Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyfres 'Writers of Wales', a bu cryn drafod yn yr iaith fain ar weithgarwch crefyddol y ganrif ac ar gyfraniad Cylch y Morrisiad. Ar y llaw arall, prin fu'r trafod yn Saesneg ar yr anterliwt a'r canu poblogaidd, ac ar waith Theophilus Evans, a diau y bydd y gyfrol o'r herwydd yn agor iddo sawl drws newydd. Y mae'r darllenydd Cymraeg wrth raid yn fwy ffodus. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft, cafodd gynhaeaf o gofian- nau safonol, ffrwyth llafur Alan Llwyd (Goronwy Owen), Glenda Carr (William Owen Pughe), Dafydd Glyn Jones (William Williams Llandygài) a Dafydd Wyn Wiliam (Lewis, Richard a Wiliam Morris). Ond y mae digon yn y gyfrol i'w ddiddori a'i ysgogi yntau. Amlinellwyd cynnwys rhai o'r penodau eisoes, ond nid oes modd cyfeirio at bob cyfraniad unigol mewn adolygiad fel hwn. Goddefer, felly, imi grybwyll trafodaeth Geraint H Jenkins ar hanesyddiaeth y ganrif, pennod sy'n rhoi sylw i waith haneswyr yn y Gymraeg a'r Saesneg, rhai yn fwy cyfarwydd na'i gilydd, ymdriniaeth Brynley F Roberts ar lenyddiaeth y Diwygiad, pennod sy'n dangos nad mewn gwagle y dechreuodd gyrfa emynyddol Pantycelyn, ac yn pwys- leisio ei ddyled ef a'i gyd-emynwyr i drafodaethau'r seiat, a sylwadau Ffion Llywelyn Jenkins ar y gyfathrach groesddiwylliannol (a damweiniol ei chychwyn ar lawer ystyr) cydrhwng y beirdd a'r ysgolheigion yng Nghymru a Lloegr, cyfathrach yr awgrymir ei bod yn ddolen gyswllt rhwng Awgwstiaeth ar y naill law a Rhamantiaeth ar y llaw arall. Dyma dair pennod werthfawr mewn cyfrol sydd i'w chroesawu'n fawr. A. CYNFAEL LAKE Abertawe Trystan Owain Hughes, Winds of Change: The Roman Catholic Church and Society in Wales 1916-1962, Cardiff, University of Wales Press, 1999. xxi. + 291 td. £ 25.00. Ychydig iawn, os dim, o astudio a fu ar hynt a helynt yr Eglwys Rufeinig yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif gan bobl a oedd yn Gymry eu hunain. Nid yw hynny yn syndod. Gwlad drwyadl Brotestannaidd oedd Cymru pan ddychwelodd Pabyddiaeth tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ôl absenoldeb o ryw dri chan mlynedd; ac nid Cymry oedd y Pabyddion hyn ond Gwyddelod truain ar ffo rhag y Newyn Mawr, ac yn ddiweddarach, Saeson a ffoaduriaid rhyfel o amryfal wledydd, cawdel 0 bobl drwyadl estron y teimlid eu bod yn gymaint bygythiad i genedligrwydd Cymru oherwydd eu niferoedd a'u hanwybodaeth ohoni ag i fodolaeth Protestaniaeth ac yn enwedig anghydffurfìaeth oherwydd twf cryfach eu crefydd. Ac er bod rhai pethau wedi newid erbyn hyn, eto i gyd corff estron yn ei hanfod ydyw Eglwys Rufain o hyd yng Nghymru. Serch hynny, y mae ei hanes yma yn rhan o'r hyn sydd wedi digwydd yn ein gwlad ac felly o bwys inni. Dyma'r ymgais gyntaf erioed gan Gymro (hyd y gwn i) i ymdrin â rhawd yr Eglwys Rufeinig am ran sylweddol o'i hanes yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Dewisodd yr awdur yn ddechrau a diwedd i'w gyfnod y blynyddoedd 1916, sef y flwyddyn y cydnabu Rhufain Gymru fel cenedl a oedd yn ddigon gwahanol i Loegr i haeddu cael ei chynnwys o fewn talaith newydd yn y gyfundrefn eglwysig yn hytrach na bod yn atodiad i dalaith Lloegr, a 1962, sef trothwy Ail Gyngor y Fatican a ddechreuodd ym mis Hydref y flwyddyn honno. Yn ystod y cyfnod hwn, dan arweiniad esgobion