Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

traddodiad fel na allwn ymryddhau heb golli rhan o hanfod ein gorffen- nol: gweld ein prydeindod ein hunain a'i gael i weithio o'n plaid 'ni, yr hen Frytaniaid', yw ein hangen. Darlith ysgolheigaidd, ond un sy'n ffrwyth myfyrdod dyfnach nag astudiaeth academaidd yw hon. Fe dâl ei darllen droeon. Allwedd ein gorffennol ac efallai ein dyfodol hefyd, meddai Dafydd Glyn Jones, yw'r myth. Mae'r her inni i gydio yng nghyfanrwydd ein hanes ein hunain, ei feddiannu ar ein telerau ein hunain ac at ein dibenion ein hunain. Wedi'r cwbl, dyna a wna pob cenedl arall wrth ysgrifennu ei hanes. BRYNLEY F. ROBERTS E. WYN JAMES, Carolau a'u cefndir. Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1989. 93 tt. [4.95. Ar ryw olwg gellid dweud am y llyfr hwn mai cyfrol mewn dillad ben- thygydyw — llyfr lliwgar, sgleiniog, sydd wedi benthyca'r allanolion yn unig. Gallaswn fod wedi ei alw'n addasiad o lyfr Saesneg, ond byddai gwneud hynny'n gwbl gamarwein- iol, er bod y llyfr, o'i gymharu â chyfrol Christopher Idle, Christmas Carols and their stories (Tring: Lion, 1988) yn ymddangos yn debyg odiaeth ar yr olwg gyntaf. Y gwir amdani yw bod testun y gyfrol, er gwaethaf yr allanolion, wedi ei ail- lunio'n gyfan gwbl ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg. Yn wir, gellir mynd cam ymhellach a honni bod y gyfrol Gymraeg yn rhagori llawer iawn ar y fersiwn Saesneg o ran hyd a chyfoeth yr ymdriniaeth sydd wedi ei gymhwyso o fewn yr un diwyg. Cymhares yw hon i'r gyfrol Dechrau Canu: Rhai Emynau Mawr a'u Cefndir a olygwyd gan yr un awdur. Derbyniodd y gyfrol honno glod haeddiannol a chroeso brwd- frydig pan ymddangosodd yn 1987. Diau y bydd croeso tebyg yn aros Carolau a'u cefndir, er bod apêl y gyfrol, oherwydd natur y cynnwys, yn debyg o fod yn fwy tymhorol. Mae'r golygydd, E. Wyn James, sydd hefyd yn olygydd Bwletin Cym- deithas Emynau Cymru, yn amlygu meistrolaeth sicr ar ei faes ac yn cyflwyno'r wybodaeth gefndirol mewn ffordd anymwthiol a darllen- adwy. Mae'n debygol iawn y bydd defnydd mawr i'r gyfrol wrth lunio gwasanaethau carolau mewn blyn- yddoedd i ddod. Yn wir, gellid darllen ambell gyfraniad fel y saif, oherwydd ei natur athrawiaethol a defosiynol, yn rhan o addoliad cyhoeddus. Cawn olwg Gymreig iawn ar fyd y carolau drwyddo draw. Cafodd nifer o garolau Plygain gorau'r iaith eu cynnwys, fel y gellid disgwyl, a cheir ymdriniaeth â nodweddion a dat- blygiad y carolau hynny. Cynhwysir gwaith nifer o emynwyr proffesedig y genedl: Pantycelyn, Dafydd Jones o Gaeo, Morgan Rhys ac Ann Griffiths. Ceir adran ddiddorol sy'n ymdrin â charolau llafar gwlad, ffrwyth diwygiadau'r ganrif ddi- wethaf, fel yr enghraifft anghyff- redin ganlynol o waith John Davies, Bethelem, Sanclêr (1780-1814): Tair, tair Arglwyddes feichiog dda eu gair- Arfaeth, Addewid, hefyd Mair; Eu tymp i esgor ddaeth 'run awr; Un Mab a anwyd, tair gwraig rydd; Mae'n rhaid y bydd yn Rhywun mawr! Yn ogystal ceir nifer o garolau mwy cyfoes gan awduron megis Nantlais, Wil Ifan, John Hughes (Dolgellau) a Rhys Nicholas. Enghraifft dda o Gymreigrwydd y