Ffydd a thafod Sgwrs gyda Chymdeithas Ddiwinyddol Aberystwyth Y cwbl dw-i am ei wneud yn y sgwrs hon yw cydfyfyrio gyda chi uwchben cymhariaeth; a'm gwaith i fydd ceisio gwneud yr un gymhariaeth seml hon mor eglur ag y medraf. Dw-i am geisio dal deuoliaeth adnabyddus yn y Testament Newydd, sef Ffydd a Gweithredoedd gyferbyn â deuoliaeth ad- nabyddus yn Ieithyddiaeth y ganrif hon, sef Tafod a Mynegiant. Cymhariaeth yw hon dw-i'n dod ati o safbwynt Ieithyddiaeth, ac wrth gwrs cymhariaeth yn unig yw hi. 'Does a wnelo hi ddim yn llythrennol â ffenomenau o'r un fath. Hynny yw, nid honni'r wyf eu bod yn union debyg: nid yr un peth yw'r naill ochr i'r gymhariaeth a'r llall. Gadewch inni ddechrau felly drwy sôn am y ddeuoliaeth ieith- yddol. Beth yw perthynas 'Tafod' a 'Mynegiant'? Ystyr 'Mynegiant' mewn iaith yw'r iaith ar waith, y brawddegau ryn ni'n eu clywed 'nawr, y rhai sy fel petaen-nhw'n weledig neu'n glywedig. Gweithredoedd iaith. 'Tafod' yw'r trosiad a ddefnyddir am yr hyn sy'n anweledig yn y meddwl y cyfundrefnau sy'n sylfaen i bob dweud. Ymwneud y mae Tafod â pherthynas y patrymau iaith cyn eu defnyddio. Yr union eiliad yma yn ein meddyliau bob un ohonom y mae yna gyfundrefn o gyfundrefnau pethau megis tri pherson y rhagenw, amserau neu dympau'r ferf, perthynas unigol a lluosog, ac yn y blaen: nid brawddegau gorffenedig di-rif, yn gymaint a'r potensial ar gyfer llunio pethau felly. Hynny yw, y tu ôl i'r ffeithiau ieithyddol cyfarwydd fel y brawddegau hyn rych chi'n eu clywed 'nawr mae yna gyflwr arall hollol wahanol ar iaith yn y meddwl, cudd a chyfrinachol, sy'n rhagosodiad i'r Mynegiant. A gwaith yr ieithydd yw datguddio beth yw cynllun y fodolaeth gudd yna.