Llythyraur Gwladgarwr Ystrydeb bellach, yw sôn am y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel oes aur y wasg Gymraeg, a'r cyfnod mwyaf cynhyrchiol yn holl hanes ein llên, ac mae rhai ysgolheigion diweddar o'r farn, mai myth yw'r mynych sôn am oes aur, beth bynnag.1 Eto i gyd, hon yw'r 'ganrif fawr' o safbwynt maint y cynnyrch, beth bynnag a ddywedir am ei ansawdd, a'r hyn sy'n syfrdanol, yw bod cenedl fechan fel y Cymry wedi gallu cynnal cynifer o gyhoeddiadau cyfnodol drwy gydol y ganrif. Mae anferthedd cynnyrch gwasg Gymraeg y ganrif yn nodedig, pan gofiwn am ddiffyg cyfleusterau addysgol ac amgylchiadau economaidd y cyfnod, ac fe amlygir yr helaethrwydd hwn gan amrywiaeth y cylchgronau a'r newyddiaduron a gyhoeddwyd. Digwyddodd chwyldro cymdeithasol eithriadol ym mywyd Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Yr oedd newydd brofi o gyfres o ddiwygiadau crefyddol grymus iawn yn ystod y ddeunawfed ganrif; cafwyd twf aruthrol yn ei phoblogaeth, a thrawsnewidiwyd economi'r wlad, o ganlyniad i'r datblygiadau diwydiannol newydd yn ardaloedd chwarelyddol y gogledd a chymoedd glofaol y de, fel ei gilydd. A'r elfennau hyn, yn anad dim arall, a greodd y radicaliaeth a ddaeth, yn y man, yn gymaint rhan o ymwybyddiaeth wleidyddol y genedl. Gellir ystyried twf a datblygiad y wasg gylchgronol a newyddiadurol yng Nghymru, felly, fel ymateb uniongyrchol i'r chwyldro cymdeithasol hwn, drwy fod yn gyfrwng i addysgu a chreu barn wleidyddol ymhlith pobl gyffredin nad oeddynt erioed wedi ymboeni ynghylch materion o'r fath o'r blaen. Y mae'n wir dweud hefyd, bod undod diwylliannol pendant i'w ganfod yng nghymoedd diwydiannol y de yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn sgîl diwydiannu'r cymoedd hyn, a'r cynnydd yn eu poblogaeth, y profwyd gweithgarwch llenyddol mawr y cyfnod. Bu'r dylanwadau diwydiannol yn fodd ynddynt eu hunain i