Cymru fel egwyddor lywodraethol. E.e., croesawaf weld cofnod am William Jones (1746-94) y Dwy- reinydd, yn y Cydymaith hwn, cofnod nas ceir yng Nghydymaith 1986. 'Roedd y William Jones hwn yn gawr o ysgolhaig ac yn dipyn 0 lenor a gellid dadlau ei fod yn fwy na theilyngu ei ddau dudalen a mwy yn y Cydymaith presennol ond gellid dadlau ar y llaw arall mai ymylol oedd ei ddiddordeb ef yng Nghymru ac mai ymylol yw ei ddiddordeb ef i Gymry. Ac er ei bod yn dda cael cyfeiriadua at gyhoedd- iadau o'i waith ac at astudiaethau arnynt, nid oedd yn dda hepgor cyfraniadau Caryl Alban Davies ar ei gysylltiadau â Chymru. Yn wahanol i olygyddion Y Byw- graffiadur Cymreig nid yw golygydd y Cydymaith yn rhoi enw pob cyfrannwr wrth ei gyfraniad gan nad yw, mae'n debyg, yn cadw union eiriau'r cyfran- nwr. Nid yw golygyddion The Oxford Companion to French Literature, Paul Harvey a J. E. Heseltine yn rhoi unrhyw enwau wrth y cyfnodion yno am eu bod yn mynd yn gyfrifol am bob cofnod. 'Compiled and edited by yw eu disgrifad o'u gwaith. 'Casglwyd a golygwyd' yw disgrifiad golygydd y Cydymaith o'i waith ef, ac â'n gyfrifol am unrhyw gamgymer- iadau. Afraid dweud, mae hwn yn gyfrifoldeb mawr, oblegid y mae yma gamgymeriadau. E.e., dywedir yn y cofnod olaf mai golygyddion y Zeitschrift fur celtische Philologie 'ar hyn o bryd' yw Heinrich Wagner a Karl Horst Schmidt, ond gwyr y cyfarwydd fod Heinrich Wagner wedi marw flynyddoedd yn ôl. Cofnod heb ei ddiweddaru yw hwn, mae'n amlwg, ond ceir camgymeriadau eraill. Gwaith digon difyr fyddai dyfalu pwy oedd y cyfrannwr gwreiddiol y tu ôl i gofnod arbennig a dyfalu ai ef ai'r golygydd sy'n gyfrifol am unrhyw gamgymeriad. E.e., pwy sy'n gyfrifol am ddweud yn y cofnod am Taliesin, ac am y deuddeg cerdd ddilys mai 'Cerddi mawl yn cyfarch Urien ap Cynfarch (*Urien Rheged) a'i fab *Owain ab Urien yw chwech ohonynt'. Ond brysiaf i ddweud nad yw camgymeriadau ffeithiol fel hyn yn aml iawn a digywilydd-dra, efallai, yw sôn amdanynt mewn adolygiad na all beidio â bod yn ganmoliaethus iawn. Fel y dywedais ar y dechrau, bydd yn dda gennyf gael y cyfle newydd a rydd y Cydymaith hwn i mi werth- fawrogi gweithgarwch llenyddol creadigol cydwladwyr, a da gennyf longyfarch y golygydd, Meic Stephens, ar ei weithgarwch yma ac ar ei weith- garwch helaeth arall ar lên Gymraeg a llên Eingl-Gymreig. J. E. CAERWYN WILLIAMS EMYR WYN JONES, Bysedd Cochion a'r Wladfa Gyntaf (Gwasg Gee, Dinbych, 1997) tt. 284. Pris £ 12. Bu meddygon bob amser yn fwy parod na gwyddonwyr eraill i fentro i feysydd newydd ac, yn groes i'r disgwyl efallai, yn fwy parod hefyd i gofleidio dulliau gwahanol o ddehongli realiti. Ni buont ychwaith yn amharod i ddefnyddio ieithwedd newydd wrth gyfathrebu ag eraill ac wrth fentro i faes llenyddiaeth bur. Mae'r meddygon llenyddol hyn yn ffenomen yr un mor ddiddorol â mathau eraill o hybrid megis yr 'hen offeiriaid llengar' neu'r offeiriaid-naturiaethwyr a ffynnai yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r daith rhwng Religio Medici Browne ac Aequanimitas Osler yn frith gan gynhyrchion Saesneg y meddygon llengar hyn. Mae'r berthynas rhwng meddygaeth