Dyffryn cymharol gul ond prydferth odiaeth yw Dyffryn Honddu yn ymestyn o dref Aberhonddu hyd odre Mynydd Epynt. Rhyw ddeng milltir yw ei hyd ac ar hyd ei lawr rhed yr hen ffordd o Aberhonddu i Lanfair-ym-Muallt. Y mae i'r dyffryn hwn ei bentrefi tlysion Llandyfaelog-Fach, Garth Bryngi (y son- nir amdano yng ngherdd foliant Gwynfardd Brycheiniog fl. c. 1180 i Ddewi Sant a sefydlodd yr eglyws yno), Pwll-gloyw, Capel Isaf a Chapel Uchaf. Rhanbarth y tir coch ydyw a'r gwrychoedd bob un wedi eu plygu'n orffenedig gan law grefftus. Camp i unrhyw ddafad fyddai ymwthio drwyddynt. Hamddenol yw'r trigolion, cwrtais a charedig. Bu unwaith yn Gymreig a Chymraeg ond nid ydyw felly mwyach. Yr unig Gym- raeg yno bellach yw'r enwau persain ac addas ar ffermydd, tyddynnau a bythyn- nod y bröydd a erys fel gweddillion brwydr, yn dystion mud ac unig i'r gogoniant a fu: Pantllwyfen, Llethrgneuen, Tan-llan, Ty'n- y-main, Glan-dwr, Cilmaharen, Llechael, Gallt-y-brain a llawer o rai eraill. Bu'r Parchedig David Bowen (Myfyr Hefin) yn gweinidogaethu ym Mhwll- gloyw yng nghydiad y ddwy ganrif ac yn cynnal dosbarthiadau Cymraeg yn ogystal. Yr oedd problem yr iaith yn hen broblem yn y parthau hyn y pryd hwnnw, hyd yn oed. Erys ei enw'n barchus yng ngolwg y trigolion hynaf ar gyfrif ei gymeriad glân, ei bregethu dylanwadol a'i ymroddiad diflino ond nid erys dim o ôl ei lafur caled dros yr iaith. Ond nid ei fai ef yw hynny. Os byth y dychwel y llanw Cymraeg i Ddyf- fryn Honddu fe gyfyd cenhedlaeth i werthfawrogi ei ymdrech lew ac i fawrygu'i enw. Yng Nghapel Isaf y mae'r ffarm sy'n dwyn yr enw Pantllwyfen. Yno y trigai Daniel Rees Morgan a'i deulu lluosog, Ffarmwr ydoedd yn hanfod o Bant-mawr, Llandeilo-Fân. Bu'n ddiacon ym Methel y Bedyddwyr, Pwll-gloyw am lawer blwy- ddyn ac yno y claddwyd ef ym 1972 yn 79 oed. Y rheswm am fy niddordeb i ynddo yw'r ffaith iddo gyfansoddi emyn. Canwyd ef droeon mewn Cymanfaoedd Canu ac fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg gan Mrs. Perrie Williams, Caerdydd. Dyma emyn Daniel Morgan yn gymwys fel y llifodd o'i galon ddefosiynol, werinol a Chymreig: Arglwydd grasol, tro fy wyneb Tua mynydd Calfari, RHAG EU COLLI John Edward Williams Lle bu'r Iesu'r cyfaill gorau Yno'n marw drosof fi. Ffydd rho imi gredu ynddo Ac i geisio am y wlad Lle mae'r hwn sy'n maddau beiau I bechadur mawr yn rhad. Diolch i Ti am fy nghadw A fy nghynnal i bob awr A dy roddion gwerthfawrocaf Sydd yn dod o'r nef i lawr. Rho 'mi ysbryd i'th addoli Mewn gwirionedd tra bwyf byw, Ac i geisio rhodio llwybr Sydd yn arwain at fy Nuw. Byddaf yn cyfarfod yn aml â'i weddw fonheddig yma nhref Aberhonddu ac yn cael sgwrs ddiddan â hi. Cofiaf iddi ddywedyd fod ei phriod yn cadw ei unig gopi o'i emyn bob amser yn ei gâs-sbectol. Tyst o'i bwysigrwydd yn ei olwg. Ar y fron gyferbyn â Chastell Madog yng Nghapel Isafy mae ffarm arall yn dwyn yr enw Cwm Tydu Uchaf. Yno y ganed John Williams a fu farw'n hynafgwr 86 oed ym 1970, ddwy flynedd o flaen ei gymydog o Bantllwyfen. Yn ei ganolddydd collodd ei ffarm -Ynys Hir ar Fynydd Epynt pan drawsfeddiannodd llywodraeth Llundain y miloedd erwau at ei phwrpas dieflig. Wedi'r chwalfa bu'n hwsmona Cwm- deuddwr ym mhlwyf cyfagos Llanddew, ac yno y bu farw. Fe'i claddwyd ym mynwent Bethesda (M.C.), Capel Isaf. Yr oedd Daniel Morgan a John Williams yn gyd-frodyr-yng-nghyfraith. Cyfansoddodd John Williams yntau emyn, a dyma gopi ohono yn gywir fel y daeth o law'r emynydd: Nid oes gennyf ond dychymyg Am y wlad tu draw i'r llen, Lle mae etifeddion Iesu Yn amgylchu'r Orsedd wen. Y mae'r anian ynof finnau Am gael gweld fy Mhrynwr cu, Ar ei orsedd yn teyrnasu Ar y dyrfa fawr sydd fry. Y mae temptasiynau bywyd Yn fy nghanlyn i bob man. O, fy Nuw, gwna di fy achub Rhag i Satan roddi llam, A chael gafael ar fy enaid Sy'n drafferthus ac yn drist Am adnabod ffrynd pechadur, Fy ngwaredwr Iesu Grist. Rwy'f yn ofni caf fy ngwrthod Yn yr atgyfodiad mawr; Pan fydd rhaid i'm roddi cyfrif Am bob pechod ar y llawr. Byw mewn gobaith rwyf er hynny Am gael cyrraedd pen fy nhaith Yn ddihangol ar ôl llithro Ar y llwybyr, lawer gwaith. O fy Arglwydd, maddau imi Fy nghamweddau oll i gyd, Mae hwynt heddiw yn ymddangos Fel mynyddoedd mwya'r byd; 0 am nerth i ddal fy ngafael, I gael dringo dros rhai hyn I Galfaria at y ffynnon Sydd yn golchi'r brwnt yn wyn. Rhaid ymbwyllo am funud. Nid oes gamp arbennig ar y ddau emyn hyn. Yn bendifaddau, nid ydynt yn emynau 'mawr'. Nid ydynt yn haeddu lle mewn unrhyw emyniadur, ddaliaf fi. Nid wyf am fentro cymharu'r ddau ffarmwr a'r ddau gymydog hyn â dau ffarmwr a dau gymydog arall o gwmwd Eifionydd Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn. Nid dyna'r pwynt. Y rhyfeddod yw iddynt gael eu cyfansoddi o gwbl. Dymunaf eu rhoi ar glawr, oherwydd tystion yw'r emynau di-gabol hyn i'r bywyd Cymreig, diwylliedig, ymneilltuol, gwâr a defosiynol a ffynnai'n yr ardal hon yn nechrau'r ugeinfed ganrif. Nid oes fardd yn Nyffryn Honddu hed- diw a'r Saesneg yn unig a siaredir. Y Nefoedd yn unig a wyr pa faint a gyll y Cymro wrth golli ei iaith. us Dyaai cael tratterth i gael Pregeth Diolchgarwch rho dwy neu dair hen bregeth yn sownd yn ei gilydd a thaflu'r gair 'Bara' neu 'Yd' yma ac acwt"