Skip to main content

Cyfarch y Dr. Isaac Thomas Ar Chwefror 15ed eleni dathlodd y Dr. Isaac Thomas ei benblwydd yn 90 oed, a hyfrydwch yw cael ei gyfarch fel hyn ar dudalennau'r Traethodydd. Crynhowyd ei yrfa'n daclus gan y diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams yn y gyfrol deyrnged iddo adeg ei ymddeoliad, Efrydiau Beiblaidd Bangor 3, gol. O. E. Evans, 1978: ei fagu yn y Tymbl; ei yrfa lwyddiannus yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, gan raddio gydag anrhydedd mewn Groeg, ac wedyn yng Ngholeg Coffa Aberhonddu, lle'r enillodd ei B.D. gyda rhagoriaeth yn Hanes yr Eglwys; ei gyfnod o saith mlynedd yn weinidog yn Nhreorci; ei yrfa fel Athro yn ei hen goleg yn Aberhonddu, yn gyfrifol am Hanes yr Eglwys i ddechrau (1943-50) a Groeg y Testament Newydd ar ôl hynny (1950- 58); ei waith enfawr ar y Testament Newydd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor (1958-78), lle'r oedd ar y cychwyn yn Ddarlithydd ac yna yn y man ei ddyrchafu'n Uwch-ddarlithydd. Esgyrn moel yw'r rhain, ac er eu bod yn rhoi cipolwg inni ar yrfa o bymtheg mlynedd ar hugain yn hyfforddi myfyrwyr nid ydynt yn rhoi unrhyw awgrym o gyfraniad aruthrol fawr y Dr. Isaac Thomas i ysgolheictod nac o'r crynswth mawr o waith a gyhoeddodd yn ystod ei yrfa. Cyn i'w dymor fel Athro Hanes yr Eglwys yn Aberhonddu ddod i ben yr òedd wedi cyhoeddi llawlyfr hwylus ar Hanes Cristionogaeth yng Nghyfres y Brifysgol a'r Werin (Rhif 23, 1949). Yn fuan ar ôl symud i Fangor cyhoeddodd lawlyfr arall a fu'n gymorth amhrisiadwy i'w fyfyrwyr, sefArweiniad Byr i'r Testament Newydd (1963). Ar ôl iddo droi i'w brif faes ymchwil, sef, yn ei eiriau ef ei hun, 'hanes "mewnol" y fersiynau Cymraeg (o'r Ysgrythur), a gyhoeddwyd yn y cyfnod sy'n ymestyn o 1551 hyd 1620', ymddangosodd William Salesbury a'i Destament (1967), gwaith y bu galw'n fuan am ei ailargraffu (1972). Ymhen blynyddoedd ar ôl iddo ymddeol cyhoeddodd em o gyfrol fechan, Trosom Ni: Nodiadau ar Drefn y Cadw yn yr Ysgrythurau (1991), llyfryn a ddisgrifir fel math o gyffes ffydd ganddo ac sydd yn addolgar a defosiynol ei naws.