Chwaneg am Watcyn Powel o Ben-y-fai Rai blynyddoedd yn ôl bellach, cyhoeddais erthygl yn Studia Celtica ar y bardd-uchelwr Watcyn Powel o Ben-y-fai, Morgannwg (c.1590- 1655), gan argraffu'r cyfan o'i waith hysbys, sef un awdl, chwe chywydd, dau englyn, ac un cwndid1. Fe sylwyd bod llawer o'r caneuon hyn yn ymwneud â'i berthnasau, a thra diddorol yn hyn o beth yw craffu ar yr enwau a ddigwydd yn y ddogfen gyfreithiol islaw. 'A Ire of atturney to take seisine of Lands in Penvoy p rchased of Watkin Powell .2. Fe ddelia'r yndeintur hwn â phwrcasiad tiroedd gan Syr Thomas Mansell ym Mhen-y-fai oddi wrth Watcyn Powel, Edward Powel o Langynwyd, Watcyn (mab Robert) Lychwr o Landudwg, ac Ieuan Lewis o'r Betws, yn 1626 (22 Gorffennaf) y tiroedd (o bosib) a ddynodir wedyn fel rhan o eiddo'r marchog mewn arolwg o faenor Newcastle yn 1632: 'S'Thomas Mannsell died seized of ffree lands at a place called Penvaie' DCB i 1613. Bid a fo am hyn, fe'n trewir gan y modd y cyfeirir at y gwyr uchod i gyd, bron iawn, yng nghwrs gwaith y bardd; cadwyd englyn, cofiwn, i Syr Thomas Mansell (VIII)4, ac yn achos ei gyd-werthwyr (oll yn berthnasau) cywydd cymod dros Edward Powel (III)5, cywydd gofyn i Robert Lychwr, tad Watcyn L.(IV)6, ac awdl-farwnad i fab Ieuan Lewis, Lewis (I)7. Fe wyddys am Edward Powel a Watcyn Lychwr fel cefnderwyr i Watcyn8, ac am Ieuan Lewis fel ei dad-yng-nghyfraith9: fe'n hatgoffìr, felly, gan y ddogfen mai tu mewn i'w gylch teuluol (a gynhwysai eraill)10 y ffynnai awen y cywyddwr hwn yn bennaf. Diau y cylchredai'i ganeuon ymhlith ei gyfneseifiaid ym Morgannwg, yn ystod hanner cyntaf y 17eg ganrif, fel 'gẃr a ganai ar ei fwyd ei hun', cyn crynhoi'r mwyafrif ohonynt ynghyd gan Tomas ab leuan, Tre'r bryn, yn NLW 13062 c.168411. Isod, trawsysgrifwyd y ddogfen (un ar femrwn, yn dwyn sêl y Manseliaid)12 mewn modd ceidwadol, heb ymhelaethu ar dalfyriadau a chan gadw at hynodion priflythrennu ac atalnodi y gwreiddiol13: