Edward Jones a Francis Thompson Bu bri mawr ar farddoniaeth Francis Thompson ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon, ac ymserchodd nifer o Gymry yn ei gyfansoddiadau. Gwyr y cyfarwydd mai mab i feddyg o Preston oedd Thompson, a threuliodd gyfnod o wyth mlynedd mewn coleg meddygol ym Manceinion. Methiant llwyr fu ei yrfa academaidd, fodd bynnag, er mawr siom i'w dad, a symudodd i fyw i Lundain yn 1885 gan ymddieithrio fwyfwy oddi wrth ei deulu o Babyddion selog. Ychydig o gyfathrach a fu rhyngddo a'i deulu wedi hyn, a dioddefodd gryn galedi yn ennill ychydig geiniogau drwy werthu matsys a glanhau esgidiau yn ninas Llundain. Llithrodd i dlodi enbyd, ac yn y man aeth i afael y cyffur opiwm. Dichon y buasai wedi llwyr ddarfod amdano oni bai i'r llenor a'r golygydd Wilfred Meynell, a oedd eisoes wedi cyhoeddi rhai o'i gerddi yn ei fisolyn Merry England yn 1888, ganfod addewid ynddo a'i gynorthwyo i ailafael yn ei fywyd. Treuliodd gyfnod wedyn ym Mhriordy Storrington, ond 'roedd ei iechyd erbyn hynny wedi'i lwyr ddifetha. Bu'n byw ger Mynachlog Pantasaph yng ngogledd Cymru rhwng 1893 a 1897, a bu farw yn 1907. Y berthynas rhwng dyn a Duw yw prif thema cerddi Thompson, ac yn ei gerdd hir 'The Hound of Heaven' a gyhoeddwyd yn 1893 y gwelir hyn amlycaf. Adroddir ynddi hynt a helynt yr enaid euog yn ffoi oddi wrth Grist o'r naill noddfa i'r llall, ond pa le bynnag y cuddia'r bardd fe'i canfyddir yn hwyr neu'n hwyrach pan glyw swn y traed sanctaidd yn ei ymlid. Nid oes ganddo neb na dim i droi ato ond y Crist ei Hun, ac yn ei freichiau Ef yn unig y ceir noddfa i'w enaid. Ys dywed R. Moffat Gautrey yn This Tremendous Lover, cyfrol sy'n trafod bywyd a gwaith Francis Thompson: 'All down the centuries, the soul in flight, has sooner or later, awakened to the fact that the encounter with Deity, which it most feared, and from which it fled, was an inevitable