Iaith Diwinyddiaeth a Llên Ni fyddai yr un beirniad llenyddol yn gwadu nad oes yna gysylltiad agos rhwng llenyddiaeth Gymraeg a diwinyddiaeth, a bod peth o lenyddiaeth bwysicaf ein traddodiad mawl yn drwm dan ddylanwad syniadau diwinyddol. Un o'r ymdriniaethau pwysicaf a gyhoeddwyd yw astudiaeth werthfawr yr Athro Emeritws R. M. Jones, Llên Cymru a Chrefydd, lle ceir astudiaeth fanwl 0 lenyddiaeth Gymraeg o'i decheuad yng nghanu Taliesin hyd at drothwy'r cyfnod diweddar; llwyddodd yr Athro Jones i olrhain themâu a phatrymau sydd yn benodol grefyddol yn hanes ein llenyddiaeth a manylu ar y drych- feddwl Calfinaidd yn ein traddodiad llenyddol. Fe gofir hefyd i Saunders Lewis lunio astudiaeth allweddol bwysig ar draddodiad llenyddol Cymru o safbwynt estheteg a Chatholigaeth, gan olrhain y cysylltiad annatod glòs rhwng bywyd ysbrydol a gwladgarol y Cymry. Nid yw'r ymdriniaethau hyn ond yn enghreifftiau o'r diddordeb y mae'r beirniaid llenyddol wedi'i gymryd mewn diwinyddiaeth a llên, gellid ychwanegu sawl ymdriniaeth arall, yn arbennig felly, ymdrin- iaethau sydd yn canolbwyntio ar y drych-feddwl diwylliannol a gafwyd yng Nghymru yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, megis astudiaethau'r Athro Derec Llwyd Morgan sydd yn darlunio'r dynamig eneidegol a oedd yn bodoli yng nghyhoeddiadau llenyddol awduron y Diwygiad Mawr. Y mae hi'n arwyddocaol, er hynny, mai cymharol ychydig o astudio a fu ar y berthynas annatod glòs sydd yn bodoli rhwng llenyddiaeth a diwinyddiaeth, hynny yw, y berthynas symbiotaidd rhwng syniadau a dogmâu diwinyddol a ffurfiau llenyddol. Amcan yr astudiaeth hon iydd manylu ar y modd y mae'r diwinydd a'r llenor yn defnyddio iaith, oblegid mewn gwirionedd, iaith yw'r cyfrwng sydd yn pontio gweithgarwch y ddau. Nid oes modd dirnad ystyr ddiwinyddol heb ein bod yn llunio darluniau, credoau trwy gyfrwng delwedd; yn yr un modd, y mae'r llenor, yntau, yn defnyddio dichonoldeb iaith i greu