Mae ynod mwy awenydd 35 Na dau a ddêl yn dy ddydd; Da iawn ei gwedd, daioni, Awen y taid ynot ti; Da'n eilio gwawd iawnloyw gerdd, Da ac iawngall, deg angerdd. 40 Un wyt a gâi, ond da 'i gwedd, Wr hynaws, lawer rhinwedd, Ac un dyn a gei'n d'annerch A'i gwyn sydd o eigion serch; Huw Llwyd yw, pob rhai lle'i dêl 45 A genfydd aer o Gynfel. Trafaelio trwy ofalon Y bu'n ei ddydd dedwydd dôn. O gwelodd, teg fu'r bregeth, Yn 'i ieuenctid o'r byd beth, 50 Da oedd yn y diweddiad, Dirion le, dario'n ywlad, Trwsio, ffwmeisio a wnâi O'i ddyfais ei dy'n ddifai, A'i rannu yn gywreiniach 55 A throi'r dwr drwy barlwr bach; Os dyfod i'w ystafell, Hon sy waith hardd, yn saith well, Ei lyfrau ar silffiau sydd Deg olwg gyda'i gilydd, 60 Ei flychau eliau 'n lân A'i gêr feddyg o arian, A'i fwcled glân ar wanas A'i gledd pur o'r gloywddur glas, A'i fwa yw, ni fu ei well, 65 A'i gu saethau a'i gawell, A'i wn hwylus yn hylaw A'i fflasg, hawdd y'i caiff i'w law, A'i ffon enwair ffein iownwych A'i ffein gorn a'i helffyn gwych, 70 A'i rwydau pan fai'r adeg Sy gae tyn i bysgod teg, A'i ddrych, oedd wych o ddichell, A wyl beth o'i law o bell, A'r sies a'i gwyr, ddifyr ddysg, 75 A rhwydd loyw dabler hyddysg.