Bangor A phawb yn cael galwad, ond Tywi a fi!' I mi yr oedd yn bwysig am ei fod yn wr i Moelona, ond mae'n debyg iddo wneud diwrnod da iawn o waith i warchod y Gymraeg yn ei ardal yn ogystal â thrwy'r 'Darian'. Gyda llaw, T. Valentine Evans oedd enw tad y Prifathro Emrys Evans, nid 'Vincent' (t.241). O safbwynt beirniad llenyddol y mae Robert Rhys yn pwyso a mesur J. J. Williams, yn 'Cân y Fwy- alchen'. Bu J.J. yn weinidog yn Nhreforys am chwarter canrif a mwy, 0 1915 i 1944. Tybiaf iddo yntau, fel Tywi, helpu i atal y llif Saesneg, ond canolbwyntir yma ar ei yrfa lenyddol, a'i weld yn 'addewid nas cyflawnwyd', am iddo lynu wrth 'yr awen lednais' a diwinyddiaeth ryddfrydol. Nid gwr o flaen ei oes ydoedd, mae'n amlwg, yn hytrach un a adlewyrchai ei oes ei hun. I hanesydd, wrth gwrs, mae ffigur felly yn gallu cynnig tystiol- aeth o bwys. Yr oedd Gwenallt, testun pennod olaf y llyfr, gan Peredur Lynch, wedi ei eni genhedlaeth ar ôl J.J. Cafodd addysg Prifysgol ac felly yr oedd yn fwy agored i ddylanwadau llenyddol o Loegr a Ffrainc, na'r J. J. canol oed â'i gefndir cwbl Gymreig, a oedd ymhlith y tri beirniad a ddyfarnodd awdl Gwenallt, 'Y Sant', yr orau yn Eisteddfod Treorci, 1928, ond a ataliodd y wobr oherwydd 'afledneisrwydd'. Ceir yma ymdriniaeth fanwl a hwyl- iog — o'r holl helynt a ddilynodd, y gwrthryfel yn erbyn John Morris- Jones fel beirniad, a lle'r 'Sant' yn natblygiad Gwenallt ei hun fel bardd. Er pwysiced ac er mor ddiddorol y ddwy bennod olaf, daliaf i deimlo'r angen am ddiwedd-glo mwy cyffredinol i gloi'r gyfrol yn gymen. Ar yr un pryd gorfoleddaf yn y gyfrol hon am roi ar glawr a chadw drysorau y mae perygl i'r cof amdanynt bylu, onid diflannu'n llwyr, mewn cyfnod o newid mor aruthrol. Brysied y golygydd ymlaen â'r gyfres hon! MARIAN HENRY JONES EMYR ROBERTS, Dyddiau Gras. Gol. John Emyr. tt.280, [9.95. Dyma gasgliad chwaethus a swmpus o ddetholion defosiynol, un ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn, a hynny gan lenor craff a bywiog, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1973. Nid oes gennyf amheuaeth na bydd yn cael ei gyfri ymhlith clasuron defosiynol y Gymraeg. Perthynai'r diweddar Barch. Emyr Roberts i adain efengylaidd yr hen Gorff. Mae gennyf gof am ddau fath o berson efengylaidd o fewn rhengoedd y Cyfundeb. Yn gyntaf, y math henffasiwn cynnes: y gweini- dogion a bregethai yn y dull a glywsant gan eu rhaglaenwyr, a gawsai dröedigaeth o dan y fath weinidogaeth, ac a arhosai'n ffyddlon i'r genadwri a arddelwyd gan sylfaenwyr yr enwad a chewri hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. 'Roedd yr ail fath yn ymwneud â chynnwys digon cyffelyb. Ond 'roedden nhw'n ymwybodol o bregethu mewn cyd-destun a hawl- iai eu bod yn 'gwahaniaethu': gweithredent ddirnadaeth brofiad gan arddel y gwahaniaeth hwnnw'n ddi-ofn. 'Roeddent yn gyfarwydd â datblygiadau neo-ryddfrydol Bult- mann, Tillich ac eraill, ac â Beirniadaeth Feiblaidd ryddfrydol. Ond gwelent hefyd fod y cwbl hwnnw yn dibynnu ar ragdybiau dynganolog. 'Roedd y math hwn o efengyleiddiwr wedi dadansoddi'r argyfwng anffodus a wynebai