delweddau addas ar gyfer ei destun llenyddol. Yn wir, gall cerddi, dramâu a nofelau fod yn gyfryngau allweddol bwysig i fynegi gwirionedd diwinyddol. Gallwn fanylu ar waith Ann Griffiths neu gyhoeddiadau Morgan Llwyd a gweld pa mor bwysig oedd y ddiwinyddiaeth yn eu gwaith, a heb fanylu ar y berthynas agos rhwng y ddogma a'r ddelwedd, ni ellir, mewn gwirionedd, ddeall arwyddocâd eu llenyddiaeth. Ar ryw ystyr, y mae llenyddiaeth yn gyfrwng llawer iawn addasach na thract diwinyddol i drafod arwyddocâd estheteg diwinyddiaeth, gan mor werthfawr yw dychymyg y bardd, nes bod modd creu darlun trawiadol o ystyr ddiwinyddol. Y gamp, yw astudio perthynas diwinyddiaeth, sydd yn ami iawn yn cael ei darlunio fel gwyddor fecanyddol, â dychymyg creadigol y bardd. Fe gofir nad yw pob diwinyddiaeth yn ddiwinyddiaeth systematig, megis yr hyn a gafwyd gan Calfin, Acweinas, Tillich neu Barth. Ceir ateg i hyn gan Sally McFague, yn ei hastudiaeth Speaking in Parables: a study in metaphor and theology (Philadelphia, 1957), pan ddywed fod diwinyddion mawr yr oesoedd wedi defnyddio dulliau a ffurfiau llenyddol megis storïau, cerddi a chyffesion i fynegi gwirionedd diwinyddol. Yn ei astudiaeth o estheteg diwinyddiaeth, The Glory of the Lord: A Theological Aesthetics (Caeredin, 1982), y mae Hans Urs von Balthasar yn dadlau bod unrhyw fynegiant diwinyddol yn gorfod defnyddio ffurfiau llenyddol, gan mai dyna'r unig fodd i ganfod ystyr y gwirionedd absoliwt. O dderbyn thesis von Balthasar, gallwn fanylu ar y broses greadigol y mae'r bardd neu'r llenor yn ei defnyddio i fynegi gwirionedd neu unrhyw agwedd arall ar gred ddogmatig. Fe ddichon mai un o'r problemau allweddol wrth astudio'r maes yw ateb y cwestiwn syml beth yw ystyr y termau 'diwinyddiaeth' a 'llenyddiaeth'? Y mae astudiaethau diweddar yn y maes yn cadarnhau mor anodd yw diffinio yn benodol yr hyn a gyfrifir yn llenyddiaeth. Yn ei astudiaeth, Literary theory: an introduction, y mae Terry Eagleton yn dadlau na ellir diffinio llenyddiaeth fel 'gwrthrych', nac ychwaith fel canon ansefydlog, ond yn hytrach, fel adlewyrchiad o'r modd y mae unigolyn yn darllen ac yn gwerthfawrogi testun. Y mae Eagleton yn y fan yma yn ategu barn Vinokur, un o adeileddwyr pwysicaf Rwsia yn y pedwardegau, pan ddywed: 'a poem does not, however, simply exist in history: it is a particular and specific cultural object. It exists in culture as a poem. Our task is therefore to seek out in the structure of the poem as a particular historical object, those features of which it could be said that, since they are what makes the poem a poem, they endow it with everything that is therefore specific and typical. This specificum of the poetic structure is poetic in a form, the bearer of a special poetic significance of the world, the basis of its imagery and symbolic quality'. Y mae dal ar arwyddocâd ffurfiau, felly, mewn beirniadaeth lenyddol yn allweddol bwysig. Y ffurfiau,