Tystiolaeth Garth Celyn Ym mis Tachwedd 1282 teithiodd yr Archesgob Pecham i 'bencadlys'1 Llywelyn ap Gruffydd yn Aber (Abergwyngregyn) fel llysgennad Edwart I i drafod yr amodau heddwch a gynigiai'r brenin. Golygai'r telerau hyn y byddai'r Cymry'n colli eu hannibyniaeth, ond o'r diwedd cynigiodd Edwart amodau ychwanegol cyfrinachol a ymddangosai'n fanteisiol i Lywelyn yn bersonol. Gwrthodwyd hwy'n bendant gan y tywysog a'i gyngor, ac wrth wneud hynny, mynegasant eu syniad aruchel eu hunain o genedligrwydd y Cymry. Cyfeiriodd Llywelyn ddwy o'r dogfennau hyn, sydd bellach yn archifau Lambeth, o'i lys, Garth Celyn. Camddeallodd Syr Goronwy Edwards y cyfeiriad hwn fel 'Garth Cefn'2, ond mae archifwyr Lambeth wedi cadarnhau mai 'Garth Celyn' yw'r darlleniad cywir,3 a dyma'r enw a ddefnyddir gan yr Athro J. Beverley Smith yn ei fywgraffiad Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Cymru.4 Hyd y gwyddom, nid oes neb yn y ganrif bresennol wedi cysylltu'r enw hwn â safle neilltuol. Ond mae llawer iawn o bobl, yn enwedig yng nghyffiniau Aber, wedi credu mai ar safle Pen-y-Bryn y safai llys y tywysogion yn y drydedd ganrif ar ddeg. Pwrpas yr ysgrif hon yw chwilio i ystyr yr enw Garth Celyn a gweld a oes arwyddion o leoliad y llys. 'Roedd traddodiad y werin yn gryf o du Pen-y-Bryn. Yn 1875 canodd Hugh Hughes, y crydd a'r bardd a oedd yn cael ei barchu fel hanesydd y Wesleaid, am ei blwyf genedigol: O Aber garth gelyn! meillionog ei dyffryn, Hen gartref y delyn a'r awen yn wir; Ac yno mae palas yr hen dywysogion Fu'n llywio y Cymry ers cannoedd cyn hyn, Llywelyn Fawr enwog hen Gymro twymgalon, A Dafydd ein brenin fu'n byw'm Mhenybryn;