Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Robert ap Huw: Clerwr Gwyllt o Fôn NIA POWELL Ymhlith cofnodion troseddol Llys y Sesiwn Fawr yn Sir Ddinbych a gynhaliwyd yn nhref Dinbych gerbron Syr Richard Lewkenor yng Ngorffennaf 1600 ceir deponiadau ynglyn ag achos hynod iawn.1 Yr oedd yr achos yn ymwneud â digwyddiadau a fu yn ystod hydref 1599 a gwanwyn 1600 ym mhlwyfi Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanelidan, Derwen, Gwyddelwern a Chorwen, ardal sydd yn rhychwantu pen deheuol Dyffryn Clwyd a gogledd Edeirnion a'r ffin rhwng Sir Ddinbych a Meirionnydd. Ar y wyneb nid oedd fawr ddim byd arbennig am yr achos; yr oedd dyn wedi ei gyhuddo o sawl trosedd. Y gwyn gyntaf yn ei erbyn, a dechrau'r helynt, oedd ei fod yn ystod yr hydref blaenorol wedi cipio o dy ei thad, a heb ei ganiatâd, ferch Ieuan ab Ithel, mân uchelwr a chanddo gysylltiadau â Phlas Llelo ym mhlwyf Gwyddelwern ym Meirionnydd.2 Yr oedd y cyhuddedig wedi bod yn aros gyda Ieuan ab Ithel, ym Mhlas Llelo yn fwy na thebyg, pan gymerodd fantais ar ei groeso fel hyn, ac am y drosedd foesol hon daethpwyd ag ef gerbron llys esgob Bangor yn Llanelidan yn ystod yr ail wythnos yn Nhachwedd 1599.3 Yr oedd Ieuan wedi ei gyhuddo o droseddau eraill hefyd, gan honni iddo ddwyn o'i dy lieiniau ac, yn arwyddocaol, 'writtinges', neu lawysgrifau.4 Dywed y deponiadau fod y troseddwr wedi ei dditio am gymryd y pethau hyn yn y llys chwarter a gynhaliwyd yn Rhuthun yn ystod Ebrill 1600.5 Yn ystod y mis Ebrill hwnnw, daethpwyd â chyhuddiadau pellach yn ei erbyn gan uchelwraig o Gorwen, Margaret ferch David o Drewyn, a honnodd ei fod wedi cymryd o'i chartref, yn ystod y nos ar 9 Ebrill 1600, dri llestr pres, cwrlid, blanced a phais.6 Daliwyd ef ym Mhlas Einion, Llanfair Dyffryn Clwyd a'i garcharu yn y twr yn Stryd Clwyd, Rhuthun, i ateb y cyhuddiad o fwrgleriaeth. Ar ddydd Sadwrn 10/11 Mai, fodd bynnag, dihangodd o garchar, ac yn ôl y cofnodion ni welwyd mohono byth wedyn. Yr oedd y ffaith ei