Jones y Dwyrain 1746-1794 Bu farw Syr William Jones union ddau gan mlynedd yn ôl, yn wyth a deugain oed.* Enwyd coeden hardd ar ei ôl. Crybwyllir ei enw yn 1066 and A11 That, ond mwy annisgwyl yw'r rhan cameo sydd ganddo yn un 0 lyfrau Babar, sef Babar and Father Christmas. Ffrwyth ei oriau hamdden oedd erthyglau megis 'On the Lorus, or slow-paced Lemur'; 'On the Pangolin of Bahar'; 'On the Baya, or Indian Gross-beak'; ac 'On the cure of the Elephantiasis and other disorders of the blood'. Yn ôl y traddodiad, pan gyfarfu â brenin Ffrainc, cafodd ei gyflwyno fel 'dyn a wyr bob iaith ond ei iaith ei hun'. Yr oedd ei dad yn Gymro Cymraeg ac yn fathemategydd dawnus, ac yr oedd ef ei hun yn briod â merch Esgob Llanelwy. Yn farnwr wrth ei alwedigaeth, fe gafodd ddylanwad aruthrol ar lenyddiaeth Ewrop drwy ddwyn i sylw'r Gorllewin ieithoedd a llên y Dwyrain. Efe, hefyd, a ystyrir yn dad Ieitheg Gymharol oherwydd iddo, yn ddiarwybod bron, lunio'r gosodiad diamwys cyntaf fod nifer o ieithoedd Ewrop ac India yn tarddu o'r famiaith goll a elwir bellach yn Indo-Ewropeg. Dan adain ei dad y mae'r cofnod am Syr William Jones yn Y Bywgraffiadur Cymreig. William Jones oedd enw'r tad hefyd (1680- 1749), mathemategydd disglair a ddaeth yn gyfaill i Newton a Halley, ac yn Is-lywydd y Gymdeithas Frenhinol. Ganwyd y tad yn Llanfihangel Tre'r Beirdd, yn y tyddyn nesaf at y Fferem lle ganed Morrisiaid Môn. Ac yn wir, yn ôl Lewis Morris, 'roeddent yn brith berthyn iddo drwy Elizabeth Rowland, ei fam-gu ar ochr ei fam. Symudodd y teulu i'r Tyddyn-bach, Llanbabo ('Pabo' oedd llysenw William gan y Morrisiaid), ac yna, ar farwolaeth y tad, i Glymwr yn yr un plwyf. Sgwrs anffurfiol a draddodwyd yn Aberystwyth, Hydref 1991. Mae gan Dr. Caryl Davies ymdriniaeth fanylach o lawer â Jones a Chymru ar y gweill; fe fydd ei herthygl yn ymddangos yn un o rifynnau nesaf Y Traethodydd.