(ii) Ceir y term ddwywaith yn Lbl MS Add. 14905 i nodi eitem fer annibynnol: 'Cainc Ruffudd ab Adda ap Dafydd' a 'Cainc Dafydd Broffwyd', y ddwy yn cynnwys adran unigol hunangynhwysol. O bosib ailadroddid eitemau o'r fath dro ar ôl tro fel cyfeiliant i destun, neu gallent fod wedi bod yn sylfaen i amrywiadau yn y dull a amlinellir yn (i) uchod. (Gweler hefyd Prifgainc.) Caniad/Kaniad (llu. Caniadau) Un o'r ffurfiau cyfansoddol mwyaf niferus yn y repertoire cerdd dant, wedi ei seilio ar y mesurau. Mae'r mwyafrif yn cynnwys deuddeg adran hanfodol (pob un ag elfennau 'cainc' a 'diwedd') er bod gan eraill hyd at ddeunaw adran. Mae pymtheg caniad wedi goroesi mewn nodiant yn Lbl MS Add. 14905, tra rhestrir saith arall ar dudlaen 106, a llawer rhagor mewn rhestrau repertoire eraill. Mae gan sawl un deitl disgrifiadol. Bellach ni chredir yn gyffredinol fod y caniadau yn fersiynau trawsgrifiedig o gyfeiliannau i ganu neu adrodd. Cerdd dafod: y gelfyddyd farddol. Term a ddefnyddiwyd ers o leiaf y bedwaredd ganrif ar ddeg i olygu barddoniaeth lafar ei naws a gysylltid â cherddoriaeth: fe'i ceir yng ngwaith Dafydd ap Gwilym (fl.1320-70) ac yn Llyfr Coch Hergest (c.1382-1410). O'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, fodd bynnag, ymddengys y gallai cerdd dafod ddynodi perfformiad lleis- iol (yn hytrach nag offerynnol). Yn A Dictionary in Englyshe and Welshe William Salesbury (1547) ceir y diffiniad 'kerdd dafod ne danneu, musike'. Cerdd dant (Cerdd dannau): cyfeirir ati ambell dro fel Cerdd arwest. Y grefft o ganu'r delyn, y crwth a'r tympan (er bod yr olaf yn fwy cyffredin yn Iwerddon nag yng Nghymru). Cysylltir y term yn glòs â cherdd dafod, ac ymddengys gydag ef yn yr un ffynonellau o'r bedwaredd ganrif ar ddeg: adwaenid y ddwy grefft gyda'i gilydd fel y ddwygerdd. Mae'r arfer hwn o gerdd dant yn hollol wahanol i ystyr fodern y term sy'n cyfeirio at ffordd arbennig o osod penillion i gyfeiliant telyn. Colofn/Kolofn (llu. Colofnau): yn llythrennol 'piler'; ond fe'i def- nyddir yma i olygu math o gyfansdoddiad o fewn cerdd dant. Un o'r darnau mwyaf anodd yn y maes llafur barddol. Yr oedd y golofn yn perthyn yn glòs i'r gadair ond yr oedd hyd yn oed yn fwy anodd: dywed Statud Gruffudd ap Cynan ei bod yn cyfateb i ddeg yn hytrach na phum cwlwm. Rhestra Robert ap Huw bedair colofn ar dudalen 102 ei lawysgrif. Fel y gadair, yr oedd y golofn yn fath ar gwlwm, ac yn ddamcaniaethol nid oedd byth yn fwy na phedair o ran nifer. Efallai fod y term yn tarddu o gysylltiad cynnar rhwng