Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Swyddogaeth Robert ap Huw yng Nghreadigaeth Lbl MS Add. 14905 PAULWHITTAKER Ymgais yw'r erthygl hon i ganfod atebion i wahanol gwestiynau am gynnwys cerddorol Lbl MS Add. 14905, y tabl nodiant Cymraeg unig- ryw i'r delyn a adwaenir fel llawysgrif Robert ap Huw (c.1613).1 A wnaeth Robert ap Huw dableiddio'r cyfan o'r gerddoriaeth hon neu ran ohono? A gopïodd y cyfan neu ran ohono o ffynhonnell arall, ac os felly, pa mor gyfarwydd ydoedd â'r defnydd fel cerddor wrth grefft? A allodd weithredu fel golygydd wrth ysgrifennu? Mae llawer o ymchwilwyr blaenorol wedi rhoi disgrifiadau trylwyr o'r llawysgrif gyfan, gan gyn- nwys erthygl werthfawr gan Stephen Rees a Sally Harper mewn rhifyn blaenorol o'r cyfnodolyn hwn.2 Ymwneud yn benodol yr wyf yma â thestun cerddorol y llawysgrif, sy'n ymestyn o dd. 15-101, gyda thoriad i'r diagram ar d. 35 yn esbonio agweddau o'r tablun. Daw'n amlwg yn syth fod y testun hwn yn ei gyfanrwydd yn dwyn stamp arddull ysgrifennu unigol Robert ap Huw. Gydag un eithriad (a drafodir isod), mae cynllun y dudalen yn unffurf; felly hefyd y dull tableiddio. Mae'r nodweddion nad oes a wnelont â cherddoriaeth yn werth sylwi arnynt, megis y llinell donnog sydd yn ami yn dangos diwedd darn o destun, yr arwyddion sbiral a chroes, a rhudd- ellau megis 'ffordd' ('dal ati fel o'r blaen'), sydd yn marcio darnau a ailadroddir ac a dalfyrrwyd. Syrth y testun cerddorol yn bum rhaniad, sydd wedi eu diffinio yn weddol dda o ran cynnwys a hefyd oherwydd eu bod wedi eu gwahanu gan doriadau yn y tableiddio. Dyma'r rhaniadau: y gostegion y clymau cytgerdd grwp cyntaf y caniadau y profiadau a darnau un-adran eraill ail grwp y caniadau