Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRO A CHENHÂDWR Eric Edwards Dydd Nadolig Cyn bod yn "hregethwr Wesle", "pregethwr" yn Eglwys Loegr oedd y Parch. Thomas Coke, MA. DCL, wedi'i ordeinio yn ddiacon, yn Rhydychen, ym 1770 a'i dderbyn yn offeiriad, Sul 23 Awst 1772, gan Esgob Tŷ Ddewi yn Abergwili. Ymhen pum mlynedd wedyn, efallai, Sul y Pasg. 1777 diswyddwyd ef o'i guradaeth yn South Petherton oherwydd iddo ogwyddo at ddaliadau John Wesley. Yn Coke cafodd Wesley hyd i'r cynorthwywr y bu'n chwilio'n hir amdano. Yn blygeiniol. Dydd Nadolig 1786, glaniodd Thomas Coke hefo tri o'i gynorthwywyr ar Ynys Antigua. Nid yno yr arfaethwyd glanio, gwneud am Ogledd America yr oedd y llong yr hwyliasent ynddi ond. cododd storm enbyd gan orfodi'r capten i geisio lloches a'r lle agosaf oedd Ynys Antigua. Ni fennodd y newid lle ddim ar Thomas Coke ac wedi iddo ymdrwsio, aeth i dref St. John a chyfarfu â John Baxter, pregethwr ordeiniedig. a'i ofal am y seiat o Wesleaid yno. Ar ei ffordd i arwain mewn oedfa fore Nadolig (am 5 o'r gloch) yr oedd Baxter. a synnodd weld y gwr a ordeiniodd mor gynnar. a heb ei ddisgwyl. Pregethodd Coke i'r gynulleidfa o fil, caethweision gan mwyaf. a oedd yn bres- ennol yn y capel a gweinyddodd y Cymun iddynt. A dyna ddechrau. yn swyddogol. Adran Cenhadaeth Dramor yr Eglwys Fethodistaidd (Wesleaid) er na dderbyniodd y Gynhadledd gyfansoddiad i'r gwaith tramor ar wahân tan 1818. Mewn amser aeth y gwaith ar led. i gyrrau pella'r byd. ac i Thomas Coke. yr Eglwyswr a ddaeth yn Wesle. y mae'r clod am ei ddechrau. Eleni (1986) dethlir dau can mlwydd- iant cychwyn gwaith y Genhadaeth Dramor gan Yr Eglwys Fethodistaidd. Ei Gysylltiad ag Aberhonddu Am iddo gael ei eni. 28 Medi 1747. yn Aberhonddu. gallasai hynny roi i Thomas Coke yr hawl i'w alw ei hun yn Gymro. Mab ydoedd i Bartholomew Coke, apothecari. a lwyddodd yn ei fusnes. ac a fu'n arweinydd ym mywyd cyhoeddus y dref. Anneoeddenwei fam.yn ferch i Thomas Phillips. Tros- dre. Cantref. yn ymyl y dref. Nid oes dim i ddweud fod Bartholomew Coke yn gyfarwydd â'r Gymraeg: buasai'n debycach i Anne Phillips fod yn fwy o Gymraes nag oedd Bartholomew Coke o Gymro. o ran iaith. Tref Seisnig. yn bennaf. fu Aberhonddu erioed. yn ymffrostio yn ei phwysigrwydd fel y dref fwyaf yn y sir. hen Sir Frycheiniog. a'i satle ar y lôn-bost o Lundain i Gaerfyrddin. Ym 1720, Aberhonddu oedd y dref gyfoethocaf yng Nghymru, a phan na chyfrifid mwy na dwy fil o bobl yng Nghaerdydd. yn hanner olaf y ddeunawfed ganrif. 'roedd 2.700 yn Aberhonddu. Mewn amser. caed eglwysi Cymraeg yn perthyn i'r pedwar enwad yn Aberhonddu ac felly. bu nifer go dda o boblogaeth y dref yn Gymry. Eithr Eglwyswyr. fel eraill o arweinwyr ym mywyd masnachol y dref oedd teulu Thomas Coke. ac yn Saesneg y cynhelid gwasanaethau'r Eglwys. Yng Ngholeg Crist, sefydliad Eglwysig, y cafodd Coke ei addysg gyntaf, yn yr amser pan oedd y Parch. David Griffiths yn brifathro. Cymro oedd David Griffiths yn dal nifer o fywoliaethau o gwmpas Aberhonddu ond prin fod dim addysg yn Gymraeg yn y Coleg. Aeth Thomas Coke ymlaen i Goleg Iesu yn Rhydychen a graddio yn BA ym 1768. Der- byniodd y radd o MA. ym 1774 a gradd bellach DCL -ym 1775. Er. mae'n debyg. nad oedd Thomas Coke yn hyddysg yn y Gymraeg. gallai ef. fel eraill o bobl bwysig y fwrdeisdref ddweud ambell frawddeg. yn fratiog. yn Gymraeg. Ar ôl pre- gethu. yn Saesneg. i "gynulleidfa luosog" yn Rhuthun, a ledio'r emyn. "Cydunwn â'r angylaidd lu" (cyfieithiad o emyn Watts. "Come let us join our cheerful songs") rhan- nodd Coke y bara a'r gwin yng ngwasanaeth y Cymun gan adrodd y geiriau Cymraeg. Ei Hoffder o Gymru Bu gan Thomas Coke feddwl y byd o Gymru ac o'r lle magesid efynddo. Cyfeiriodd at y wlad mewn llythyr, dydd- iedig 22 Medi 1808. at rhyw Robert Johnson. fel "my Wales" ac. wedi cyrraedd America. ei daith gyntaf yno. daeth mynyddoedd Virginia ag atgofion yn ôl iddo am Gymru. "I prefer". meddai. "this country to anywhere in America. It is so like Wales. my native country". Yn Jamaica, wedyn. ym 1790. gwelodd wlad "more like the Vale of Glamorgan in Wales than any other place I can recollect" a chymharodd fynyddoedd ger Spanish Town i glogwyni Dover a Phen- maenmawr. Nid oes amheuaeth am hoffter Thomas Coke o Gymru. Pan fu farw ei fam. yn Llundain. a'i briod gyntaf- Penelope Fielding — a'r ail Ann Loxdale — gofalodd ddwyn eu gweddillion i'w claddu yn Aberhonddu. Ar garreg yn y llawr yng Nghadeirlan Aberhonddu. mae'r geiriau wedi