Ehangwyd y gwaith yn y pum degau, trwy Gymru gyfan. Dros yr wyth mlynedd dilynol cefais y fraint o weithio yn y maes hwn, a thrwy gydweithrediad y prifathrawon a'r pwyllgorau addysg, trefnwyd cynadleddau ym mwyafrif o'r ysgolion trwy Gymru, a hefyd Cynadleddau Preswyl blynyddol yn Cilgwyn, Glynllifon a'r Rhyl. Cangen arall o'r gwaith oedd yr 'University Women's Camps for Schoolgirls', oedd yn amlwg yn ysgolion Cymru, a châfodd ei redeg am flynyddoedd gan Blodwen Lewis o Ddinbych. Tua'r un adeg hefyd, daeth nifer o weinidogion o wahanol eglwysi at ei gilydd, i Lanmadog, oherwydd awydd i adnabod ei gilydd yn well, a bu'r 'Llanmadog Fellowship' yn fendith i lawer, ac yn gychwyn i fwy o gydweithgarwch. Arbrawf arall fu'n ddiddorol a gwerthfawr dros ben oedd trwy i T. J. Morris, ennyn diddordeb myneich abaty Ynys Byr a gwahôdd rhai o offeririaid yr Eglwys yng Nghymru yno. Bu hyn yn fendith fawr i'r rhai fu'n mynd yno, ac yn gyfrwng dealltwriaeth newydd rhwng y ddwy Eglwys. Cafodd nifer fach o ferched fraint o encil ar yr ynys, a phrofi cydweithrediad a dealltwriaeth dyfnach o'i gilydd. Hwyrach mai'r cychwyn yma a sbardunodd y ddwy Eglwys i drefnu Cynhadledd yn Aberystwyth yn 1967 fu'n rhannol gyfrifol am gymaint o weithgarwch cyd-eglwysig. Yr oedd y ddealltwriaeth a'r llawenydd a amlygwyd yn yr achlysur hwn Cenrad Hedd Neges gan George M. LI. Davies ym 1947 A OES HEDDWCH? Dyma gwestiwn blaenaf yr Eisteddfod. Daeth yn gwestiwn byd heddiw. Blaenoriaethau cystadlu iach ym myd doniau creadigol Cerdd a Chân, Celf a Chrefft ydynt cyfeillgarwch a rhyddid mynegiant Ilawn, cyfiawnder teg a harmoni ysbryd. Caniataodd yr amodau hyn gynnal Eisteddfod Gydwladol yng Nghymru eleni. Mae'n union yr un fath gyda doniau a blaenoriaethau cenhedloedd; nid oes gobaith am ddemocratiaeth na gwarineb oni cheir HEDDWCH yn gyntaf, a mawr ac erchyll fu'r aberthau a'r ymdrechion i geisio heddwch trwy ryfel. Ym mhob gwlad, o oes oes, bu 'lleiafrif ffyddlon' yn tystio'n gadarn nad trwy rym na gorthrwm y daw heddwch. Ac yn ein gwlad fach ni CYMRU tua chanrif yn ôl, rhychwantodd ein 'Cennad Heddwch' ffiniau hil a sect trwy arloeswyr fel Henry Richard, 'S.R. Gwilym Hiraethog ac eraill yn ystod rhyfel y Crimea. Yn ystod Rhyfel De'r Affrig, bu arweinwyr crefyddol a gwleidyddol yn tystiolaethu'n gryf o blaid heddwch gyda rhyddid, a chyfiawnder tuag at y rhai a orchfygwyd. Hyd heddiw fe saif yr heddwch hwn fel tysteb i fawrfrydigrwydd gwleidyddol, fel y tystia'r croeso a estynwyd i'r Brenin a'i deulu yn ddiweddar gan y rhai a fu unwaith yn elynion. Yn y Rhyfel Mawr, a ddaeth yn ddisymwth, bu lleiafrif ffyddlon i'r traddodiad o heddychiaeth bur yn amlwg yng Nghymru. Rhai fel y Barnwr Bryn Roberts, yr Athro Thomas Rees, John Morgan Jones, y Parchedig Ddoctor Puleston Jones ac eraill. Dioddefodd llawer trwy garchar a gwatwar, ac ni dderbyniwyd eu ffordd hwy fel sail waelodol i'r Cytundeb a wnaed yn Versailles; yr oedd hwnnw yn hytrach wedi ei seilio ar ddial a pholisi o yn lladd yr elyniaeth a'r amheuon fu'n gwahanu'r ddwy eglwys dros y canrifoedd. Ni fyddai hanes am Gymru ac Eciwmeniaeth yn gyflawn heb sôn am Dr. Elfan Rees, mab Prifathro Bala Bangor; bu am flynyddoedd maith yn gweithio i Gyngor Eglwysi'r Byd- yn gofalu am yr 'Adran Materion Rhyngwladol'. Oherwydd ei gysylltiadau ag eglwysi led-led byd, bu'n gyfrwng i ddylanwadu mewn llawer achos rhyngwladol. Y tebyg yw na fydd neb yn gwybod byth cymaint oedd ei gyfraniad ond diolch amdano. Erbyn hyn daeth tro ar fyd. Yn awr mae gan yr SCM dy yn Aberystwyth ac mae'r gwaith yn dal ymlaen, ond mae'n chwith ar ôl y gymdeithas gref a fu ac sy'n parhau i'r rhai fu'n rhan ohoni. Y peth calonogol yw bod yr angen erbyn hyn yn llai, gan fod cydweithrediad rhwng y gwahanol gyrff eglwysig yn llawer gwell. Ond i ni, fu'n gweithio a gweddio — am i'r eglwysi ddod at ei gilydd, y mae'n galondid mawr cael cyfranogi yng ngwaith y Gymdeithas Eciwmenaidd lleol a chael y Pabyddion yn gweithio gyda ni. Ugain mlynedd yn ôl byddai hyn yn amhosibl, ond erbyn hyn gwyrth bron — gallwn gydgyfranogi mewn gwasanaethau â'n gilydd er mawr fudd i bob un. ddialedd. Yn sgîl hyn, heuwyd hadau casineb a ddaeth â chynhaeaf o ddifa erchyll yn yr ail ryfel byd. Eto, lladdwyd miloedd o'n bechgyn galluocaf, a bu raid i gannoedd ar filoedd o bobl ifainc Cymru wasgaru, ac eto fyth erlidiwyd a charcharwyd y rhai a wrthwynebodd ymuno â'r lluoedd arfog ar sail cydwybod. Heddiw, yr ydym yn cynaeafu unwaith eto ar anghyfanedd-dra yn Ewrob. Heddiw gelwir ar ein dynion ifainc i ymuno â'r fyddin mewn cyfnod 'heddychol'. Heddiw, gwelwn fyd mewn anghytgord, amheuaeth ac yn ranedig, a chenhedloedd mawr ar fin llwgu mewn dinasoedd diffaith. Ond oes galwad GYMRU am gymorth a chariad? Onid oes angen heddiw am yr hen 'Gennad Heddwch' yng Nghymru? O archifau CYMDEITHAS Y CYMOD yng NGHYMRU. Hwn oedd galwad George M. LI. Davies Gymru ym 1947, blwyddyn sefydlu Eisteddfod Gydwladol Gerddorol Llangollen, ac yntau'n Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru. Pery'r angen 'run fath a'r Eisteddfod. Dylid gysylltu ag Ysgrifennydd presennol Cymdeithas y Cymod yng Nghymru os am ymateb i'r alwad. Cofiwn eleni ar Fedi 24ain am farwolaeth 'S.R.' Llanbrynmair. Bydd y Gymdeithas yn trefnu PERERINDOD NODDEDIG yn yr ardal hon sydd mor nodedig yn hanes heddychiaeth Cristnogol Cymru ar y Sadwrn agosaf ddyddiad canmlwyddiant marw 'S.R.' Y mae taer angen eich cefnogaeth a'ch tystiolaeth. Cysyllter â Nia Rhosier, 14 Ty Kenilworth, Heol-y-Porth, CAERDYDD CF1 1DJ, am holl fanylion y Gymdeithas.