dweud yr un peth am ddienyddio 'gwrachod' merched ifanc gan amlaf (Exod.22 18) sef eu bod "yn haeddu'r farn a ddisgynnodd arnynt", a faint o ddrwg y mae'r frawddeg yna wedi ei gwneud ar hyd y canrifoedd? Mae'n wir bod Arfon yn gosod yr erchyllterau hyn yn nghyswllt eu cyfnod ac mewn mannau yn anghymerad- wyo. Meddai (34-35), "R'ydym wedi gweld bod yr HD yn cyfiawnháu math arbennig o ryfel a hwnnw'n unig, sef yr hyn a elwir yn rhyfel lahwê" "Mae'n amlwg na allwn ddefnyddio rhyfeloedd Iahwê fel sail dros ryfel heddiw" ac ar tud. 51 dywed, "Un o anghenion Eglwys Iesu Grist yng Nghymru y dyddiau hyn yw ail-ddarganfod egwydd- orion Rhyfel Iahwê a'u cymhwyso mewn modd ysbrydol newydd", a'r egwyddorion mae'n debyg yw'r hyn sy'n dilyn sef dychwelyd at Dduw sy'n addo ymladd drosom, ymddiried ynddo, derbyn o'r newydd y nerth goruwchnaturiol y mae'n ei gynnig i'w blant. Ardderchog, ond a oes raid mynd at y Rhyfel Sanctaidd i gydnabod y rhain? Ar tud 27 ceir y geiriau, "Gorchymyn penodol ac eglur (y ddau air wedi eu hitaleiddio) gan Dduw oedd yr unig gyfiawnhad dros y rhyfeloedd hyn." Cydnabyddwn y rhybuddion amodol ond mae'r geiriau olaf yna yn gwbl beryglus; yn un peth am nad oes ddeffiniad o beth yn hollol yw ystyr "penodol" ac "eglur". Rhaid dyfynu eto (tud. 11) "Yr unig sefyllfa a fyddai'n caniatáu i ddyn dywallt gwaed ei gyd-ddyn fyddai'r sefyllfa lle'r oedd Duw wedi rhoi gorchymyn eglur iddo i wneud hynny". R'oedd Hitler yn argyhoeddedig ei fod yn gweithredu yn unol ag ewyllys Duw wrth lunio deddfau Nurem- berg yn erbyn yr Iddewon ym 1935. Iddo ef haint, llygod mawr i'w difa oeddynt. Byddai Ayatollah Khomeini yr Islamiad yn cytuno, a hefyd y ddwy ochr yn Vietnam a'r Israeliaid yn Libanus a Reagan a'i gyrch yn enw crefydd i ddiheintio'r byd o Gomiwn- istiaeth, ac onid oedd y Yorkshire Ripper yn honni ei fod yn clywed llais Duw yn dweud wrtho am ladd? Yn sicr nid yw Arfon yn arddel y frawddeg o ystyried y brawddegau eraill sydd ganddo ond y mae hi yna ac yn gwbl beryglus. Dull y cyfnod cyntefig o feddwl oedd mai rhywbeth fel haint oedd crefydd y Canaaneaid ac mai'r ffordd orau oedd diheintio ac mae'n debyg y gellid meddwl am yr Israeliaid yn gallu gwneud hyn heb deimlad o gasineb yn ôl y goleuni a oedd ganddynt. Ond anodd peidio â chofio'r geiriau, "Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi", ac ateb Crist i'r Sadiwseaid, ffwndamentalwyr ei oes "Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r ysgrythurau na gallu Duw (Mt.22,29). Mor wahanol ac mor groes i nifer o'r brawddegau rhyfelgar uchod yw'r hyn a ddywed Arfon (tud. 48) "Rhaid i'r Cristion edrych ar anghredinwyr nid fel gelynion pobl ydynt yr ydym â chyfrif- oldeb i bregethu'r Newyddion Da iddynt ac nid i'w lladd". Mae hyn yn dod â ni ymhell iawn o awyr gylch y Rhyfel Sanctaidd. Nid yw'r cyfeiriad at theocratiaeth (Nodiad tud. 20 a tud. 35) yn hollol gywir nac yn gyflawn wrth ddweud mai Israel yw'r unig "theocrasi" sydd wedi bod yn hanes y byd i gyd. Beth am yr Aifft lle'r oedd brenhinoedd yn cynrychioli'r duwdod ac yn honni bod yn ymgnawdoliad ohono ac y mae theocratiaeth yn rhan annatod o Islam fel y gwelwn heddiw? Hyd yn oed wedi sefydlu brenhiniaeth yn Israel rhyw fath o theocratiaeth oedd hi wedyn gan yr ystyrrid y brenin yn gynrychiolydd Duw ac yr oedd y brenhinoedd hwythau yn plygu i feirniadáeth y proffwydi. Ond wedi'r Gaethglud yr oedd y theocratiaeth ar seiliau cadarnach ond bod raid cofio eto yma wrth sôn am lywodraeth "uniongyrchol" mai'r cyfrwng oedd yr offeiriadaeth. Ac ynglyn â datguddiad dylid cofio bod cyfryngau i'r datguddiad sy'n peri holi eto ynglyn â chynnwys y gair "penodol". Cwestiwn arall gan Arfon yw Brenhiniaeth. Yr oedd dwy safbwynt a diddorol fyddai darllen at yr hyn sydd gan Arfon y cyfeiriad yn Deut.17, 14-20 fel portread i sicrháu na fyddai ychwaneg o rai tebyg i Solomon a fu, ymhlith anfad weithredoedd eraill yn euog o werthu dynion i'r Aifft yn gyfnewid am geffylau. Ar tud 24 dywed Arfon y "cwbl a geisiai Duw yn yr HD oedd ffydd pobl a oedd yn barod i ymddiried yn llwyr ynddo ef ac nid yn eu gallu eu hunain". Ond y mae gwythïen arall a'r un sylfaenol yn yr HD a honno yn llawer iawn pwysicach na'r Rhyfel Sanctaidd yn dysgu hyn ac y mae gan Arfon baragraff ardderchog ar dud. 33-34 yn cyfeirio at hyn a da o beth fuasai fod wedi ymhelaethu ar hwn yn hytrach nag ar y pynciau eraill. O sôn am ffydd ac ymddiried yn Nuw pa well man i ddechrau na chydag Abram a'i ffydd a'i ymddiried- aeth yn Nuw a'i barodrwydd i aberthu Isaac a hyn yn arwain at y Cyfamodau mawr a'r proffwydi wedyn yn cydio wrth y Gweddill ffyddlon, y Gwas Dioddefus, "y Cwpan hwn" yn yr Oruwchystafell, y Cyfiawnhad drwy ffydd gan yr Apostol Paul. Ni fyddai angen wedyn am y straen ymenyddol o geisio gwneud model cymeradwy o'r Rhyfel Sanctaidd ac i geisio gweld gwerth yn y fath gyntefigrwydd pechadurus. Ond wedi dweud hyn rhaid cydnabod gwerth ymdriniaeth sydd wedi golygu llawer o waith ac y ddylai ennyn trafodaeth. Ond y mae digon o drafod. Gweithredu yn Rhyfel yr Oen yw'r gwerthfawrogiad gorau o lafur Arfon. Edwin Pryce Jones Llwyncelyn 1 and 2 Kings (New Century Bible Commentary), cyfrolau 1 a 2, tt.lii,666. Wm. B. Eerdmans, Michigan yn yr U.D. a Marshall, Morgan a Scott ym Mhrydain Pris: £ 8.95 y gyfrol Rwy'n sicr y bydd cyhoeddi'r ddau lyfr safonol hyn o ddiddordeb arbennig i bawb yng Nghymru sy â diddordeb mewn astudio'r Beibl, gan mai un ohonom ni fu'n gyfrifol am ysgrifennu'r ddwy gyfrol, er mai yn Saesneg y gwnaeth hynny. Ni chyhoeddwyd esboniad o faint yn Saesneg ar lyfrau'r Brenhinoedd er ugain mlynedd a rhagor. Ond yn ystod y blynydd- oedd hyn fe gyhoeddwyd nifer o lyfrau ac erthyglau o bwys ar wahanol agweddau o'r ddau lyfr hyn, a bu newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn deall eu twf trwy iddynt gael eu golygu y naill dro ar ôl y llall. Trwy ddadansoddiad manwl o rai rhannau, yn enwedig yr hanesion am Eleias ac Eliseus, fe gafwyd golwg newydd ar amryw o faterion. Fe roes y Dr. Gwilym Jones sylw i'r datblygiadau hyn a llawer o rai newydd eraill wrth ysgrifennu ei esboniad. Y mae ei Ragarweiniad yn delio â'r prif broblemau ynglyn â 1 a 2 Brenhinoedd y traddodiad testunol, cronoleg, y cyfansoddiad deuter- onomaidd, ffynonellau a diwinyddiaeth. Y mae'r esboniad ei hun yn rhoi dadansodd- iad gofalus o bob adran, gan roi pwyslais arbennig ar ddatblygiad y traddodiad a'r safbwynt crefyddol a ddaw'n amlwg gyda phob cam ar y daith. Y mae'r nodiadau ar yr adnodau unigol yn cynnwys sylwadau ar y materion ieithyddol, hanesyddol a diwinyddol sy'n angenrheidiol er mwyn deall y testun a'i ystyr. Y mae'r esboniad hwn yn gwthio astud- iaethau o lyfrau'r Brenhinoedd yn y Saesneg gam mawr ymlaen, ac fe fydd yn llyfr cwbl angenrheidiol i unrhyw un sydd am astudio'r traddodiad beiblaidd rhwng cyfnod Dafydd a chwymp Jerwsalem. Fe'i cyhoeddir mewn dwy gyfrol, y gyntaf yn gorffen gyda 1 Brenhinoedd 16. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Bangor a Rhydychen, bu'r Dr. Gwilym H. Jones yn Weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru am bum mlynedd, ac yna'n Athro yng Ngholeg ei enwad am bum mlynedd arall. Yna dychwelodd i'w hen goleg ym Mangor, lle mae'n awr yn Ddarllenydd mewn Efrydiau Beiblaidd. Cyhoeddodd eisoes nifer o lyfrau yn Gymraeg, gan gynnwys Arweiniad i'r Hen Destament, esboniad ar y Salmau, gramadeg Hebraeg a llyfr ar Ddiwinyddiaeth yr Hen Destament. Rheinallt A. Thomas Trefnydd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, Bangor