leuan Gethin, Owain Glyndẃr a Stori Iolo Morganwg* Nid oedd gan yr awdur, Thomas Roberts, Llwynrhudol, a oedd yn gyfoeswr i Iolo Morganwg, fawr o olwg ar gyfreithwyr ei oes. Yn ei lyfryn dychanol a dadleuol, Cwyn yn Erbyn Gorthrymder, a gyhoeddwyd ddwy ganrif union yn ôl i eleni, dywed mai 'twyllwyr a gorthrymwyr' oeddynt oll.' Ni wn i ddim beth am weddill y siaradwyr yn y gynhadledd undydd hon, ond yr wyf yn teimlo fel petawn i'n rhyw gyw cyfreithiwr yma heddiw yn cyflwyno tystiolaeth fel rhan o achos yr amddiffyniad o blaid Iolo, oherwydd y mae wedi'i gyhuddo ar hyd y blynyddoedd o fod yn ffugiwr diarbed ac yn dwyllwr diegwyddor. Cawsom ein rhybuddio droeon gan ysgolheigion cyfrifol oddi ar ddyddiau John Morris-Jones fod angen pinsiad go hael o halen cyn llyncu dim ar a ddywed y saer maen o Drefflemin. Profiad cyfarwydd i amryw fu cael eu camarwain ganddo, yn enwedig gan ei ddawn ddiamheuol fel bardd. Tystiai R. T. Jenkins, er enghraifft, iddo ddarllen a mwynhau aml i gywydd y credai ei fod yn waith dilys Dafydd ap Gwilym heb wybod ar y pryd (yng ngeiriau R. T. Jenkins ei hun) mai o'r 'ffatri tua'r Bont-faen' y daethai.2 Rhyw hen deimlad digon annifyr bob amser yw gwybod ichi gael eich twyllo. Ac wrth drafod ffynonellau'r hanesion a'r traddodiadau ynghylch bywyd y seintiau yng Nghymru, mae Elissa Henken yn rhagymadrodd ei llyfr, Traditions of the Welsh Saints, yn ein rhybuddio rhag peryglon gorddibynnu ar dystiolaeth rhai ffynonellau'n fwy na'i gilydd am eu bod yn dra chyfeiliornus: 'This can be particularly dangerous for the researcher if the lolo MSS. are amongst the sources.'3 Hanesyn yn yr union ffynhonnell honno, sef yr lolo Manuscripts, Papur a draddodwyd mewn cynhadledd undydd ar y thema 'Iolo Morganwg: Dilysrwydd y Ffugiwr' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 20 Mehefin 1998.