn ddylanwad arddiwinyddiaeth Gristolegol yr Eglwys Gristionogol yn ddiweddar gyda'r gair myth yn cynyddu mewn bri. Mantais pwysleisio MYTHOS, neu elfen fythaidd, y datguddiad Cristionogol yw y gellir cadw pwysau dylanwad y credoau Cristionogol a'u pwyslais moesol, ond gan hepgor unigrywiaeth an-hanesyddol anghyfleus Duw'n gwisgo cnawd un person penodol. Yr hyn sydd angen ei ddeall yn eglur yw fod y gwrthodiad gydnabod ymyrraeth unigryw Duw yn hanes y byd ym mherson lesu Grist y Gwaredwr yn sicr o droi'r Atgyfodiad yn broblem fawr. Ond os yw Duw wedi ymyrryd mewn modd cwbl rhyfeddol yn Ymgnawdoliad ei Fab, peth hawdd wedyn yw derbyn athrawiaeth yr Atgyfodiad. Meddai gweinidog ifanc treiddgar a bywiog wrthyf yn ddiweddar, 'Rwy' wrth fy modd gyda gwasanaethau'r Nadolig ond mae Su1 y Pasg yn broblem imi'. Os mai datguddiad cyffredinol o'r dwyfol yn lled-gyffwrdd â'n meidroldeb ni a ddathlwn ni adeg y Nadolig, yna fe fydd yr Atgyfodiad yn broblem ni, ond os ar y llaw arall y gallwn ganu gyda Pantycelyn: 'Ymhlith holl ryfeddodau'r nef Hwn yw y mwyaf un Gweld yr anfeidrol, ddwyfol Fod Yn gwisgo natur dyn! yna fe ddilyn fel y mae'r naill ddiwrnod yn dilyn y llall y bydd Sul y Pasg yn Wyl 0 orfoleddu llawen. Cenhadu Mae'r rhifyn hwn o CRISTION yn rhoi sylw i sylfaenu Cymdeithas Genhadol yr Eglwys Fethodistaidd ddwy ganrif yn ôl (Gweler erthygl y Parchedig Eric Edwards ar Thomas Coke, Cymro a Chenhadwr). Mae hi'n werth crybwyll y ffaith fod y Gymdeithas Genhadol honno a gychwynwyd gan un dyn erbyn heddiw yn cynnal 166 0 genhadon, 80 ohonynt yn Affrica, ynghyd a chroesawu 15 o genhadon i Brydain o wledydd eraill. Cefais y fraint ym mis Medi o fod yn bresennol mewn Cynhadledd Genhadol ryng-enwadol a chyd-eglwysig CFWM yn High Leigh, Hoddesdon, Swydd Hertford. A braint ydoedd hi hefyd achos nid yn unig y cafodd dyn gyfle wrando ar rai dywediadau cofiadwy, ond fe gafodd y wefr a'r gwewyr mewn grwp trafod a chylch gwaith o geisio dirnad, ynghyd a'r saint, ystyr a gogwydd cenhadu Cristionogol heddiw. Y dywediadau cofiadwy ddechrau. Dyma rai ohonynt: "Gadawn yr argraff gyda'n myfyrwyr mai canolbwynt problemau yw lesu Grist yn hytrach na chanolbwynt datguddiad." (Prifathro Coleg Diwinyddol). "Dydi pobl yr India ddim eisiau clywed sôn am Deyrnas Dduw. Mae'r gair Teyrnas yn sawru o'r Deyrnas Unedig ni gyda'r pwyslais ar orchfygu a'r Ymherodraeth Brydeinig. Ry'ch chi wedi difwyno'r gair Teyrnas i'n clustiau ni." (Cristion o'r India). "Galwad gyntaf cenhadaeth yw talu sylw eraill, nid mi fy hunan nac i'r Eglwys." (Darlithydd ar Genhadaeth). "Mae'n rhaid imi lusgofy ffordd ymlaen ar ffynnau baglau gwybodaeth oni rydd cariad ei adenydd mi hedeg." (Gwraig Tŷ o'r Alban). (Parhad ar dudalen 20).