Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

clerigwyr hynny mater o fuchedd yn hytrach na chorff o reolau trefniadol oedd hanfod y diwygio a geisient. Daeth Piwritaniaeth oddi mewn i'r Eglwys i fod yn ddull o gyfleu duwioldeb, yn ffordd o ddyfnhau'r ymwybyddiaeth o edifeirwch ac ymostyngiad i Dduw.3 Mewn cyfnod o'r fath y trigai Rhys Prichard. Fe'i haddysgwyd o bosibl yn ysgol ramadeg Caerfyrddin ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Fe'i penodwyd i fywoliaeth Llanymddyfri ym mhlwyf Llandingad yn 1602 ar drothwy cyfnod cyffrous ymhlith y carfannau hynny a oedd yn wrthwynebus i'r Eglwys oddi mewn ac oddi allan iddi yn ei hail genhedlaeth. Ni ddangosai Prichard ei hun unrhyw arwydd o anfodlonrwydd eithafol ond daeth i'w fywoliaeth yn ei ardal enedigol mewn rhan o ddwyrain sir Gaerfyrddin a safai ar y ffin ag archddeoniaeth Brycheiniog a feirniadwyd yn hallt am ei gwendidau ym mlynyddoedd cynnar sefydlu'r Eglwys Brotestan- naidd. Yr oedd Richard Price o Aberhonddu (mab y dyneiddiwr Syr John Price) yn y 1570au, fel John Penri o Gefnbrith ym mhlwyf Llangamarch yn y 1580au, yn fwy na pharod i ymosod ar y sefydliad,4 a sylwadau digon beirniadol a oedd gan yr esgobion Richard Davies a Marmaduke Middleton ar esgobaeth Tyddewi ynghyd â'r sylwebydd llym ac anhysbys arall hwnnw yn 1583.5 Pwysai nifer o broblemau'n drwm ar yr Eglwys i'w llesteirio rhag gweithredu'n effeithiol. Yr oedd ei thlodi'n nodwedd allweddol o'i gwendid, a chyflwr cyffredinol yr offeiriadaeth a'r amfeddu cyson yn gyfrwng i beri bod yr ymyrraeth cynyddol ar ran uchelwyr rheibus yn ei buddiannau yn llethu ei heffeithiolrwydd. Fel y dangosodd yr Athro Geraint Gruffydd, cafwyd cynnydd bychan ond arwyddocaol yng ngweithrediadau arweinwyr cen- hedlaeth gyntaf y mudiad Piwritaniaid yng Nghymru yn y 1630au.6 Digwyddodd hynny am nifer o resymau megis polisi crefyddol y wladwriaeth dan ofal yr Archesgob William Laud, wedi iddo gael ei ddyrchafu i Gaer-gaint yn 1633. Ei fryd oedd cyflwyno newidiadau mewn seremonïaeth, defod, trefn a disgyblaeth eglwysig, a choleddai syniadau ynglyn ag aduno Eglwys Loegr â'r Eglwys Babyddol. Er i ymlynwyr wrth yr Hen Ffydd gael eu herlid yn llym yn y rhanbarthau, cydymdeimlwyd mwy â chrefydd Rhufain yn y llys brenhinol. Yn sicr nid oedd y sawr Babyddol a Sbaenaidd ar bolisi tramor Siarl yn dderbyniol yn y deyrnas yn gyffredinol. Bu'r tueddiadau hynny, yr erlid ar y Piwritaniaid, y syniadau Arminaidd a goleddai Laud a'r brenin ynghyd â dylanwad y frenhines Babyddol yn y llys a'r rhan a gymerodd yr esgobion yn y llywodraeth, yn foddion i gryfhau'r elfen ddiwygiadol oddi mewn i'r Eglwys. Nid ymddengys fod datblygiadau o'r fath wedi cael dylanwad mawr ar y Ficer Prichard oherwydd dengys ei yrfa ei fod yn chwilio am ddyrchafiad cyson yn yr Eglwys ac yn ei dderbyn pan ddeuai i'w ran. Sut bynnag, amlygir tueddiadau Piwritanaidd ac fe'u canfyddir yn amlach mewn agwedd meddwl a