E. G. MILLWARD, Cenedl o Bobl Ddewrion. Agweddau ar lenydd- iaeth Oes Victoria (Gomer, Llan- dysul, 1991) tt.189. Pris: £ 10.95. Dewisodd Mr. Millward deitl un o'i benodau yn deitl i'w lyfr, sef y bennod "'Cenedl o Bobl Ddewrion". Y Rhamant Hanesyddol yn Oes Victoria'. O ysgrifbin rhai ysgol- heigion byddai'r teitl hwn yn agored i'w gymryd yn eironig. Cymry Oes Victoria'n bobl ddewr- ion! 'Choelia'i fawr! Ond fel y dengys y bennod, nid yn eironig y bwriadodd Mr. Millward i ni gym- ryd y teitl. Fel y dywed ef: Cyfraniad y rhamantwr hanes- yddol oedd cynnig balm i ysbryd briw'r Cymry ac adfer rhywfaint o urddas iddynt yn nannedd ymosodiadau Victorianaeth. Gwnaethant hynny trwy greu oriel o arwyr dewr a delfryd o'r oesoedd arwrol gynt a allai fod yn ysbrydoliaeth i bobl a oedd yn prysur golli pob cyswllt â'u hanes. Cais i atal yr ymddieithrio diwylliannol hwn oedd y rhamantau. Ym myd delfrydol y straeon arwrol hyn gallai'r Cymry ymfalchio yn newrder eu harwyr gynt yn y frwydr yn erbyn gorthrymwyr y genedl, 'a'u bas- tarddiaeth garpiog', chwedl yr 'ymdeithydd cyntaf' yn Rheinallt ab Gruffydd. 'Pâr i'r gelyn sôn am danom eto, megys cynt, fel cenedl o bobl ddewrion, ac nid llyfrgwn diamddiffyn,' medd y bardd-broffwyd Lewis Glyn Cothi wrth Reinallt: 'Arwain ni i ddedwyddwch cenedlaethol a'th hunan i orsedd gogoniant a pharch'. Yn y byd dychmygol hwn o leiaf, safai'r Cymry ysgwydd wrth ysgwydd â llywod- raethwyr yr ymerodraeth fwyaf a welodd hanes erioed. Ni wn i beth oedd ei agwedd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddewisodd ei llenyddiaeth yn faes ymchwil i ddod erbyn hyn yn bennaf awdurdod arni, ond tybiaf ddarfod iddo o'r dechrau synhwyro fod rhyw fawredd yn perthyn i ymdrechion llenyddol ein cyndadau ac iddo ddilyn ei reddf wrth chwilio am y mawredd hwnnw fel y'i dangosodd ef ei hun mewn gwahanol gyfeiriadau. Yn sicr ddigon, bydd pawb a ddarlleno'r gyfrol hardd, swmpus a sylweddol hon yn ei chau gyda'r ymdeimlad fod ein cyndadau yn y ganrif ddiwethaf yn haeddu gwerthfawr- ogiad yn hytrach na dibrisiad, parch yn hytrach na dirmyg. Nid bod yr awdur yn peidio â bod yn feirniadol ac yn ymollwng i sentimentaliaeth. Yn hytrach parchodd lenyddiaeth y ganrif yn ddigon diffuant a didwyll i fynnu eu gwybod a'u hadnabod yn drwyadl. A thrylwyredd ei ymchwil sy'n ein hargyhoeddi ni ei fod yn iawn wrth ei pharchu. Mae Mr. Millward yn egluro'i agwedd fel ymchwiliwr yn ei agoriad i'w bennod ar 'Beirdd Ceredigion yn Oes Victoria'. Goddefer i mi ddechrau gyda'r wireb hon: y mae llenyddiaeth yn rhy bwysig i'w gadael i'r beirniad llenyddol Cam â llenyddiaeth yw anwybyddu'r seiliau dynol a chymdeithasol sydd iddi. Ad- lewyrchu meddwl dyn mewn cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol y mae llenyddiaeth. Rhaid deall amcan y llenor cyn cymhwyso dulliau dadansoddol at ei waith, er nad yw deall amcan yr ysgrifennwr o angenrheid- rwydd yn swm a sylwedd gwerth ei waith. Heb y deall cyd- destunol hwn ni all y feirniad- aeth lenyddol fod yn gyflawn ac yn ystyrlon heb ddweud dim mwy na hynny. Dadlau y mae Mr. Millward yma fod rhaid wrth yr hanesydd llên yn