6. CYNULLIAD CENEDLAETHOL: 'PLUS ÇA CHANGE' YNTEU CYCHWYN PROSES? Ioan Bowen Rees1 (An English translation of this paper can be seen on the Contemporary Wales website: http:www.aber.ac.uk/~inpwww/IWP 1. 'CYNULLIAD CENEDLAETHOL' 0 ystyried hydeimledd Whitehall ynghylch teitlau, siom ar yr ochr orau oedd canfod bod adran gyntaf mesur llywodraeth Cymru yn galw'n cynulliad ni yn 'National Assembly for Wales or Cynulliad Cenedlaethol Cymru', enw sy'n dwyn i gof Chwyldro Ffrengig 1789 ac amryw chwyldroadau mwy rhamantus a rhanedig 1848, 'chwyldroadau'r deallusion', chwedl Lewis Namier. Ym 1848 y lluniwyd y 'ddogfen gyntaf o bwys yn hanes cenedlaetholdeb Cymreig gwleidyddol modern' hefyd, a hynny gan Michael D. Jones, pan oedd yn weinidog ifanc yn Ohio (R. M. Jones, 1998: 282, 440-1). A Michael D. Jones, yn ôl Kenneth Morgan, oedd y 'guru for the politically alert younger generation' yng Nghymru'r Tom Ellis a'r Lloyd George ifanc (K. Morgan, 1995: 363), gwyr a ymhyfrydai yn y disgrifiad gwleidyddol gywir yr adeg honno cenedlaetholwr Cymreig'. Yn Saesneg, 'National Assembly' oedd ymadrodd Tom Ellis yntau wrth fynnu mesur o hunanlywodraeth i Gymru. Yn olyniaeth y Chwyldro Ffrengig, mae'r term yn awgrymu sofraniaeth y bobl a hawliau dinesig cydradd. Yn olyniaeth 1848, mae'n awgrymu yn ogystal enaid cenedl a hawliau ieithyddol ar diriogaeth neilltuol. Cymysgedd o'r dinesig a'r ieithyddol fu cenedlaetholdeb modern Cymreig erioed, ynghyd ag arlliw cryf o ryng-genedlaetholdeb. Yn ôl y diweddar gawr, R. Tudur Jones, a fu farw cyn cwblhau cofiant i Michael D. Jones, yr oedd y 'meddyliwr cwmpasog a chreadigol' hwnnw 'yn ofalus iawn i ymwrthod ag unrhyw awgrym mai endid hilyddol yw cenedl' (R. T. Jones, 1987: 145) ac yn pleidio yn ei eiriau ei hun cydwastadrwydd hawliau cenhedloedd a phersonau' y tu mewn i 'undeb cariad' a allai gynnwys 'cenhedloedd lawer'. Er iddo roi