Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GRIFFITH JOHN WILLIAMS (1892-1963) WRTH chwilio drwy ei ysgrifau ef yn Y LIenor deuthum ar draws adolygiad ar Gramadegau'r Penceirddiaid a sgrifennais i yn 1934. Mi fentraf ddyfynnu'n awr yr hyn a sgrifennais i amdano yn 1934 pan oedd ef megis ar drothwy canol oed Ef yw'r ysgolhaig mwyaf sy'n gweithio heddiw. Mae lie i ofni mai ychydig a wyr fod adolygiadau Mr. Williams yn y Lienor ar adargraffiadau Gwasg Prifysgol Cymru o lyfrau printiedig Cymraeg yn gyfres o orchestion ysgolheictod Yr adolygiadau hyn yw'r cyfraniad pwysicaf i lyfrydd- iaeth feirniadol Gymraeg yn y cyfnod wedi'r rhyfel. I'r un maes, neu i'r un gangen o ysgolheictod, y perthyn gwaith Mr. Williams ar y llawysgrifau Cymraeg. Ei ymchwil hir a llafurus ar Iolo Morganwg oedd ei gychwyn a'i brentis- iaeth. Pennod ar y llawysgrifau y cyfeiriai Iolo atynt oedd un o'r rhannau gwerthfawrocaf yn ei lyfr ar Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad, ond trwy gydol y llyfr hwnnw fe amlygai wybodaeth a oedd eisoes yn ddihafal nid yn unig am lawysgrifau Llanofer, eithr am dwf a helynt yr holl brif gasgliadau o lawysgrifau Cymraeg. Heddiw Mr. Williams yw hanesydd y llawysgrifau Cymraeg a'r awdurdod amynt. Rhan fawr a newydd a hanfodol o'i Ragymadrodd i'r llyfr hwn, Gramadegau'r Penceirddiaid, yw'r ymdriniaeth a llawysgrifau ysgol y beirdd a chysylltiad y llawysgrifau hynny â'r gramadegau, megis gramadegau Gruffydd Robert a Sion Dafydd Rhys, a oedd ymhlith y llyfrau printiedig cynharaf mewn Cymraeg. Yn wir, y mae'r gweithiau a gyhoeddodd Mr. Williams hyd yn hyn yn esiampl glasurol o'r cysondeb difwriad eithr anorfod a nodwedda gynnyrch ysgolheictod pur. Canys i'r