ddu heb wella cyflwr y miliynau tlawd. Gwrthyd yn llwyr y ddadl na ddylai Crist- nogion ymyrryd mewn gwleidyddiaeth, a dyfyna oddi wrth weithiau Calfin a'r tra- ddodiad Diwygiedig i ddangos na ddylid derbyn unrhyw gyfyngiad ar Arglwyddiaeth Crist. Dyfyna o weithiau Calfin hefyd i ddangos na ddisgwylid i Gristion ufuddhau i 'awdurdodau anghyfiawn', ond i'r rhai 'sydd yn weision Duw' (Rhufeiniaid pennod 13). Y mae Boesak yn codi'r cwest- iwn; Os yw'r deddfau yn anghyfiawn oni ddylai Cristion eu torri? Oni ddylid ufudd- hau i Dduw yn hytrach nag i ddynion? Yn ei farn ef nid oes amheuaeth nad oes ac na bydd wrthryfel yn erbyn llywodraeth anghyfiawn. Cyfrifoldeb yr Eglwys yw tystio yng nghanol y gwrthryfel i Arglwydd- Ffordd y Cymod O un gwaed y creaist, Arglwydd, Holl genhedloedd daear lawr, Fel y delent 011 yn deulu ddyrchafu d'enw mawr; Tynnaist hwy â rhwymyn cariad Ac i'w bywyd rhoddaist nod, Fel y byddent byw'n wastadol Mewn tangnefedd er dy glod. Maddau i genhedloedd daear Am dy siomi, nefol Dad, Maddau falchder ein calonnau, Maddau'r rhysedd a'r sarhad; LIe bu cyfle i gydweithio Gormes dyn ar ddyn a gaed, A IIe dylai hedd flodeuo Brwydro sydd a thywallt gwaed. Safwn heddiw ar y trothwy Lle gall dyn ddifetha'r byd, Arbed, Arglwydd, rhag y distryw, Dyro inni bwyll mewn pryd; Nid oes inni obaith mwyach Ond trwy nerthoedd Teyrnas Nef, Nid oes neb ond lesu'i hunan All ein troi i'w Iwybrau Ef. Diolch am y rhai a welodd Ystyr aberth Calfari, Hwy sy'n chwilio a gweddïo Am dy ffordd ragorol Di; Dyro fendith ar eu llafur, Dangos iddynt, er pob loes, Obaith bywiol ffordd y cymod A gogoniant ffordd y Groes. Gwilym R. Tilsley iaeth Crist. A hynny yn ddiamau a wna'r gwron ieuanc hwn. Os yw'n ddewr, er yn ofnus, y mae hefyd, er yn elyn i lywodraeth anghyfiawn y dyn gwyn, yn llawn ysbryd cariad a chymod tuag at bobl wyn, fel y dengys y breuddwyd sy'n haeddu'i dyfynu fel y tradoddwyd hi yn Cape Town mis Awst 1983. (Son y mae am yr emyn rhyddid; 'Nkosi Sikelel 'i Afrika'). 'We shall sing it on that day when our children will no longer be judged by the colour of their skin but by the human- ness of their character. We shall sing it on that day when even in this country, in Johannesburg and Cape Town, in Port Elizabeth and Durban, the sanctity of marriage and family life will be respec- BYW A MARW Seiciatrydd byd-enwog yw'r Dr. Elizabeth Kübler-Ross a wnaeth waith arloesol gyda phobl a oedd ar fin marw, ac a sgrifennodd lyfrau ar farwolaeth a marw. Mewn sgwrs radio dywedodd:- "Yr wyf wedi gweld fod y bobl hynny sy'n agos i farw yn gallu dysgu popeth inni, nid yn unig am farw ond am fyw. Nid yw dynoliaeth wedi ofni marw erioed, ac nid yw plant yn cael eu geni gydag ofn marw. Os yw person yn cael ei garu'n ddi-amod pan yn blentyn, a chael digon- o ddisgyblaeth gadarn a chyson, ni fydd arno ofn byw na marw. Bydd yn medru wynebu pa stormydd bynnag a ddaw heb bryder, a bydd yn sylweddoli fod siomedigaethau a phoenau bywyd yn rhoddion i'n dysgu i dyfu a bwrw gwreiddiau'n ddwfn. Ond heddiw nid dyna beth y mae llawer o rieni yn ei roi i'w plant. Yn lle hynny eu hamcan mawr yw: 'Yr wyf am i'm plant gael gwell cyfle na fi', hynny yw i gael mwy o bethau materol nag a gefais i. Ac os ydych yn rhoi eich holl sylw i ennill bywoliaeth yr ydych yn peidio â byw, ac ni fydd gennych amser i ddod i nabod eich plant, a bydd eich plant yn pellhau oddi wrthych. Yna pan fyddwch yn yr ysbyty yn dioddef o ganser ni fyddwch yn deall pam nad yw eich plant yn dod i'ch gweld. Dyma'r rhai sydd, pan ydynt yn agos i farw, yn troi ataf â'u llygaid yn llawn tristwch. Yn aml y maent yn bobl gyfoethog iawn, a rhai ohonynt yn enwog, ond dywedant: 'Wyddoch chi Dr. Ross, yr wyf wedi gwneud bywoliaeth dda, ond nid wyf erioed wedi byw'. Gofynnaf: Beth fasech chi wedi ei wneud yn wahanol tasech chi'n cael cyfle? Atebant rhywbeth fel hyn: 'Yr un peth yr oeddwn i am ei wneud oedd canu, ond dywedodd fy nhad: Mi wna i dy garu di ond iti wneud yn dda yn yr ysgol, a mi fyddwn i'n dy garu di'n fawr iawn taswn i'n medru son am "Fy mab, y doctor" ted, and no law will put aside what God has joined together. We shall sing it on that day when, in this rich land, no child shall die of hunger and no infant die an untimely death; when our elderly will close their eyes in peace, and the wrinkled stomachs of our children will be filled with food just as their lives will be filled with meaning. We shall sing it when here, in South Africa, whites and blacks will have learned to love one ano- ther and work together in building a truly good and beautiful land'. Mae utgorn y proffwyd yn Ne Affrig yn gwbl hynod. Y mae'n sialens i ninnau Grist- nogion Prydain i ymladd hilyddiaeth a hyr- wyddo dyfodiad y dydd a welodd ef. Felly, yn gynnar yn eu bywyd, y maent yn dechrau eu puteinio eu hunain; yn paratoi ar gyfer yr yrfa bwysig; nid i wneud y peth y buasent yn ei ddewis a'i garu, ond i blesio eu rhieni, i brynu eu cariad. Ac am weddill eu bywyd y maent yn siopa am gariad, yn ceisio prynu cariad. Ond fedrwch chi ddim prynu cariad. A dyma'r bobl sy'n marw'n drist. "Oes rhaid i chi dyrru i'r seddau cefn yna o hyd?" Peryglon Dysg Gwell gan rai ddysg a gwybodaeth nac Ufudd-dod a Gostyngeiddrwydd; gwell ganddynt gael clod am eu ffrae- thineb nac am eu gweithredoedd da. Y mae rhai drwy eu balchder a rhod- res yn colli fy ngras a'm cariad i ac felly yn syrthio aml fagl a rhwystr. Thomas a Kempis yn "Dilyniad Crist".