sôn am y llenorion hynny sy'n defnyddio'r ddwy iaith, fel Gwyneth Lewis, a.y.y.b. Hyfryd hefyd yw gweld cofnodi gweithgarwch pellach llenorion a gafodd gofnod yn y Cydymaith cyntaf, llenorion fel Gwyn Thomas, Alan Llwyd a'r anghygoel Bobi Jones. Bu rhai llenorion 0 bwys farw cyn ymddangosiad y Cydymaith cyntaf, e.e., Saunders Lewis, ond da yw gweld cofnodi argraffiadau ac astudiaethau diweddar o'u gweithiau. Gyda llaw, mae'r llyfryddiaethau a geir ar ddiwedd llawer o'r cofnodau yn werthfawr ac i gyfadfer am ddiffyg gofod, gallesid, ond odid, gyfeirio'n amlach nag y gwneir at y llyfryddiaethau i lên ac iaith Cymru a gyhoeddwyd gan Fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru, er bod y Cydymaith yn diweddaru rhai eitemau yn y rheini. Braf yw gweld cofnodi gweith- garwch ambell lenor ac ysgolhaig nas cofnodwyd yn y Cydymaith cyntaf. E.e., yr Athro Ceri W. Lewis a'r clasurydd John Henry Jones. Diddorol yw dod ar draws cofnodi gweith- garwch Dr. Eirwen Gwyn am y tro cyntaf a rhoddi mwy o gofnod iddi nag i'w gẃr Harri Gwyn! Rhaid peidio ag anghofìo'r pynciau newydd a gofnodir. Caiff Calfiniaeth gofnod yma am y tro cyntaf. Ond ar y llaw arall, rhoddir lle i bynciau nad oedd yn bod yn 1986. E.e., ceir cofnod diddorol iawn ar 'Ymddiriedolaeth Taliesin' a sefydlwyd yn 1989. Trafodir ambell bwnc y gellir dadlau ei fod yn rhy fawr i'w drafod mewn cofnod, er rhoi mwy o le iddo na'r arferol. E.e., 'Ymfudo o Gymru'. Ond da cael y cyfryw. Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn hoff o gyfeirlyfrau a gwyddon- iaduron. Byddwn wrth fy modd yn cael fersiwn Cymraeg o A Concise Encyclopedia ofWestern Philosophy and Philosophers er bod pynciau hwnnw bron i gyd yn rhy fawr i drafodaeth fer ac er fy mod wedi clywed ei ddisgrifio fel 'llawlyfr hurtyn'. Mae anwybodaeth pob un ohonom yn ddifesur fwy na'i wybodaeth a hyd yn oed fel y daw gwybodaeth yn fwy hygyrch, megis, ar yr internet, bydd yn rheitiach nag erioed i ni wrth wyddoniaduron cryno. Rhaid i mi gydnabod yr hyn sydd eisoes yn amlwg oddi wrth yr adolygiad hwn: ychydig fu fy niddordeb yng ngweithiau'r Eingl- Gymry ac ar y rheini y mae'r Cydymaith yn fwyaf gwerthfawr i mi. Gallaf feddwl mai problem fwyaf y golygydd oedd pennu maint y sylw i'w roi i destun pob cofnod. Weithiau, wrth gwrs, nid oes ganddo lawer o ddewis yn y mater. E.e., un o ysgol- heigion mwyaf y Gymraeg yn y ganrif hon oedd yr Athro John Lloyd-Jones, Dulyn. Mae ei Eirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (1931-1963) yn gofgolofn i lafur nad oes mo'i debyg, efallai, yn y ganrif, ond ychydig a wyddys am ei fywyd; yn wir, ychydig sydd i'w wybod am ei fywyd, oblegid, yn llythrennol ddigon, ei waith oedd ei fywyd, ac nid -oedd gan y golygydd lawer mwy o wybodaeth i'w rhoi amdano nag am ei brif weithiau, ei ychydig farddoniaeth, a nifer o fyfyr- wyr amlwg a fu gydag ef yn Nulyn. F'argraff, yn gam neu'n gymwys, yw fod y golygydd wedi bod yn haelach yn y lIe a roes i ambell gofnod diweddar yn y Cydymaith hwn nag yn y lle a roes i rai yn y Cydymaith blaenorol. E.e., caiff y diweddar Dewi Eirug Davies fwy o le nag a gaiff ac nag a gafodd R. Tudur Jones a Thegla. Wrth gwrs, mater o farnu'n gyfewin yw hyn oll. Ond hwyrach y gallaf awgrymu i'r golygydd y byddai'n dda iddo pan fydd yn mynd ati i gynhyrchu Cydymaith 2007 a gobeithio y caiff y cyfle gymryd egwyddor perthnasedd i lenyddiaeth