CYNHADLEDD GENEDLAETHOL CYNGOR YR EGLWYSI RHYDDION Cynhaliwyd y 90fed Gynhadledd Cyngor Cenedlaethol Yr Eglwysi Rhyddion ar Fawrth 18 hyd Fawrth 20, yn Llanelli. Ar ôl yr addoliad dechreuol, cyfeiriodd y Llywydd at y golled anfesurol a gafodd y Cyngor yn ddiweddar trwy far- wolaeth ddisyfyd yr Ysgrifennydd Cyffredinol y Parch- edig Richard J. Hamper, Y.H., M.A Yna cyflwynodd Mrs. Dorothy Alexander, B.A, lywyddiaeth Adran y Merched o'r Cyngor i'w holynydd Mrs. Elizabeth Proudlock. Diacones gyda'r Bedyddwyr, o Saltash, Cernyw, yn wreiddiol yw Mrs. Proudlock, ond yn byw yn awr yn Plymouth, ac fel Ysgrif- ennydd Adran y Merched yn y cylch hwnnw, cyflawnodd waith mawr gyda'r chwiorydd a'r ieuenctid ar hyd y blynydd- oedd. Cyflwynodd anerchiad effeithiol iawn ar thema'r Gynhadledd. Wedi canu emyn, cyflwynodd y Dr. R. Tudur Jones lywyddiaeth y Cyngor i'w olynydd yntau y Dr. Donald English. Ef, fel y gwyddys, yw Ysgrifennydd Cyffred- inol Adran Y Genhadaeth Gartref, Yr Eglwys Fethodistaidd yn Westminster. Mae'n awdur, yn bregethwr ac yn drefnydd galluog iawn, a bu'n Llywydd Y Gynhadledd Fethodistaidd bedair blynedd yn ôl. Cymerodd yn destun Salm 84, Cytgan y Pererinion, ac wedi cyffwrdd â phererinion mawr yr Hen Destament a'r Newydd, a chyfeirio at rai o bererinion mawr yr Eglwys dros y canrifoedd, yn enwedig rhai o arweinwyr mawr yr Eglwysi Rhyddion a'u cyfraniad arbennig hwy i waith y Deyrnas, rhoddodd bwyslais ar neges a chenhadaeth yr Eglwysi Rhyddion ym Mhrydain ac yn y byd sydd ohoni heddiw. Wedi'r addoliad a'r cyhoeddiadau bore ddydd Mercher, traddodwyd darlith gan y Parch. J. Munsey Turner, M.A., Arolygwr Cylchdaith Halifax a chyn-Athro yng Ngholeg Diwinyddol yr Eglwysi Anglicanaidd a Methodistaidd, Queen's, Selly Oak, Birmingham. Rhoes fras olwg ar ddechreuadau Anghydffurfiaeth a'r chwyldro gwleidyddol yn yr ail ganrif ar bymtheg cyn symud at y Diwygiad Methodistaidd a'r diwygiadau cymdeithasol a ddaeth yn ei sgîl yn y ddeunawfed ganrif. Yna symud i adwaith oes Vic- toria ac ymlaen at y cyfnod eciwmenaidd diweddar hwn a'r rhagolygon i'r dyfodol. Hanesydd wrth reddf ac un yn gallu â'i hiwmor a'i frwdfrydedd gynnal diddordeb ei gynulleidfa i'r diwedd. Yn y gweddill o'r amser cyn cinio cyflwynwyd penderfyniad cyntaf, a hwyrach, pwysicafy Gynhadledd, yn delio â phwnc llosg apartheid yn Ne Affrica. Yn ôl y pender- fyniad, addunedai Cynhadledd Cyngor Cenedlaethol Yr Eglwysi Rhyddion yn Llanelli ar Fawrth 19 i weddio ac i weithio dros newid sylfaenol yn Ne Affrica — newid a olygai diddymu apartheid a selÿdlu llywodraeth yn cynnwys cynrychiolwyr o bob dosbarth cenhedlig yn y dalaith a fydd- ai'n sicrhau cyfiawnder, rhyddid a heddwch i bawb fel ei gilydd. Datganai'r Cyngor ei fod o'r farn fod polisi torri cysylltiadau economaidd â De Affrica gan rai gwledydd wedi gorfodi'r Affricanwyr gwyn mewn awdurdod ail-ystyried 1986 gan E. H. Griffiths sefyllfa wleidyddol y wlad. Yr oedd y Gynhadledd hefyd, fel Cyngor Eglwysi'r Byd, yn datgan yn y penderfyniad, ei bod o'r farn fod eisiau pwyso am fwy a mwy o gyfyngiadau economaidd i brysuro'r newid gwleidyddol anorfod, ac fel Cyngor Eglwysi'r Byd, pasiodd Y Gynhadledd i neilltuo Mehefin 16, 1986, fel dydd ympryd a gweddi dros Dde Affrica sef diwrnod dathlu degfed penblwydd y gwrthryfel yn Soweto. Fel awdur 'Count me out', gallasai'r Llywydd siarad yn huawdl o'i brofiad ei hun yn Affrica, ond dewisodd alw ar y Dr. Kenneth G. Greet, un o Gyn-Lywyddion y Cyngor Cenedlaethol, oedd newydd ddychwelyd o wlad gythryblus yr apartheid, i roddi peth o'r hyn a glywsai ac a welsai. Gwelsai greulonderau anhygoel, meddai, a phethau nas cyhoeddir ar y cyfryngau. Yr oedd o'r farn fod y sefyllfa mor ddifrifol fel y gallai'r cyfandir ffaglu'n aflywodraethus oni ddêl newid gwleidyddol yno'n fuan iawn. Ffydd yn y Ddinas Ar ól cinio, cyflwynodd y Parch. Martin Robinson, Bir- mingham, adroddiad pwysig comisiwn Eglwys Loegr ar gyflwr crefydd a chymdeithas ym maesdrefi'r dinasoedd mawr sef FFYDD YN Y DDINAS. Anfonwyd talfyriad o'r adroddiad swmpus hwn i'r cynrychiolwyr cyn y Gynhadledd a bu hynny a chyflwyniad un oedd yn hyddysg a'r sefyllfa yn Birmingham, y ddinas ail o ran maint ym Mhrydain, yn help mawr i rai o'r cynadleddwyr i werthfawrogi'r cymhlethdodau yn y dinasoedd, mewn cyfnod pan geir cymaint â hanner miliwn o Hindwaid a Siciaid, a miliwn o Fwslemiaid ym Mhrydain. Fel yn rhai o adroddiadau y Llywodraeth a 'Mis- sion Alongside the Poor' gan yr Eglwys Fethodistaidd, tanlinellir y problemau cymdeithasol ac economaidd, pro- blemau yr amgylchedd a phroblemau cyfraith a threfn. Dangosir yn eglur iawn fod llawer o dlodi, unigedd a phroblemau gyda'r henoed a phlant dan bump oed yn y rhanbarthau aml-hiliol ac aml-sectol o'r dinasoedd mawr. Nid heddlu lluosocach a chosbau trymach yw'r ateb, medd- ai'r adroddiad. Rhaid wrth fwy o waith, wrth well cyfleus- terau addysg, rhaid wrth welliantau yn yr amgylchedd ac wrth wasanaeth iechyd teilwng. Rhaid delio â'r achosion gan fod y cyni yn codi o'r cwynion. Cydnebydd yr Adroddiad na all yr Eglwys ddiddymu diweithdra, ond rhaid iddi wrthwynebu polisïau economaidd anfoesol. Mae'r dasg yn rhy fawr i Lywodraeth neu'r Eglwys ar wahân. Rhaid wrth gydweithrediad rhwng y Cyrff statudol a'r Cyrff gwirfoddol, rhaid wrth gydweithrediad rhwng Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol, a rhaid wrth gydweithrediad rhwng eglwysi o bob enwad ynglyn ag adeiladau, adnoddau a gweinidogaeth. Yr oedd angen hyfforddiant arbennig yn y weinidogaeth hon ac angen cyrsiau adnewyddol achlysurol ynddi hi, ac angen hyfforddi mwy a mwy o'r lleygwyr, a mwy a mwy o'r chwiorydd. Croesawodd y Gynhadledd yr