Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pa beth yw'r Nadolig? Pa beth yw'r Nadolig onid yw'n ddathliad o ymwneud cadarn Duw â'r holl ddynoliaeth ac â phob un ohonom? Fel y dywedodd yr Apostol Paul: 'Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau'n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef (2 Cor.8:9). Yr Ymgnaw- doliad yw'r mynegiant o gariad diddiwedd Duw a ddaeth i'r byd i rannu ein sefyllfa gan wisgo ein cnawd pechadurus a thrwy hynny ein cymryd ni gydag Ef drwy'r croeshoeliad a'r tu hwnt at yr atgyfodiad. Emilio Castro, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi'r Byd. Y Nadolig yw'r neges am ddatguddiad llawen Duw ohono Ef ei Hun yng Nghrist i'r holl bobl. Rhoddwyd y newyddion am enedigaeth Iesu yn y lle cyntaf i werinwyr a wyliai eu praidd liw nos. Y Nadolig hwn gorfoleddwn fod llawer, fel y bugeiliaid gynt sy'n derbyn yn llawen y newyddion da am ddyfodiad Crist fel yr un a fynnai eu hachub. Yng nghanol y grymusterau sy'n wadiad ar fywyd, ymlynant a safant wrth y bywyd a gynigiwyd yng Nghrist. Wrth iddynt glywed a darllen y stori cyfarfyddant â'r Iesu, yr Un yn ei wendid a heriodd yr arweinyddion crefyddol a gwleidyddol yn ddiofn, hyd at angau, a'r Un y cyfododd Duw Ef drachefn mewn grym i fywyd anorchfygol. Ac y mae nhw'n byw'r neges hon drwy rannu eu bywydau a'r hyn sydd ganddynt â'i gilydd. Yn eu gwendid heriant nerthoedd drygioni, yn eu dioddefaint gorfoleddant a lluniant ganiadau newydd o fawl a diolchgarwch i Dduw. Y rhai hyn yw gwir gyflwynwyr neges y Nadolig. Trosglwyddant hi mewn gair a gweithred. mewn ffydd, gobaith a chariad yn nerth yr Ysbryd Glân. Phillip Potter, cyn-Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi'r Byd. Tangnefedd ar y Ddaear Y Nadolig! Mae'r seren yn cyfeirio gan arwain at y plentyn sydd newydd ei eni. Goleuni yn y tywyllwch, Duw gyda ni. Y Nadolig! Mae plant yn marw o newyn bob yn ail eiliad. Mae'r byd yn suddo i dywyllwch tlodi, trais ac unigrwydd. Y Nadolig! Fe enir Duw. Fe gaiff y Ddynoliaeth ei geni. Y mae goleuni yn gryfach na thywyllwch. Mae Ffydd yn symud mynyddoedd, mae Gobaith yn codi'n calonnau, mae Cariad yn ennill y dydd ar farwolaeth. Y Nadolig! Mae goleuni'n llewyrchu drwy'r muriau ymwahanol a godasom. Rhwng nefoedd a daear, dynion a merched, hen ac ifanc, cyfoethog a thlawd, Gogledd a De, Dwyrain a Gorllewin, Goleuni sy'n cynhesu ein calonnau, yn goleuo'n llygaid ac sy'n toddi ein diffyg diddordeb oeraidd, ein rhagfarn a'n casineb, yn union fel y mae gwêr y gannwyll yn toddi i losgi a llewyrchu, fflam bywyd, fflam undod, fflam tangnefedd! O Gynhadledd Gristnogol Asia. Wedi ei Eni'n Dlawd Ganwyd Iesu'n dlawd a gwan. 'Roedd ei enedigaeth ar y Nadolig yn gadarnhad o wrthodiad Duw o drachwant, grym absoliwt, hunanoldeb, llygredd, ymffrost mewn cyfoeth a'r chwant anniwall i gasglu eiddo a'rtrefnu grym sy'n arwain at ormesu'r bobl. Wrth iddo gael ei eni'n ddyn tlawd dangos- odd yr Iesu i ni bod y gallu real sy'n diogelu ein hurddas fel bodau dynol yn gorwedd yng ngwerthoedd y Deyrnas. Mae'r gwerthoedd hyn yn rhedeg yn groes i'r grym bydol sy'n rhaid iddo wrth gyfoeth, grym, statws a dylanwad i'w gadw ei hunan mewn awdurdod. Gyda'i rym moesol fe ddeil yr Iesu i deyrnasu'n hir ar ol i'r ymerawdwyr a'r brenhinoedd mwyaf grymus ddiflannu o'r golwg. Mae ei frenhiniaeth ef yng nghalonnau credinwyr a ddyrchafodd uwchlaw amser a IIe. Gwelir ei rym Ef yn argyhoeddiad ei ganlynwyr sy'n dal i gyflwyno'u bywydau gan dderbyn â chalon lawn gost disgyblaeth. Mae ei ddylan- wad Ef, yn awr ac am byth, ym mywydau'r rheini a fynnai eu cyflwyno eu hunain i adeiladu cymdeithas gyflawn lle y caiff gwerthoedd y deyrnas gyfle i flodeuo fel lili'r dwr mewn llyn nad yw byth yn sychu. Karl Gasper o Ynysoedd y Philipi. Llun: Davies.