anghyfreithlon ar dir Israel, er fod polisi Israel yn cael ei gondemnio yn y pender- fyniad. Beth a ddigwydd i'r Pwyllgor gweithgar hwn os yr â yn rhan o Adran? Mae un peth yn sicr, mae gwaith y pwyllgor hwn yn dangos fod y gri Fethodistaidd "Achub Fi" wedi mynd i gyfeiriad "Achub ni" ers blynyddoedd lawer bellach. Ar y llaw arall, wedi'r holl godi dwylo dros hyn a thros y llall, faint o weithredu ymarferol a wneir wedyn gan y rhelyw ohonom? Trai a Lanw Nid oedd yn hawdd bod yn Llangeitho, heb gymharu ddoe a heddiw, yn ystadegol o leiaf. Tyfu a chynyddu, er gwaethaf trai a llanw, oedd hanes y Diwygiad. O ran nifer y gweinidogion, yr eglwysi ac aelodaeth, lleihad a welir heddiw ar bob llaw. Clywsom hanes yr eglwys yng Ngogledd Ddwyrain yr India, plentyn yr Hen Gorff, gan y Parch. H. Thiek, Bryniau Cachar. Tystio i eglwys fyw, ifanc, afiaethus a oedd ar gynnydd a wnaeth ef. Stori lawen oedd ganddo i ni, ond stori drist fydd ganddo ef, i'w eglwys wedi dychwelyd i India. Er y nodyn trist, ceisiwyd taro nodyn ffyddiog a gobeithiol o dro i dro. Nododd Mary Roberts yn ei hanerchiad fod gennym dros 150 o weinidogion, dros 5 mil 0 flaenoriaid a thros 70 mil o aelodau a wnâi fyddin go dda. Mynegodd y Parch. D. H. Owen, ein Hysgrifennydd Cyffredinol medrus, nad oedd y Cyfundeb yn mynd i farw yn gyfoethog nac yn dlawd. Nid oedd y Cyfundeb yn mynd i farw o gwbwl. Er mai ymateb i sylw pryfoclyd a wnaeth, rhaid gofyn y cwestiwn ai ar wahân i enwadau eraill neu ynghlwm wrth yr enwadau eraill y bydd hynny? Do, fe gawsom anadlu awyrgylch hanes- yddol Llangeitho gyda'i bentref gwledig heb ei gyffwrdd gan dwristiaeth a'i drigolion yn byw yng nghysgod "Pregethwr y Miloedd" gyda'i gof-golofn a'i gapel, ei eglwys a'i fedd wrth yr allor. Cawsom drochiad go dda o Fethodistiaeth a ddeil at ein 'senna' am ysbaid go lew. Bu'r Gymanfa yn fodd i gadw ein traed ar ddaear yr ugeinfed ganrif. Nid anghofiwn chwaith groeso Mari James a'i chwaer na'r merched lu fu'n gweini'n llawen wrth y byrddau, nac aelwydydd caredig y fro a agorodd eu drysau i'r cynrychiolwyr. Gorfu i mi droi trwyn y car am Rhuthun, ar ôl cinio ddydd Gwener, heb glywed y pregethwyr gwadd a gynhwysai yn briodol iawn, Esgob Ty Ddewi na chael ymuno yn y Cymun ar brynhawn Sadwrn o dan arwein- iad y Llywydd newydd. Fodd bynnag, y mae ein profiad o Langeitho ddoe a heddiw yn cadarnhau geiriau Llyfr yr Actau: "Yn yr oesoedd a fu, goddefodd ef i'r holl genhedloedd rodio yn eu ffyrdd eu hunain. Ac eto ni adawodd ei hun heb dyst Y mae John Owen yn weinidog y Tabernacl, Rhuthun. Mae carchardai o gwmpas y byd yn lIawn nid bob amser o ddrwg weith- redwyr ond o bobl sy'n perthyn i'r hil anghywir, neu sy'n perthyn i blaid wleid- yddol wahanol i'r rhai sy'n llywodraethu. Weithiau mae bod yn Gristion yn ddigon. Dyma hanesyn a gyrhaeddodd y Feibl Gymdeithas yn ddiweddar mae'r enwau a'r dyddiadau wedi eu dileu. Un o lawer o hanesion tebyg yw hwn. CANU YNG NGHARCHAR Y cyhuddiad oedd mai sbiwr oeddwn i. Y noson gyntaf ar ôl cael fy arestio treuliais y noson mewn tre agos i'm cartref. Dranoeth fe'm symudwyd i dre fwy a charchar mwy. Yno cefais fy holi am oriau ac yna cefais fy ngwthio i gell ac wyth o wragedd yno eisoes. Dri diwrnod yn ddiweddarach bum yn ffodus i gael fy ngorchymyn i weithio yn y gegin yn glanhau tatws. Yr oedd wyneb un o'r dynion oedd yn cario'r bwcedi trymion yn gyfarwydd. Gwyddwn ei fod, er yn gar- chararor yn cael ei anfon i'r dref ar neg- eseuon. Pan aeth i'r selar i nôl llwyth arall 0 datws euthum innau i lawr gydag ef gan gymeryd arna'i lanw fy masged. Wrth benlinio wrth ei ochr gofynnais a oedd yn adnabod gweinidog yr eglwys yn y dref. Dywedodd ei fod yn ei 'nabod. "Os gwelwch yn dda wnewch chi ddweud wrtho fy mod yma ac y buaswn yn hoffi cael Beibl, llyfr emynau a thywel" meddwn. Cytunodd yntau. Am bump yn y prynhawn caem ein cloi eto yn y gell. 'Doedd dim llawer o le a dim ond pump stôl rhwng naw ohonom ac felly 'roedd yn rhaid cymeryd ein tro i eistedd ar y llawr oer. Yna symudwyd y bar haearn wrth y drws a galwodd rhywun fy enw. Tybiwn fy mod yn gorfod mynd i gael fy holi ymhellach. Ond y prif geidwad oedd yno a rhoddodd ef ddau lyfr i mi. Yna cawsom ein cloi i mewn eto. Sefais yn edrych ar y ddau lyfr. O'r diwedd daeth un o'r gwragedd ac edrych yn y llyfr emynau a dweud. "Fe fyddwn i wedi hoffi cael un o'r rheina." Pasiwyd y Beibl 0 law i law. Ar ôl ychydig gofynnais "Fyddech chi'n hoffi i mi ddarllen ychydig?" Wrth weld eu bod yn cytuno, agorais y Beibl heb chwilio am unrhyw fan arbennig. O lyfr yr Actau dar- llenais sut y bu i Paul a Silas foli Duw yn eu carchar. Meddai un o'r gwragedd "Gallen ni ganu rhywbeth". Ac felly, yn betrus ar y dechrau ddechreuson ni ganu emyn yr oedd pawb yn ei 'nabod. Ond y funud honno daeth un o'r ceidwaid a churo ar y drws a mynnu i ni fod yn ddistaw. Yn noson ddilynol ar ôl dod yn ôl o'r gegin wedi blino fe fentron ni eto a'r tro hwn wnaeth y ceidwad ddim ein gwahardd. O'r dydd hwnnw ymlaen yr oeddem yn edrych ymlaen i'r hwyr pan fyddem yn clywed geiriau'r Beibl ac yn canu emynau gyda'n gilydd. Rhywsut yr oedd mwy o olau yn y gell; yr oedd y cysur a gaem o'n Beibl yn ei wneud yn llawer goleuach. Cyn cysgu byddwn weithiau'n meddwl am beth ddigwyddodd yn y carchar pan oedd Paul a Silas yn canu emynau i Dduw a'r carcharorion eraill yn eu clywed. Pan gefais fy rhyddhau bwriedais fynd â'm Beibl gyda mi oherwydd yr oeddwn wedi colli popeth. Ond fe'i gadewais yn y gell er mwyn i'r gwragedd eraill gael cysur oddiwrth Air Duw. (O "Word in Action")