ganrif ar bymtheg ar gyfer y sawl a ddymunai ddod i mewn i'r hierarchiaeth farddol, yn rhannol oherwydd fod safonau'n disgyn, a hefyd, yn ôl pob tebyg, i gau allan yr anhyddysg. Yr oedd diogelu a chyfundrefnu'r traddodiad a fodolai yn ddiau'n bwysig i wyr wrth gerdd Cymru. Dechreuwyd copïo rhestrau cyn- hwysfawr o ddarnau cerdd dant ers o leiaf yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac mae dwy ddogfen theoretig ar gerdd dant hefyd wedi goroesi o'r cyfnod hwn. Ni allwn fod yn sicr yn y naill achos na'r llall pa bryd y lluniwyd y fersiwn gwreiddiol ysgrifenedig na hyd yn oed a oedd yna fersiwn o'r fath, ond mae'r Dosbarth Cerdd Dannau a'r Cadwedigaeth Cerdd Dannau yn honni fod rhai o reolau ffurfiol y grefft wedi eu cyfundrefnu gan gyngor o delynor- ion a chrythorion a gyfarfu yng Nglyn Achlach (Glendalough?) yn Iwerddon c.1100. Cedwir enwau rhywfaint o'r rhai a oedd yn bresennol yn nheitlau darnau yn y repertoire, ond ni wyddys yn bendant i ba raddau y maent yn adlewyrchu awdurdod a thraddodiad hynafol, i ba raddau y maent yn ganlyniad casglu ar lafar dros nifer o genedlaethau, neu i ba raddau yr oedd y gorffennol trawiadol hwn mewn gwirionedd yn rhywbeth ffug a luniwyd wrth edrych yn ôl gan wyr wrth gerdd diweddarach a oedd yn awyddus i roi cadarnhad i repertoire a oedd mewn perygl o ddiflannu am byth. Nid yw'r erthygl hon yn ceisio profi na gwrthbrofi'r honiadau a wnaed am y traddodiad na'i darddiadau, ond yn hytrach mae'n trafod y duedd amlwg i ddosbarthu a chanoneiddio'r repertoire a ddaeth i fod yn ôl pob golwg yng nghanol y bymthegfed ganrif. Dechreuodd y duedd hon o bosib yn Eisteddfod Caerfyrddin c.1451, ac fe'i hymgorfforir mewn sawl ffynhonnell: llawysgrif Robert ap Huw ei hun, rhestrau'r darnau cerdd dant yn llawysgrifau Cymreig yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg, a gofynion maes llafur cynhwys- fawr y beirdd, sef Statud Gruffudd ap Cynan, a enwyd ar ôl brenin Gwynedd, gwr o dras Wyddelig (c.1055-1137), ond na luniwyd yn y ffurf a oroesodd i'n cyfnod ni, yn ôl pob tebyg tan y 1520au. Yn ôl tystiolaeth y Statud awgrymir fod y darnau wedi eu dosbarthu yn genres cyfansoddiadol penodol, a'r modd na chynhwysai genres arbennig fwy na nifer penodedig o eitemau. Gellir casglu fod yna hierarchiaeth ddealledig o genres o Statud Gruffudd ap Cynan ac o ddetholiad o gywyddau yn clodfori campau rhai chwaraewyr cerdd dant. Daw'n amlwg fod rhai o'r darnau mwyaf anodd o ran techneg i'w cael mewn grwpiau penodedig o bedwar, ac mewn sawl enghraifft daw eu henwau o wyr wrth gerdd arbennig a flodeuai yn ail hanner y bymthegfed ganrif. Gellir casglu bod hwn yn gyfnod allweddol yn hanes cerdd dant, pan oedd y duedd i gyfundrefnu a chanoneiddio yn dechrau treiddio trwy'r repertoire, gan esgor ar gyfres o eisteddfodau, maes llafur barddol newydd, a grwp newydd