GEDRDAU9[f\ fCFYDD APHANIZO Mor bell yn ôl â 1778 dechreuwyd darganfod sgrapiau o bapyri yn yr Aifft a oedd i daflu goleuni newydd ar ystyron geiriau yn y Testament Newydd er na sylweddolwyd eu gwerth na'u harwyddocâd tan ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Darnau anllenyddol mewn Groeg sathredig y werin oedd y papyri. yn cynnwys pethau fel gweithred- oedd cyfreithiol, prydlesi, talebau, ewyllysiau, llyfrau cownt, llythyrau preifat a gorchmynion gwladol ac ymerodrol, hynny yw, ysgrifeniadau dynion cyffredin wrth eu gwaith beun- yddiol." (Isaac Thomas, Cefndir y Tes- tament Newydd (1966)). Yr oedd yr iaith a'r arddull yr un ag iaith ac arddull y Testament Newydd ac ar y dechrau defnyddid y Testament Newydd i daflu goleuni ar y papyri nes bod Adolf Deissmann yn sylweddoli tua 1893 fod y papyri hwythau yn taflu goleuni ar y Testament Newydd. Un o'r geiriau y cafwyd goleuni newydd arno yn APHANIZÔ. Yr oedd ei ystyr yn hysbys i'r cyfieithwyr o'r dechrau ond wrth ei drosi gwelwyd nad oedd yr un gair Cymraeg yn siwtio bob tro, felly, yn unol â gofynion y cyd-destun cafwyd sawl ymgais i'w gyfieithu:— "anffurfio" (Mat. 6.16); "lygru" (Mat. 6.19,20); "diflannu" (Actau 13.41; lago 4.14). Ystyr llythrennol y gair yn ôl ei elfennau Groeg yn "peri i ddiflannu". Mae'r Beibl Cyrnraeg a'r Beibl D. Hugh Matthews Cymraeg newydd felly yn llygad eu lIe wrth gyfieithu'r gair yn Actau a Iago a gellir gweld pam y mae "llygru" (y Beibl Cymraeg), "difa" (Oraclau Bywiol, Cyf- ieithiad Newydd, William Edwards, B.C.N., ac ati) a hyd yn oed "i'w bwyta nhw" (Efengyl Matthew Islwyn Ffowc Elis) yn rhydd-gyfieithiadau derbyniol dif- lannai'r trysorau pe bai gwyfyn yn eu difa neu rhwd yn eu llygru a'u bwyta. Ond sut mae esbonio "anffurfio" fel cyfieithiad o'r un gair yn Matthew 6.16 a hynny ers dyddiau William Salesbury? Cyfiawnhaodd William Edwards y cyf- ieithiad drwy ddweud mewn nodyn gwaelod-y-ddalen: "Canys hwy a ddileant, neu a guddiant eu gwynebau gwirioneddol". (Cyfieith- iad Newydd I (1894)). Fodd bynnag, y mae'r defnydd o'r gair APHANIZÔ yn y papyri yn awgrymu gwell cyfieithiad ac esboniad ar y paragraff oherwydd ynddynt defnyddir y gair am "beidio ag ymolchi". Nid yn gymaint "tynnu wynebau hirion" (Islwyn Ffowc Elis) a wnâi'r rhagrithwyr er mwyn tynnu sylw at y ffaith eu bod yn ymprydio ond peidio ag ymolchi! Yr hyn ddywedodd yr Iesu, felly, oedd: "Pan fyddwch yn ymprydio peidiwch ag edrych yn sarrug fel y rhagrithwyr. Y mae'n hwy'n difwyno (dwyno, trochi, baeddu) eu hwynebau er mwyn i ddynion sylwi eu bod yn ymprydio." (Cydia'r adnod nesaf yn naturiol wrth y syniad hwn). "Ond pan fyddi di'n ymprydio, eneinia dy ben a golch dy wyneb fel nad dynion a gaiff weld dy fod yn ymprydio, ond dy Dad." A derbyn mai'r Phariseaid yw'r rhagrith- wyr sydd gan yr Iesu mewn golwg, mae rhyw eironi rhyfedd yn y ffaith fod dynion a oedd yn rhoi pwyslais mawr ar fod yn seremonïol lân yn ceisio tynnu sylw atynt eu hunain drwy beidio ag ymolchi! HAIRESIS a HAIRETIKOS O'r Testament Newydd y cafodd yr Eglwys y gair "heresi" a "heretic" eithr mae'n amheus a ydyw'r gair yn golygu'r un peth i ni heddiw ag a olygodd i ysgrifenwyr y Tes- tament Newydd. Ystyr pennaf y gair HAIRESIS yn y papyri yw "dewis", "dewisiad" ond mewn hen Roeggolygai "dewisiad gwirfoddol" ac yna daeth i olygu yr hyn a ddewisir yn wirfoddol sef "safbwynt", "piniwn", "cred". Pwysleisia W. E. Vine yn ei Expository Dictionary of New Testament Words fod elfen gref o hunanoldeb ystyfnig ("self-willed opinion") yn perthyn i'r broses hon o gofleidio safbwynt. Gan fod dosbarthiadau o bobl yn coleddu'r un safbwynt yn aml daeth y gair i olygu "plaid" neu "ysgol" (o athronwyr) neu "sect". "Yn ddiweddarach", meddai William Edwards yn y Cyfieithiad Newydd IV (1915), "rhoddwyd iddo yr ystyr o 'gyfeiliornad', ond cymerai i mewn ymddygiad yn ogystal a barn neu opiniwn, yn enwedig yr hyn oedd yn anghysion â'r, neu yn wrthwynebol i'r ffydd Gristionogol". Ond pa un o'r ystyron hyn a geir yn y Testament Newydd? Nid oedd amhenaeth yn meddwl John Williams, cyfieithydd Oraclau Bywiol (1842): "Yn ôl yr arferiad ysgrythyrol y mae yn gyffredin yn arwyddocâu arblaid neu ymraniad yn hytrach na'r tybiau a gof- leidir gan y sect". H.y., y rhannu yw'r heresi nid y gred sy'n gyfrifol am y rhannu. "Arblaid" neu "arbleidiau", felly, yn cyfieithiad John Williams o'r gair HAERESIS y naw gwaith yr ymddengys yn y Testament Newydd, tra