i'r locustiaid ysu'r gwinllannoedd. Pobl oedd y rhain wedi eu cau i mewn yn eu byd bach eu hunain heb ymboeni am ddigwyddiadau o'r tu allan i'r byd hwnnw. Felly byddai deffro o'u cwsg i rialiti'r difodiant yn arswydus iddynt. Gan fod gwin yn gymaint rhan o fywyd cymdeithas, nid yw Joel yn condemnio'r arferiad hwnnw o'i yfed, ond eu rhybuddio rhag i'r perygl o ymgolli ynddo eu rhwystro rhag wynebu argyfwng eu cymdeithas. Anghofrwydd gwin fel rhwystr i wynebu argyfwng cymdeithas sydd ganddo. Mae'r ras i geisio gweld pwy fyddai'r cyntaf i gynhyrchu gwin newydd o'r cynhaeaf diweddaraf yn gwbwl ddealladwy, ond y trychineb yma yw na byddai gwin ac na byddai cynhaeaf. Ceisio deffro'i gymdeithas i'r trychineb hwnnw y mae Joel. "Nid llwyr ymwrthod, eithr galwad i wynebu cymdeithas heb ymddibyniaeth ar y cyffur yma." Mae Golygyddol Y Faner, 6 Gorffennaf 1984, yn werthfawr er ceisio darganfod y gair proffwydol, a hynny oherwydd y cyfeiriad sydd ynddi at y cyfystyru a fu mewn Ymneilltuaeth rhwng llwyrymwrthod a Christnogaeth. Dylem ystyried stori Jane Edwards fel astudiaeth lenyddol o broblem ESGOBION DURHAM AC ERAILL Rhai o bobl flawnllaw Eglwys Loegr ar hyn o bryd yw rhai o'r cymeriadau mwyaf diddorol yn y bywyd cyhoeddus. Byddwn i am fentro dweud eu bod yn fwy diddorol a chyffrous na'r rhan fwyaf o'r gwleidyddion! Diolch fod Esgob Durham o leiaf yn medru cyffroi'r dyfroedd i greu helyntion diwinyddol ac eglwysig, i gipio'r tudalennau blaen. A chwarae teg i Archesgob Caergaint, ni fu yntau ar ôl fwy nag unwaith i godi gwrychyn y bydol ddoethion. Pan welais, a phan glywais (!) Robert Runcie y tro cyntaf roeddwn yn rhyw hanner credu bod yr Ecclesia Anglicana wedi cymryd cam gwag. Roeddwn yn methu. Mae rhai o'r esgobion, a'r gwyr amlwg eraill yn y rhengoedd eglwysig wedi fy niddori ers tro byd. Rwy'n gryn edmygydd o'r Triawd disglair a gododd yng Nghaergrawnt yn y ganrif o'r blaen Lightfoot, Westcott a Hort. Rhyfedd fel y mae esgobaeth Durham yn mynnu lie canolog yn y cyfrif. Bu Lightfoot yn esgob yno, a dilynwyd ef gan Westcott ym 1890. Ni fu F. J. A. Hort (1828-92) yn esgob, ond o blith y tri chyfaill ef a gyfrifir heddiw yr ysgolhaig a'r meddyliwr disgleiriaf. Dyna farn y Dr. A. R. Vidler, "Hort, er na wnaeth gynhyrchu dim ond ychydig mewn cymhariaeth, a gyfrifir yn gyffredinol heddiw a diwinydd mwyaf o'r tri. Yr oedd heb ofnusrwydd Westcott, ac yr oedd yn fwy o ddiwinydd na Lightfoot, a oedd yn bennaf oll yn hanesydd". Traethais rywfaint ar Hort mewn erthygl yn Y Traethodydd, os oes diddordeb ynoch i'w ddilyn (Ionawr 1983). Pwysigrwydd enfawr y tri chyfaill oedd iddynt godi mewn adwaith creadigol iachus a chymen yn astudiaethau'r Testament Newydd ar ôl haeriadau anghredinol pobl fel D. F. Strauss o'r Almaen, awdur y llyfr enwog Bywyd Iesu, a alcoholiaeth, stori Hon Debygem Ydoedd Gwlad yr Hafddydd a ddisgrifiwyd gan Dafydd Elis Thomas fel un cwbwl gymdeithasol. Mae angen cysylltu hyn gyda chyfeiriad gan Emrys ap Iwan, na lwyddais i'w leoli'n iawn, y byddai Cymru rydd yn Gymru fwy crefyddol. Os yw hyn yn wir, mae anghrefyddolder Cymru yn rhan o'i gwaseidd-dra cenedlaethol. yng nghyd-destun y broblem bresennol, mae'n golygu gweld y clwy alcoholaidd fel dimensiwn i'n gwaseidd- dra yng Nghymru. Mae'n arwyddocaol i Archwiliad a gyhoeddwyd ym Mehefin 1984 ddweud bod yr yfwyr trymaf ym Mhrydain i'w canfod yn y Gogledd ac yng Nghymru. Yr hyn a wna'r dadansoddiad cyfoes yma yw cadarnhau, fel yr awgrymwyd eisoes, ddehongliad Joel o anghofrwydd gwin fel ymwrthod ag ystyried cyflwr byd a chymdeithas a'i wynebu o ddifrif ac mewn gwaed oer. Felly mae lle i gasglu mai'r gair proffwydol heddiw yw nid llwyrymwrthod, eithr galwad i wynebu cymdeithas heb ymddibyniaeth ar y cyffur yma. Y rheswm tros awgrymu fel hyn yw bod tuedd i wneud llwyrymwrthod yn rhefru a dweud y drefn. Gellid mynegi'r gair proffwydol mewn cwpled o emyn, "Yn nodded gras y nef, Wynebwn ar y byd." Alun Page gyfieithiwyd i'r Saesneg gan y nofelydd anffyddiol, George Eliot. Dangoswyd na ddylid dilyn yn ddall yn ffordd y beirniaid negyddol a dinistriol, nac yn ffordd ystyfnigrwydd ffôl y ffwndamentaliaid. Ond yn ôl at yr esgobion. Roedd Brooke Foss Westcott (1825-1901) ychydig yn hyn na'i ddau gyfaill. Bu'r tri ohonynt yn eu tro'n Gymrodyr o Goleg y Drindod, Caergrawnt ac yn wyr hyddysg yn y clasuron Groeg a Lladin. Ac roedd y tri'n offeiriaid argyhoeddedig a chydwybodol yn Eglwys Loegr. Ond bu Westcott am ddeunaw mlynedd yn athro yn ysgol breswyl y boneddigion, Harrow: diddorol cofio mai un o'r bechgyn a ddaeth dan ei ddylanwad yno oedd Charles Gore, esgob yn ddiweddarach un o'r gwyr dylanwadol yn yr ymgais i gyflwyno diwinyddiaeth Gristnogol i'r byd modern. Bu Westcott yn Regius Professor mewn Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt o 1870 hyd 1890, pryd y dilynodd ei gyfaill Lightfoot yn esgobaeth Durham. Er y cyfrifir nad Westcott oedd y mwyaf o'r tri eto i gyd yn ei oes ei hun yr oedd ei ddylanwad yn bell-gyrhaeddol, yn fwy felly na Lightfoot a Hort. Un rheswm am hyn oedd ei gonsyrn amlwg ynghylch agweddau cymdeithasol yr Efengyl, a'i fawr sêl dros genhadaeth yr Eglwys ar bum cyfandir. Roedd yn fwy o lawer o athro ym mhethau dyfnion ffydd, yn arweinydd diogel ynghanol problemau astrus byd a betws, yn hytrach nag ysgolhaig llwyr ei fryd. Er hynny, ni ddylid anghofio dylanwad arhosol ei astudiaethau yn Efengyl Ioan. "By his emphasis on the teaching of the fourth gospel and his knowledge of the Greek Fathers he helped to change the direction of theological thought in this country. Westcott was