Y Weinidogaeth yn y Testament Newydd a'r Eglwys Fore Er gwaethaf ein tristwch wrth ystyried cyflwr eglwysi Cymru ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif y mae un peth y gallwn lawenhau o'i blegid: y mae'r cecru, y cweryla a'r cystadlu enwadol a nodweddai gyfnodau blaenorol bron â darfod yn llwyr yn y tir. Yn wir, fel enwadau yr ydym yn llawer parotach nid yn unig i oddef ein gilydd ond hefyd i werthfawrogi'n gilydd. Dichon nad yw hyn ond arwydd arall o'n nychdod cyffredinol, ond fe all fod hefyd yn rhagluniaethol, yn gyfle a estynnir i ni gan Dduw i chwilio beth yn strwythur ein heglwysi sydd yn eu cadw rhag cyflawni'n rhagorach eu cenhadaeth yn y byd sydd ohoni. Yn ein hymrafaelion enwadol yr arfer fu i bob enwad apelio at drefniadaeth eglwys y Testament Newydd a'r canrifoedd cynnar fel maen prawf dilysrwydd ei drefn ei hun. Ond y duedd oedd i'r enwadau bastynu ei gilydd â thermau a theitlau'r Eglwys Fore heb falio nemor ddim am ystyr a hanes yr enwau hyn, nac ystyried chwaith natur a gwerth yr apêl hon at hanes. Amcan yr hyn sy'n canlyn yw bwrw golwg unwaith eto ar hanes gweinidogaeth yr Eglwys Fore, a'r eirfa berthynol iddi, yn y gobaith y daw eu perthnasedd i'n sefyllfa ni i'r golwg. Y Deuddeg a'r Apostolion Aeth i fyny i'r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato. Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu ac i fwrw allan gythreuliaid (Marc 3: 13-15; ef. Math. 10: 1-4; Luc 6: 12-16). Mae y rhif 'deuddeg' yn y dyfyniad hwn yn arwyddocaol. Maer deuddeg penodedig yn cynrychioli deuddeg llwyth Israel. Hwy oedd y gweddill ffyddlon yr oedd yr Israel newydd i dyfu ohono, y cyfrwng yr oedd Duw i ddwyn ei ddibenion i ben drwyddo. I'r amcan hwn yr