Skip to main content

HANNER CANRIF YN HANES Y GYMRAEG YM MHATAGONIA (1955-2005) Mewn araith a draddododd yn y Gaiman hanner canrif yn ôl i eleni (2005), proffwydodd W. R. Owen, ar ddiwedd taith ymchwil ar gyfer llunio rhaglenni i'r BBC ym Mangor, na fyddai neb yn siarad Cymraeg yn y Wladfa ymhen deng mlynedd ar hugain. Bron yr un mor ddigalon oedd barn R. Bryn Williams: Peth peryglus yw projfwydo meddai yn dilyn ei ymweliad â'r Wladfa yn 1958, lond credafy derfyddy Gymraeg fel iaith ymddiddan yno ymhen chwarter canrif', er ei fod yn cydnabod y 4 .byddyno raiyn gallu ei siarad ymhen hanner canrif. V Roedd dirywiad yr iaith yn Nyffryn Camwy wedi bod yn amlwg a pharhaus ers degawdau, a chafwyd sawl cyfeiriad at hynny o bryd i'w gilydd ar dudalennau Y Drafod. Byth oddi ar i Gwmni Masnachol y Camwy fynd i'r wal yn 1933, collodd y Gymraeg ei statws breintiedig ym myd masnach (er y gellid ei chlywed o hyd wrth gownteri ambell siop yn Nhrelew, a'r Gaiman yn fwyaf arbennig). Roedd hi wedi hen ddiflannu o fyd llywodraeth leol ac ni fyddid yn gweld yn dda i gynnwys cyfeiriad ati yng nghyfansoddiad Chubut a luniwyd yn 1957 er bod ambell swyddog ac aelod o senedd y dalaith newydd sbon yn arddel eu tras Cymreig ac yn siarad Cymraeg. Doedd dim sôn amdani yn y llysoedd a'r ysgolion cynradd ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhoddwyd gymaint fwy o bwyslais ar y Saesneg nag ar y Gymraeg yn Ysgol Ganolraddol y Gaiman nes yr adwaenid hi am gyfnod cyn iddi gau yn niwedd y 1940au fel La Escuela Inglesa (yr ysgol Saesneg). A phan fyddai'n agor eto ar ei newydd wedd yn y 1960au o dan nawdd Cymdeithas Addysg a Diwylliant y Camwy, ni fyddai'r Gymraeg yn rhan o gwricwlwm Colegio Camwy. Trai a gobaith I