Geirfa j Cadair/Kadair (llu. Cadeiriau): a ddefnyddir i nodi math o gyfan- soddiad mewn cerdd dant. (i) Yn draddodiadol cyflwynid cadair i'r bardd buddugol mewn cystadlaethau barddol ers amser Hywel Dda (m.950). Awgryma cofnodion yr eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin c.1451 a Chaerwys ym 1523 a 1567 y cyflwynwyd tlws arian ar ffurf cadair i'r beirdd buddugol. (ii) Mae Statud Gruffudd ap Cynan o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg yn nodi fod y gadair yn un o'r darnau mwyaf anodd o fewn y repertoire cerdd dant, ar yr un lefel â phum cwlwm. Nid oes yr un gadair wedi goroesi mewn nodiant, ond rhestrir set o bedair gan Robert ap Huw ar dudalen 102 ei lawysgrif. Yn ddamcan- iaethol nid oedd byth mwy na phedair cadair o ran nifer (cf. ceathair Gwyddeleg = pedwar), er mewn ymarfer ceid amrywiolion rhan- barthol a set benodol o bedair ar gyfer y crwth (a restrir yn AB MS 17116-B (Gwysaney 28), ffo. 66). Mae rhai o'r rhestrau yn rhoi'r cadeiriau fel eitemau o fewn teulu ehangach y cwlwm. Cadwedigaeth Cerdd Dannau Un o'r ddwy ddogfen theoretig ar gerdd dant a gopïwyd yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac a oroesoedd mewn tri phrif destun diwygiedig. Honna'r adran agoriadol fod y testun wedi ei seilio ar orchymyn pedwar pencerdd y delyn a'r crwth a gyfarfu yng Nglyn Achlach (sef Glendalough yn ôl pob tebyg) yn Iwerddon c.1100. (Gweler hefyd Dosbarth Cerdd Dannau.) Cainc/Kaingk (llu. Ceinciau): yn llythrennol golyga gangen; gall hefyd olygu llinell o farddoniaeth neu erwydd cerddorol, ac fe'i ceir mewn llenyddiaeth o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen. (i) Mae cadwyni o adrannau cysylltiedig (yn aml wedi eu rhifo) ar y mesurau penodedig yn esgor ar adeiledd amrywiadol nodwedd- iadol llawer o'r repertoire cerdd dant. Fel rheol mae pob adran unigol yn cynnwys dwy elfen: adran 'cainc' a ailadroddir, a dilynir hon â 'diwedd' byrrach. Amrywiai'r elfen cainc gyda phob adran olynol o'r darn, tra arhosai'r diwedd yn gyson yn aml. Yr adeiledd hwn yw sylfaen y rhan fwyaf o'r darnau o fewn y repertoire, ac eithrio'r clymau cytgerdd, Ue na cheir yr elfen diwedd.