Llawysgrif Robert ap Huw a Chanon Cerddoriaeth Gymreig i'r Delyn yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg SALLY HARPER Y gyfrol enwog o gerddoriaeth telyn (Lbl MS Add. 14905), a gopïwyd gan Robert ap Huw yn gynnar yn yr ail ganrif ar bymtheg, yw un o ddwy ffynhonnell yn unig a oroesodd sy'n cynnwys darnau mewn nodiant yn nhraddodiad cerddorol unigryw Cymru o gerdd dant. Yn y llawysgrif ceir deuddeg eitem ar hugain mewn nodiant yn perthyn i bedwar math gwahanol o gyfansoddiad; ceir hefyd restr o bron i gant o ddarnau yng nghefn y llyfr, eto yn ysgrifen Robert ap Huw, sy'n dystiolaeth o bum math arall o gyfansoddiad. Gyda'i gilydd, ymddengys eu bod yn rhoi darlun cynhwysfawr o'r mathau o gerddoriaeth a chwaraeid ar y delyn yng Nghymru yn y cyfnod canoloesol diweddar. O'i gymharu â chynnwys a threfn llawer o ffynonellau cyfoes ym Mhrydain ar gyfer liwt, llawfwrdd ac ensemble, ymddengys fod Robert ap Huw wedi tynnu ar repertoire sydd yn unigryw ac yn wahanol iawn o ran estheteg a thechneg. Ymddengys hefyd iddo ddefnyddio strategaeth bendant wrth ddethol cynnwys y gyfrol a phwrpas sy'n cyd-fynd â'i restrau ychwanegol. Tystia'r rhestrau hyn ei fod wedi ysgrifennu o leiaf un llawysgrif arall. Mae'r repertoire telyn sy'n amlwg yn y llyfr gan Robert ap Huw a oroesodd ac ymhlyg yriddo yn cyfateb yn glòs i repertoire y crwth, offeryn a chanddo statws bron cydradd â'r delyn ymhlith y penceirddiaid a'u noddwyr. Efallai na cheir byth wybod gwir amcan Robert wrth gopio'r llyfr hwn ac eraill o gerddoriaeth telyn. Fodd bynnag, gallai fod yr angen i roi ar glawr repertoire Cymreig a drosglwyddwyd ar lafar ac y gwyddys ei fod yn edwino ers o leiaf ddiwedd y bymthegfed ganrif yn ffactor cryf, boed hynny i ddibenion addysgol neu bedagogaidd neu er mwyn ei gadw. Erbyn 1620, yr oedd cerdd dant a'i chwaer- gelfyddyd cerdd dafod wedi eu disodli gan ffasiynau a fewnfudwyd o Loegr. Yr oedd y ddwy gelfyddyd i raddau yn rhai dirgel a ddiogelid: codwyd y gofynion gan yr eisteddfodau yn yr unfed