Pan oedd William y tad yn ysgol Llanfechell, sylwyd ar ei addewid anghyffredin gan y tir-feddiannwr, Arglwydd Bulkeley, ac anfonwyd ef i Lundain i weithio mewn 'counting-house' ac wedyn ar fwrdd llong. Yna, aeth i wasanaethu fel tiwtor gyda dau deulu cefnog: dysgodd ef Thomas Parker, Arglwydd Macclesfield, a Philip Yorke, Iarll Hardwicke. Rhaid ei fod yn athro go effeithiol oherwydd fe ddaeth y ddau ddisgybl maes o law yn gangellorion y deyrnas. Gan fod William wedi gweithio fel tiwtor i fab Parker hefyd, bu Castell Shirburn yn gartref iddo am nifer o flynyddoedd. Un o'i ffrindiau pennaf oedd Moses Williams yr hynafiaethydd. Ar ôl dod yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1712, enwebodd William ei ffrind, a daeth yntau'n Gymrawd yn 1719. Pan fu farw Moses Williams, gwerthodd ei weddw dros gant a hanner o'i law- ysgrifau iddo. Trwy gymynrodd, daethant yn eiddo i Arglwydd Macclesfield, ac yn Shirburn y buont hyd nes i Syr John Williams eu prynu a'u trosglwyddo i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Dyna'r tad, felly gwr a oedd 'yn berchen dynoliaeth nobl, ac yn wr y gallwn ymfalchio ynddo', yng ngeiriau John Davies, cofiannydd Moses Williams. Yr oedd mam Syr William Jones, Mary, yn ferch i George Nix, gwneuthurwr celfi cain. Pan anwyd Jones yn 1746, yr oedd ei dad eisoes yn ei chwedegau, a bu farw dair blynedd yn ddiweddarach. Magwyd Jones gan fam ddawnus a oedd yn benderfynol o ddatblygu ei ddoniau i'r eithaf. Cyn ei ben-blwydd yn bedair oed, yr oedd y bachgen yn darllen yn rhugl ac yr oedd wedi dangos fod ganddo gof eithriadol. Aeth rhagddo i Harrow yn 1753 lle prifiodd yn glasurwr heb ei ail ac yn fardd yn Saesneg a'r ieithoedd Clasurol. Mwy arwyddocaol hyd yn oed na hynny, efallai, yw'r ffaith iddo feistroli Hebraeg yn ogystal. Yn ddeunaw oed, aeth ymlaen i astudio yn Rhydychen, ac am gyfnod, fe gyflogai Arab o Aleppo i roi gwersi Arabeg iddo drwy gymharu cyfieithiad Galland, Les Mille et une nuits â fersiwn Arabeg ei athro. Yn 1766, fe gafodd Jones ei ethol yn Gymrawd o Goleg y Brifysgol, Rhydychen, a'r un flwyddyn dyma droedio'r un llwybr â'i dad drwy ymgymryd â swydd tiwtor i'r Arglwydd Althorp, mab seithmlwydd oed Iarll Spencer. Buan y tyfodd cyfeillgarwch clòs rhwng y ddau: mae llythyrau Jones at ei ddisgybl (rhai cannoedd ohonynt) yn rhoi llawer o wybodaeth inni am ei weithgareddau amrywiol, ond yn bwysicach na hynny, maent yn tystio i hynawsedd cymeriad y gwr hwn a elwid gan ei gyfoedion yn 'Harmonious Jones'. Cafodd gyfle i deithio i'r Cyfandir gyda'r teulu a chyfle hefyd i astudio yn llyfrgell wych Althorp. Ac yntau'n dod yn adnabyddus fel awdurdod ar yr ieithoedd dwyreiniol, derbyniodd gomisiwn gan Christian VIII o Ddenmarc i gyfieithu i'r Ffrangeg hanes Perseg a oedd ym meddiant y brenin, ac