Gwlad o bosibiliadau: golwg ar lên Cymru ac America Y flwyddyn dwy fìl yw hi. Mae gan Gymru ei chyrff llywodraethol ei hun, a rennir yn Dŷ'r Cyffredin ac yn Dŷ'r Arglwyddi. Ac mae ganddi ei phrif weinidog — Y Foneddiges Gwen Tudor, merch landeg, ddiwylliedig; telynores ddawnus a gwleidydd craff: The first year of her premiership was eventful. The British Empire was drawn into a war with America, a war which ended in the complete triumph of the British Crown over its ancient foe, a triumph which more than made amends for the defeat of the eighteenth century. Owing to Lady Gwen's exertions, Wales turned out a larger quota of volunteers, in comparison with its size and population, than any other part of the Empire; and on the field of battle the Welsh youth, though at a terrible cost, more than upheld the martial glory of their forefathers.2 Fel yna mae awdur anhysbys yn rhagweld y berthynas rhwng Cymru a'r Taleithiau Unedig yn y misolyn Cymru Fydd, yng Ngorffennaf, 1890. Bwrdwn ei stori ar ei hyd yw y byddai Cymru a feddai ar lywodraeth 'annibynnol' oddi fewn i Ymerodraeth Brydeinig ddiwygiedig, ffederal, yn sicr o fod yn ffyddlon, hyd yr eithaf, i'r Ymerodraeth honno. Wrth i ni, heddiw, ddarllen y paragraff hwn a chraffu ar y cyfeiriad at aberth gwaed y Cymry ifainc sy'n marw, yn eu miloedd, dros yr Ymerodraeth Brydeinig, fe gofiwn, yn anorfod, am gyflafan y Rhyfel Mawr, bum mlynedd ar hugain ar ôl cyhoeddi Lady Gwen. O gyfeiriad Ewrop y daeth y bygythiad i'r drefn, ac nid o gyfeiriad yr Unol Daleithiau. Ac eto, ar hyd yr ugeinfed ganrif daliai llawer o Gymry Cymraeg i synied am America fei y gelyn. Ac os taw'r Undeb Sofietaidd oedd 'the Evil Empire' i Reagan a'i griw, yna 'ymerodraeth' y Taleithiau