Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddydd, sef telyn wrachïod dyniant-isel suol, a rhaid cydnabod nad oes unrhyw debygrwydd rhwng ei dechneg ef ac unrhyw dechneg telyn arall, heblaw o bosib un y delyn Wyddelig a'i thannau gwifrog. Mae'r dudalen lle ceir yr 'wyddor' yn cynnwys tair colofn yn llaw Robert ap Huw ei hun a cholofn ychwanegol o ddehongliad, a ysgrifennwyd gan Lewis Morris ynghyd â'i gyfaddefiad gwylaidd mai dyfalu yn unig a wna gyda'r nodau modern ('these modern notes are only my guesses'). Ceir colofn ar y chwith yn rhoi enwau'r gwahanol ffigurau, colofn yn y canol yn rhoi enghreifftiau o'r ffigurau yn defnyddio'r tabl nodiant a welir mewn man arall yn y llawysgrif, a thrydedd colofn yn esbonio'r ffigurau gan ddefnyddio nodiant erwydd a phennau trionglog i'r nodau, sydd weithiau'n ddu ac weithiau'n wyn. Fel y cawn weld, mae enwau'r ffigurau, ffurf pennau'r nodau, cyfeiriad y coesau a diwyg du a gwyn y pennau i gyd yn cyfrannu at dechneg unedig, sy'n elwa ar y gwahaniaethau cynnil mewn pwysau rhwng bysedd penodol, y gwahaniaethau yn ongl yr ewinedd yn taro'r tannau a'r gwahaniaeth mewn faint o suo estynedig a ganiateid ar gyfer pob nodyn unigol. Fy nehongliad i fy hun o dudalen 35 yw Ffigur 2 (tt. 88-9), a baratowyd ar y cyd â Robert Evans, a'i ddosbarthu yn ôl patrymau esgynnol, patrymau disgynnol, nodau sengl a phatrymau amrywiol. Nid yr un siâp sydd i bob pen nodyn trionglog, ac fel mae Paul Whittaker eisoes wedi dangos, mae'r rhain yn cyfateb i'r gwahanol fysedd a ddefnyddid i chwarae'r ffigurau.1 Mae krychu y fawd, rhif 11, yn galw am y bawd; yn ddiddorol, mae'r patrwm nesaf ar y rhestr, ysgwyd y bys, rhif 12, yn galw am y bys, neu'n fwy priodol, unrhyw un o'r bysedd. Dengys pennau'r nodau dri phatrwm gwahanol i'r un a ddefnyddid ar gyfer y bawd; mae'n debyg fod y rhain yn cynrychioli'r mynegfys (ail), y bys canol (trydydd) a bys y fodrwy (pedwerydd). Ar frig Ffigur 1, gwelwn y ffigur taked y fawd. Yn ôl ein cynllun ni, y bysedd a ddefnyddir yw dau a thri. Pam y gelwir ef yn 'dagiad y fawd'? Oherwydd y defnyddir y bawd i dagu neu bylu'r tant a chwaraeir gan yr ail fys. Sylwer mai du yw'r cyntaf o'r ddau ben nodyn; gwyn yw'r ail. Y rheswm am hyn yw fod y nodyn cyntaf wedi ei bylu, neu ei 'dagu', tra gadewir i'r ail barhau i seinio. Mae rhif 7, haner krafiad, yn defnyddio'r un trawiau yn union, ond sylwer fod pennau'r nodau yn wahanol. Os cadwn ein byseddu yn gyson â'r wybodaeth a geir yn ysgwyd y bys, rhaid defnyddio bysedd tri a phedwar yma. Gwyddom eto fod yn rhaid pylu'r nodyn cyntaf a gadewir i'r ail barhau i atseinio. Dyma ystyr ei enw: mae tri yn plycio'r nodyn cyntaf; pedwar yn plycio'r ail nodyn ac yna'n llithro i fyny un tant fel 'crafiad' i bylu'r nodyn a chwaraewyd gan y trydydd bys. Mae'r ddau ffigur, er iddynt ymddangos yr un fath gan