Agweddau ar Balaeograffeg a Hanes Llawysgrif Robert ap Huw STEPHEN P. REES a SALLY HARPER 1 Sut y daeth llawysgrif Robert ap Huw i feddiant Lewis Morris Mae'n bur debyg na cheir byth wybod union grwydriadau llyfr enwog Robert ap Huw o gerddoriaeth y delyn rhwng ei farw yn 1665 a'r 1720au hwyr pan ddaeth i ddwylo'r hynafiaethydd o Fôn, Lewis Morris. Aeth holl lyfrau Robert i'w bedwerydd mab, Henry Hughes (g.c.1635), er bod y ffaith i Robert ar yr un pryd gymynnu ei delyn orau i'w fab bedydd yn awgrymu na fyddai llawysgrif(au) cerddoriaeth telyn ei dad o fawr ddim gwerth i Henry ei hun.1 Nid oes cofnod ar glawr am farw Henry, ond goroesodd ei lofnod mewn detholiad o farddoniaeth amrywiol a allai'n hawdd fod wedi bod yn rhan o lyfrgell Robert,2 ac yn ddiweddarach, ymddengys fod y llyfr hwn wedi ei drosglwyddo i fardd olaf Môn yn nhraddodiad y glêr crwydrol, sef John Prichard Prys o Langadwaladr (m.1724).3 Efallai fod llyfrau eraill Robert wedi mynd gydag ef, oherwydd ymddengys fod y llawysgrif telyn wedi dod i feddiant Lewis Morris yn ddiweddarach yn y degawd hwnnw pan weithiai i Syr Owen Meyrick o Fordorgan, prin dafliad carreg o Langadwaladr.4 Cadwyd dau gofnod o'r ffaith fod y llyfr ym meddiant Lewis Morris yn ystod y cyfnod hwn: nodyn ar un arall o'i lawysgrifau, a gopïwyd c.1727, sy'n cyfeirio at 'hen lyfr a fuase gan Robert pugh y telynior Mae y llyfr hwnw genifi. Lewis Morris',5 a llythyr a ddyddiwyd Mehefin 1729 oddi wrth y gramadegydd a'r cyhoeddwr Siôn Rhydderch (1673-1735), yn amlwg yn ateb llythyr cynharach gan Lewis yn holi ynglyn â'r 'hen Geingciau Cymreig yr hen Gerddoriaeth' ý Lewis Morris (1701-65) oedd y mwyaf dawnus o'r pedwar brawd Morris o Lanfihangel Tre'r-beirdd, Môn. Rhannent i gyd ddiddordeb mewn llên gwerin a llenyddiaeth, a chawsant gryn ddylanwad ar yr hybu a'r dadeni a fu yn niwylliant Cymru yn y ddeunawfed ganrif fel llenorion, casglwyr a chyhoeddwyr.7 Symudodd Lewis, y brawd