hawlio mai hi yn unig yw eu gwarchodwr breintiedig. Gwrandawn ar Thomas Jones: Un o'r pethau yr ydw i'n eu hofni ydy y bydd y Methodistiaid ar ôl i mi farw yn brysio ati i gyfansoddi Cyffes Ffydd. Mi fu rhai am geisio hynny hyd yn oed a Mr. Charles yn fyw. Os gellwch chi rywsut yn y byd, ceisiwch atal hynny. Mae gennym-ni'r Erthyglau. Mi wn yn iawn ei bod yn rhy hwyr bellach inni aros y tu mewn i'r Eglwys Wladol. Ond yr un clasuron sy gennym ni â hwythau, yr un ddiwinyddiaeth, yr un traddodiad. Peidied y Methodistiaid a pheidied yr esgobion â gwneud dim i beri na fedran-nhw ddydd a ddaw gydaddoli eto yn yr hen lannau. Cofiwch, fechgyn, mai wrth adrodd y Litani yn y Llan, Trwy dy ddirfawr ing, y cychwynnodd y diwygiad yn Llangeitho. Un gair i gloi. 'Nes i'r gwir', meddai Saunders Lewis am ei berthynas â'r Methodistiaid, 'ydy, nad ydwyf i erioed wedi eu gadael'. Nid y gwir i gyd, mae'n amlwg. Fe gafodd yn Eglwys Rufain yr un sagrafen honno a oedd, yn ei olwg ef, yn gyfrwng addoliad pur, sef yr Offeren; cyfrwng na allai Methodistiaeth ei gynnig iddo. Eithr tybiaf y byddai'n ychwanegu iddo fynd â'i Fethodistiaeth gydag ef i'r Eglwys honno. MEREDYDD EVANS Cwmystwyth