"Nid y bobl sy'n mynd i'r eglwysi a'r capeli sy'n fy niddori i. Poeni ydyw i am yr wyth deg wyth y cant sy' ddim yn mynd ar gyfyl Ile o addoliad." Cyferbyn â mi mae Sais huawdl yn pwysleisio'i bwynt gyda'i law dde yn pwyso ar y ddesg yn Nhy John Penry. "Wir i chi" medd ef, "fy awydd i yw bod yn was i'r eglwysi, darparu adno- ddau i'w galluogi 'nhw i wneud y gwaith o gyfathrebu, o gyfleu'r newyddion da am Iesu." Charles Cordle yw'r dyn sy'n siarad. Cyn-swyddog yn y Grenadier Guards, cyn- werthwr brethyn, gyn-gyfarwyddwr cwmni lleni cawod. Dwy lath o frwdfrydedd a thaerineb Seisnig, y gwr sy' tu cefn i'r mudiad Treftadaeth Gristnogol. Beth ar y ddaear y mae Sais yn ei wneud yn sôn am y dreftadaeth Gristnogol yng Nghymru? Pam ar y ddaear aeth e'i weithio gyda'r Bwrdd Croeso? O ble mae ei arian e'n dod? Beth yw ei gymhellion? Dyna oedd rhai o'r cwestiynnau yr oeddwn i'n awyddus i'w holi. Oherwydd ffenomenon ddieithr iawn yw Charles Cordle, dyn sydd â'i egni byrlymus, ei hyder ym myd yr arian mawr yn gallu tarfu ar ragdybiaethau ein trefniadaeth eglwysig. Bu ei gysylltiad â'r Bwrdd Croeso yn dram- gwydd yn syth i'r rhai na welent unrhyw gysylltiad rhwng hamddena a chrefydda ac sy'n amheus o dwristiaeth a'i ddylanwad yng Nghymru beth bynnag. Ond cyrraedd yr anghrefyddol, y di- ffydd yw cymhelliad Charles Cordle, dwyn y dreftadaeth Gristnogol boed Gymraeg neu Albanaidd, neu Seisnig o flaen y cyhoedd, er mwyn peri iddynt glywed am Grist. Bachyn yw'r hanes wedyn i ddilyn ymlaen gyda'r argyhoeddiad mai Crist ein treftadaeth yw Crist ein heddiw, ac Arglwydd ein dyfodol hefyd. Ond pam yng Nghymru? Sais o'r Saeson yw Charles Cordle o gefndir pur ddieithr i mwyafrif Cymry Cymraeg. Fe'i ganed yn Sussex a'i addysgu yn un o ysgolion bonedd Lloegr, Coleg Wellington. Ar ôl ymadael â'r ysgol gweithiodd ei ffordd i America fel morwr ar long fananas a chymeryd unrhyw waith yno i deithio o gwmpas. Bu'n gwei- thio ar longau'r Mississippi, ar gefn ceffyl yn gofalu am wartheg, yn tendio wrth fyrddau fel bwtler ym Moston. Ond y peth pwysicaf a ddigwyddodd iddo oedd cael Y Golygydd yn holi hanes a chymhellion Charles Cordle ysgogydd y mudiad Treftadaeth Gristnogol. troedigaeth yn Chicago! Dychwelodd i Loegr i brentisiaeth yn y diwydiant brethyn ac yna i gyfnod fei swyddog yn y Grenadier Guards. Ond yn 25 oed setlodd i waith fel rheolwr gwerthiant eto yn y busnes brethyn a bu'n llwydd- iannus iawn gan sefydlu cwmni a arbennigai mewn gwerthu llenni cawod i ystafelloedd 'molchi. Ond ym 1977 trawyd ei deulu gan dras- iedi pan drydaneiddiwyd ei ferch ifengaf Meynella nad oedd ond dwyflwydd oed ar y pryd. Trwy ddwysder y golled a'r brofedigaeth honno daeth ef a'i wraig trwodd i argyhoeddiad bod Duw am iddynt geisio rhannu eu ffydd Gristnogol mewn ffordd mwy effeithiol. Ym 1978 awgry- modd ffrind y dylai ddefnyddio'i brofiad o