Gol: Ymhle y'ch ordeiniwyd chi'n weinidog? D.G.D: Ar Ynys Môn, ym mro Goronwy, yn eglwysi Moreia, Pentraeth a Seion Llanfair Mathafarn Eithaf. Dwy eglwys fechan ond cynnes dros ben. 'Roedd John Huxtable o Goleg Mansfield wedi'n cynghori ni fel myfyrwyr i ddechrau mewn eglwysi bychain er mwyn inni gael ein traed oddi tanom, ac fe gefais i brofiadau gwerthfawr dros ben yn ystod y tair blynedd a hanner a dreuliais yn Sir Fôn. Gol: Beth yw'r pethau sy'n dod i'r cof yn arbennig? D.G.D: Yr aelodau yn cyd-weithio â'i gilydd i godi Festri eu hunain yn Llanfair. Trefnu gwasanaethau Saesneg ar gyfer ymwelwyr yn ystod yr haf. Troi'r angladdau, a arferai ddigwydd yn Eglwys y Plwy' i gyd, yn fwy Ymneilltuol eu naws. Cael y bobl i fynd allan i ganu yn enwedig ar adeg y Nadolig — ac i ymweld â'r Ysbyty yn Llangefni, ac wrth wneud hynny dyfnhau perthynas yr Eglwys â'r gymdeithas. Dyna'r pethau sy'n dod i'r meddwl, a'r ddisgyblaeth a gefais o wrando ar y gynulleidfa yn trafod cynnwys pregeth y Sul cynt. Profiad a'm dysgodd i geisio osgoi dweud pethau ar fy nghyfer. Gol: Pa bryd ddechreusoch chifel darlithydd ar Roeg a Llenydd- iaeth y Testament Newydd yng Ngholeg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd? D.G.D: Ym mis Medi 1955. Er bod y Coleg wedi ei droi yn Goleg Preswyl ddwy flynedd ynghynt ychydig o gysylltiad cymdeithasol oedd rhyngof a'r myfyrwyr i ddechrau oher- wydd y patrwm set a fodolai ar y pryd, ac fe welais eisiau'r wedd fugeiliol i'r gwaith, ond yr oeddwn i'n ddigon prysur gyda dwy awr ar bymtheg o ddarlithoedd bob wythnos. Gol: 'Roeddech chi'n mwynhau darlithio? D.G.D: Oeddwn yn fawr. Efallai fod fy null o ddarlithio yn adwaith yn erbyn y modd y'm haddysgwyd gyda'r copïo nodiadau di-ddiwedd. Arferwn baratoi nodiadau cyflawn a'u cyflwyno i'r myfyrwyr a thrafod eu cynnwys gyda nhw. Fe allai rhai ddadlau bod y dull hwn o ddarlithio yn arwain y myfyrwyr i ddibynnu'n ormodol ar eu nodiadau a'u rhwystro rhag darllen yr esboniadau drostynt eu hunain. Ond mi roeddwn i'n mwynhau'r rapport rhwng athro a myfyriwr ac ni chefais i'r gwaith yn feichus un amser. Yn wir, mae unrhyw un sy'n cael y fraint o gyffwrdd â'r Testament Newydd yn mwynhau braint enfawr. Gol: Fe gawsoch eich apwyntio'n Brifathro'r Coleg wedyn? D.G.D: Do, ym 1970 a bu hynny. Cefais bymtheg mlynedd fel athro a phymtheg fel Prifathro. felly. Roedd y cyfnod yn rhannu'n ddestlus fel 'na. Gol: Oeddech chi'r un mor hoff o weinyddu ac o ddarlithio? D.G.D: Fe fum i'n ddigon hapus gyda'r gwaith gweinyddol. Cefais gyd-weithwyr ardderchog wrth gwrs. pobl yroedd hi'n fraint i'w hadnabod a bod yn eu cwmni fel Mansel John, Peter Saunders, fy olynydd Neville Clark a Michael Walker. Ceisiais weithio i wneud y Coleg yn un gymdeithas ac i greu Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd. perthynas rhwng Coleg y Bedyddwyr a sefydliadau addysgiadol yn yr Unol Daleithiau. Gol: Dwedwch ragor wrthym am y cysylltiad hwnnw. D.G.D: Sefydlwyd perthynas arbennig rhwng Coleg y Bedyddwyr a Phrifysgol Campbell Gogledd Carolina, gyda'r ddau Goleg yn cyfnewid myfyrwyr. Cefais fynd allan yno i ddarlithio am gyfnod ym 1980. a mis Mai diwethaf cefais y fraint o bregethu'r 'Commencement Sermon' ar achlysur dathlu canmlwyddiant Prifysgol Campbell. Pa Brifysgol ym Mhrydain a feddyliai am gychwyn ei dathliadau canmlwy- ddiant â phregeth? Gol: Osydwy'n cofion iawn fe gyflwynodd Prifysgol Campbell radd Doethur er anrhydedd ichwi am eich cyfraniad i addysg grefyddol. Mi hoffwn i sôn rhagor am yr agwedd hon ac am eich gwaith ar banel cyfieithiad newydd y Testament Newydd am gyf nod o ddeuddeng mlynedd ac am beth o 'ch gwaith cyhoeddedig 'Dod a Bod yn Gristîon 'a ch Darlith Pantyfedwen Canon y Testa- ment Newydd ei Ffurfiad a'i Genadwri'. Ond mae'n rhaid inni frysio heibio'r gwaith ysgolheigaidd hwn gan mod i eisiau eich holiynglŷn â chynnwys eich anerchiad wrth ichifyndyn Llywydd Undeb y Bedyddwyr yn Wrecsam ar ddechrau mis Medi. Rwy'n deall ichi roi cryn bwyslaisyn eich anerchiad ar y pwysigrwydd o ddarllen ac astudio 'r Beibl. D.G.D: Teimlais hi'n anrhydedd enfawr i gael bod yn aelod o banel cyfieithu'r Testament Newydd. Mae geiriau'r Ysgrythur yn holl bwysig i'r Cristion ac y mae hi'n destun gofid mawr i mi fod 75 y cant o aelodau'r Bedyddwyr yng Nghymru heb unrhyw gysylltiad ag Ysgol Sul na Dosbarth Beiblaidd ac felly yn eu hamddifadu eu hunain o'r cyfle i astudio'r Gair. Mae corff sy'n anwybyddu'r Gair a'r Geiriau'n farw. Dydw i ddim yn uniaethu'r Gair â geiriau'r Beibl. ond mi rydw i yn erbyn pob ymdrech i'w gwahanu. Os ydym yn cymryd Crist o ddifri', mae'n rhaid inni gymryd y geiriau o ddifri'. oherwydd y geiriau. geiriau'r Ysgrythur, sydd yn ein dwyn ni i adnabyddiaeth o Grist. 'Rwy'n sicro un peth. pan ddaw adfywiad ysbrydol i'n plith fe fydd y Beibl ar y brig. Fel un a gafodd y fraint o ymweld ag eglwysi dros