Llawysgrif Robert ap Huw a Phenbleth Trawsgrifio PEKKA TOIVANEN 1 Rhagarweiniad Ychydig o wybodaeth ysgrifenedig sydd ar gael o'r mileniwm cyntaf ynglyn â pherfformio offerynnol, ei gyd-destun a'i arfer, ac ni oroesodd nemor ddim cerddoriaeth a fwriedid ar gyfer offerynnau cyn c.1450. Cyfansoddid y rhan fwyaf o ddarnau offerynnol yn fyrfyfyr, yn aml yn ôl patrymau strwythurol neu harmonig, a chan mai ar lafar y dysgid ac y trosglwyddid cerddoriaeth fel rheol, anaml yr ysgrifennid hi ar glawr. Mae cerddoreg y Gorllewin yn tueddu i ddibynnu'n ormodol ar dystiolaeth ysgrifenedig, gan fychanu neu hyd yn oed anwybyddu'r prosesau hynny sydd mor hanfodol mewn unrhyw ddiwylliant cerddorol i balmantu'r ffordd ar gyfer ffynonellau nodiant ac ysgrifau ar gerddoriaeth. Mae hyn yr un mor wir am y repertoire dan sylw: o blith o'r llu o astudiaethau sy'n ymwneud â llawysgrif Robert ap Huw, pedwar yn unig sy'n ceisio mynd i'r afael â chymeriad llafar a'r modd y trosglwyddwyd cerdd- oriaeth y delyn yng Nghymru. Yn y trawsgrifiadau sydd ar gael gwelir y syniad na ellir yn briodol drafod cerddoriaeth gynnar oni bai ei bod wedi ei chyflwyno ar ffurf nodiant modern. Serch hynny ni all trawsgrifiadau ond cynrychioli fersiwn llythrennol ail-law o draddodiad cerddorol a draddodwyd yn wreiddiol ar lafar, gyda haen gyntaf y fersiwn llythrennol yn fwy na thebyg yn waith Robert ei hun. Gall ymgeisiau o'r fath i drosglwyddo traddodiad hanfodol lafar cerdd dant trwy gyfrwng nodiant modern fod yn anochel yn gamarweiniol, os nad yn gyfeiliomus. Mae'r erthygl hon yn ailedrych ar y modd y trosglwyddid traddodiad llafar o safbwynt ethnogerddoregol, gan ystyried rhai nodweddion cerddorol a diwyll- iannol amgylchedd Robert ap Huw.